Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: 22 Ionawr 2020
Meeting overview
Dyddiad: Dydd Mercher 22 Ionawr 2020
Amser: 9:30am to 12:35pm
Lleoliad: Ystafell Boothroyd, 3 Bunhill Row, Llundain
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: Bwrdd y Comisiwn, Dydd Mercher 26 Chwefror 2020
Who was at the meeting
John Holmes, Cadeirydd
Alasdair Morgan
Alastair Ross
Anna Carragher
Elan Closs Stephens
Joan Walley
Rob Vincent
Sarah Chambers
Stephen Gilbert
Sue Bruce (Fideo-gynhadledd)
Bob Posner, Prif Weithredwr
Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio
Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
Amanda Kelly, Cwnsler Cyffredinol
David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
David Meek, Uwch-gynghorydd, Llywodraethu
Petra Cress, Pennaeth Cynllunio, Perfformiad a Llywodraethu
Shumina Faruk, Swyddog Cymorth Prosiect
Tom Hawthorn, Pennaeth Polisi (ar gyfer eitemau 5 a 6)
Charlene Hannon, Pennaeth Canllawiau (ar gyfer eitemau 5, 6 a 7)
Katy Knock, Rheolwr Polisi (ar gyfer eitemau 5 a 6)
Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil (ar gyfer eitemau 5 a 6)
Kate Engels, Rheolwr Polisi (ar gyfer eitemau 5 a 6)
Carol Sweetenham, Pennaeth Prosiectau (ar gyfer eitem 7)
Niki Nixon, Pennaeth Cyfathrebu Allanol (ar gyfer eitemau 5, 6 a 7)
Ymddiheuriadau a chyflwyniadau
Dim ymddiheuriadau.
Datganiadau o fuddiant
Dim datganiadau o fuddiant newydd.
Datganiadau blynyddol o fuddiannau (EC 1/20)
Cam gweithredu: Dau aelod o'r bwrdd a'r Cadeirydd i ystyried pa rai o'u buddiannau mwy ymylol y gallai fod angen eu datgan.
Penderfynwyd: Y dylid cytuno ar y papur.
Cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019 (EC 2/20)
Cam gweithredu: Gofynnodd y Bwrdd am i'r cofnodion gael eu diwygio i adlewyrchu'r drafodaeth yn y cyfarfod blaenorol mewn perthynas ag arsylwi ar ddiwrnod yr etholiad.
Penderfynwyd: Y dylid cytuno ar gofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 4 Rhagfyr 2019, yn amodol ar y diwygiad uchod.
Ystyried Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig 2019 a materion cysylltiedig (diweddariad ar lafar)
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau ddiweddariad i'r Bwrdd am y gwaith a wnaed yn dilyn yr etholiad ym mis Rhagfyr. Roedd y Comisiwn yn dal i gasglu data o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys arolwg o ymgeiswyr, arolwg barn y cyhoedd ac arolwg o weinyddwyr etholiadol. Roedd deialog gynnar ag amrywiaeth o randdeiliaid o bob rhan o'r gymuned etholiadol wedi tynnu sylw at gryn dipyn o gysondeb rhwng yr hyn a nodwyd gan y Comisiwn yn ei adolygiad o'r data a'i sylwadau ar yr etholiadau.
Ystyriodd y Bwrdd yr heriau a ddeilliodd o'r faith bod nifer uchel o geisiadau cofrestru wedi cael eu gwneud yn agos at y dyddiad cau. Ystyrwyd bod nifer y ceisiadau dyblyg debyg i Etholiad Seneddol Cyffredinol y DU yn 2017, er nad oedd y data ar hyn yn glir eto. Roedd pwysau'r gwaith o reoli'r ceisiadau cofrestru hyn wedi peri risg sylweddol o ran y gallu i weinyddu'r etholiadau hyn yn llwyddiannus, gyda'r posibilrwydd o effeithio ar brofiad pleidleiswyr.
Amlinellodd y Pennaeth Polisi ganfyddiadau cychwynnol ymchwil ôl-etholiad y Comisiwn. Barn y cyhoedd oedd bod yr etholiad wedi'i gynnal yn dda ar y cyfan, er gwaethaf pwysau sylweddol ar y rhai a oedd yn rhedeg y gorsafloedd pleidleisio. Bu risgiau o ran cynnal etholiad yn llwyddiannus, ac roedd tystiolaeth i ddangos nad oedd niferoedd bach o bleidleiswyr wedi cael gwasanaeth o'r ansawdd yr oedd ganddynt yr hawl i'w ddisgwyl. Er enghraifft, bu rhai gwallau gyda chardiau pleidleisio mewn mannau, y gellid priodoli rhai ohonynt i raddau helaeth i bwysau ar gyflenwyr. Roedd pryderon wedi cael eu lleisio yng Ngogledd Iwerddon, yn dilyn honiadau gan chwythwyr chwiban. Roedd y rhain yn cael eu hystyried yn llawn. Roedd nifer o etholwyr tramor wedi cysylltu â'r Comisiwn i ddweud nad oeddent wedi gallu dychwelyd eu pleidlais drwy'r post mewn pryd er mwyn iddyi gael ei chyfrif.
Canfu ein hymchwil rai pryderon cyhoeddus o ran cywirdeb rhai deunyddiau ymgyrchu. Roedd hyn yn cynnwys labelu deunyddiau a chyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol, deunyddiau ymgeiswyr yn ymddangos fel newyddion lleol, a thryloywder ymgyrchu trydydd parti, o ystyried cynnydd sylweddol yn nifer yr ymgyrchwyr trydydd parti yn yr etholiad hwn. Hwn oedd yr Etholiad Cyffredinol cyntaf lle bu mwy o fesurau tryloywder ar waith ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol, ond nid oedd y rhain gystal ag yr hoffem o hyd. Gwelwyd hefyd anghysondeb yn lefelau tryloywder cwmnïau cyfryngau cymdeithasol gwahanol.
Nododd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio fod gwaith yr etholiad ymhell o fod ar ben o safbwynt rheoleiddio. Ni fyddai ffurflenni gwariant yn cael eu cyflwyno am gryn amser eto, ond, yn y cyfamser, roeddem eisoes wedi siarad â rhai partïon ac ymgyrchwyr trydydd parti, a byddem yn parhau i gymryd camau rhagweithiol i'w helpu i baratoi'r adroddiadau hyn. Roedd y data a ddarparwyd gan gwmnïau cyfryngau cymdeithasol o ran gwariant ar eu llwyfannau wedi bod yn ddefnyddiol ar gyfer y gwaith hwn.
Disgrifiodd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio waith y Gell Etholiadol, a sefydlwyd gan Swyddfa'r Cabinet, y cymerodd y Comisiwn ran ynddo yn ystod cyfnod yr etholiad. Roedd y gell yn cynnwys sefydliadau o Whitehall, yr heddlu a rheoleiddwyr eraill. Gwelsom fod ein cyfraniad wedi bod yn gadarnhaol o ran yr etholiad ac o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid. Roeddem wedi rhoi adborth i Swyddfa'r Cabinet ac wedi awgrymu ffyrdd o wella effeithiolrwydd cell etholiadol o'r fath mewn digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.
Nododd y Pennaeth Polisi y wybodaeth a gafwyd hyd yma mewn perthynas â bygwth ymgeiswyr. Ystyriodd y Bwrdd y dystiolaeth am achosion o fygwth a chydnabu fod creu sylfaen ddata effeithiol yn anodd. Awgrymodd yr ymchwil fod y mwyafrif helaeth o achosion o fygwth yn digwydd ar-lein. Nid oedd bygwth yn gyffredin ledled y wlad. Fodd bynnag, lle roedd achosion, roeddent yn eithaf difrifol. Ceisiodd y Bwrdd ddeall i ba raddau roedd achosion o fygwth yn digwydd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol penodol; nid oedd data clir ar gael ar hyn o bryd, ond wrth i hyn ddod yn gliriach, gwnaeth y Bwrdd annog y Comisiwn i rannu'r canfyddiadau hyn. Trafododd y Bwrdd rai achosion penodol yng Ngogledd Iwerddon.
Ystyriodd y Bwrdd ei benderfyniad i beidio ag arsylwi mewn gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad, a oedd wedi bod yn drueni. Nododd y Prif Weithredwr, yng nghyd-destun y risgiau i ddiogelwch, a oedd yn uchel ar y pryd, fod y ffaith nad oedd dim wedi digwydd i beri pryder yn ganlyniad da. Fodd bynnag, y gobaith oedd y byddai rhagor o amodau arferol ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.
Trafododd y Bwrdd y pwysau ar weinyddwyr etholiadol ac a ellid mynd i'r afael â'r pwysau hyn ac, os felly, sut. Gofynnodd y Bwrdd am eglurder, er enghraifft, ynghylch a ellid addasu amserlen yr etholiad i adlewyrchu newidiadau o ran y gofynion a roddir ar weinyddwyr ers cyflwyno cofrestru etholiadol ar-lein. Cadarnhaodd y Pennaeth Polisi y byddai angen newid y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer unrhyw newidiadau o'r fath. Awgrymodd y Cadeirydd y dylid hefyd ganolbwyntio ar hyrwyddo gwelliannau i'r system sylfaenol, megis datblygu adnodd chwilio a gwaith ehangach i foderneiddio'r broses gofrestru. Nododd y Bwrdd y newidiadau a ragwelir gan lywodraeth y DU i'r Ddeddf Seneddau Tymor Penodol. Un canlyniad posibl fyddai cyfnod gweinyddu byrrach cyn etholiadau, fel oedd yn digwydd cyn y ddeddf.
Roedd natur y gwaith adrodd ôl-etholiad y tro hwn yn cael ei hystyried. Roedd angen cyhoeddi adroddiadau cyn etholiadau mis Mai. Roedd cyfleoedd i rannu negeseuon pwysig am etholiadau yn y dyfodol, yn ogystal â'r ddyletswydd statudol i'w cyflawni.
Nododd y Bwrdd fod y Comisiwn wedi paratoi'n dda ar gyfer yr etholiadau, gwelwyd bod yr etholiad wedi'i gynnal yn dda ar y cyfan, ac roedd y canlyniad yn ddibynadwy heb unrhyw amheuaeth. Nododd y Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau y gwahanol heriau a ddeilliodd o etholiadau cyfunol, fel ym mis Mai 2020, yn hytrach nag etholiad annibynnol.
Blaenoriaethau polisi'r llywodraeth yn dilyn Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU (EC 3/20)
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil wrth y Bwrdd am y meysydd lle roedd llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei blaenoriaethau ar gyfer newidiadau polisi a rheoliadol a fyddai'n effeithio ar waith y Comisiwn. Roedd ansicrwydd o hyd ynghylch lefel yr uchelgais a'r amserlenni mewn rhai meysydd o hyd. Serch hynny, roedd yn glir bod gan yr holl newidiadau arfaethedig oblygiadau sylweddol i waith y Comisiwn dros dymor y Senedd, er bod llawer o hyn eisoes wedi'i adlewyrchu yn ein gwaith cynllunio presennol.
Ystyriodd y Bwrdd rai o flaenoriaethau polisi penodol y llywodraeth, gan gynnwys newidiadau i ba mor aml y dylid ailymgeisio i bleidleisio drwy'r post, a goblygiadau'r Comisiwn Cyfansoddiad, Democratiaeth a Hawliau arfaethedig. Myfyriodd y Bwrdd ar y ffordd y gellid mynd i'r afael â'r rhain yn ein cynllun corfforaethol. Cadarnhaodd y cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil y byddai'r Comisiwn yn parhau i gyflwyno'r achos dros ei flaenoriaethau polisi, er nad oedd y rhain yn flaenoriaethau i lywodraeth y DU ar hyn o bryd.
Ystyriodd y Bwrdd feysydd eraill lle gallai llywodraeth y DU wneud newidiadau i'r polisi, megis ar bleidleiswyr tramor. Dylid bod yn barod i bwyso am atebion arloesol o dan amgylchiadau o'r fath. Ystyriodd y Bwrdd adroddiad terfynol arfaethedig Comisiwn y Gyfraith ynghylch diwygio cyfraith etholiadol, y byddai angen i'r llywodraeth ymateb iddo.
Penderfynwyd: Y dylid cytuno ar y papur.
Cynllun corfforaethol a chyllideb 2020/25 (EC 4/20 a 5/20)
Amlinellodd y Prif Weithredwr ein dull gweithredu i gyflawni ein rhwymedigaeth i baratoi cynllun corfforaethol i'w ystyried gan Bwyllgor y Llefarydd yn dilyn Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU. O ganlyniad i gyfyngiadau amser, byddem yn paratoi cynllun corfforaethol dros dro ar gyfer Pwyllgor y Llefarydd, ac yn gofyn am ganiatâd i baratoi cynllun corfforaethol mwy cynhwysfawr ar gyfer 2021. Roedd y papur hwn yn adlewyrchu trafodaeth cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ym mis Rhagfyr 2019. Roedd y prif amcangyfrif yn cynnwys cynnydd arfaethedig yn ein cyllideb graidd, a oedd yn unol â'r cynnydd i Swyddfa'r Cabinet.
Edrychodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn fanwl ar ffigurau'r gyllideb arfaethedig. Roedd dros hanner y cynnydd arfaethedig o ganlyniad i'r newidiadau cyfrifyddu mewn perthynas â phrydlesu swyddfeydd nad oedd modd eu haddasu. Roedd nifer y digwyddiadau etholiadol yn 2020 a 2021, a'u pwysogrwydd, wedi effeithio ar y gyllideb digwyddiadau arfaethedig. At hynny, roedd gwaith rheoleiddio wedi mynd rhagddo gan Etholiad Seneddol Ewrop ac Etholiad Cyffredinol Seneddol y DU, ynghyd â'r angen i weithio gyda llywodraethau ar eu blaenoriaethau etholiadol datganedig.
Pwysleisiodd y Bwrdd fod angen i'r llythyr eglurhaol i Bwyllgor y Llefarydd i ategu'r cynllun corfforaethol nodi'n glir y rhesymau dros y cais am gynnydd cymharol fach i'r gyllideb graidd, gan gynnwys i ba raddau yr oedd y gwaith i gefnogi rhaglenni'r llywodraethau wedi llywio hyn. Dylid hefyd bwysleisio bod y ddisgyblaeth a'r
trylwyredd a ddangoswyd gennym wrth gynllunio a rheoli ein cyllideb, ac osgoi unrhyw argraff o hunanlongyfarch.
Penderfynwyd:
Dylid cymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol dros dro ar gyfer 2020/2025 a'r gyllideb, fel y'u nodir yn yr Atodiad i'r eitem hon
Y dylid cytuno ar y Prif Amcangyfrif ar gyfer 2020/2021 sy'n atodedig (gyda Chyfansymiau Rheolaethau Seneddol wedi'u nodi yn Nhabl 4 y ddogfen), sy'n ymgorffori'r cyllidebau hynny, a Chynllun Corfforaethol 2020/2025 i'w cyflwyno i Bwyllgor y Llefarydd
Y dylid cytuno i ddirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu, gan weithio gyda'r Cadeirydd, wneud mân ddiwygiadau i'r Cynllun Corfforaethol a'r Prif Amcangyfrif er mwyn adlewyrchu datblygiadau annisgwyl rhwng cymeradwyaeth y Bwrdd a'i gyflwyno i Bwyllgor y Llefarydd.
Cynllun corfforaethol 2021/26
Gwnaeth y Prif Weithredwr atgoffa'r Bwrdd mai'r cynllun corfforaethol hwn fyddai'r tro cyntaf y byddem yn adrodd i dair senedd: Y Senedd, San Steffan a Senedd yr Alban. Roedd angen ystyried eu cylchoedd cyllideb gwahanol.
Esboniodd y Pennaeth Cynllunio, Perfformiad a Llywodraethu yr amserlen ar gyfer paratoi cynllun corfforaethol cynhwysfawr. Er mwyn datblygu'r cynllun corfforaethol ar gyfer 2021/26, byddai'r Comisiwn yn creu map strategaeth sy'n dangos sut mae holl elfennau'r cynllun yn cysylltu mewn ffordd resymegol, ac yn dangos cysylltiad agos rhwng adroddiadau perfformiad yn â hynny. Yna, byddai'r cynllun naratif yn cael ei ysgrifennu yn unol â'r map strategaeth, gan drosi'r map strategaeth yn stori y gall pawb ei deall yn hawdd. Hefyd, byddai ymgysylltiad cynnar ac agos â rhanddeiliaid allweddol.
Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad y dyddiadau cau ar gyfer paratoi'r cynllun hwn. Er na fyddai Pwyllgor y Llefarydd yn edrych ar y cynllun corfforaethol tan fis Chwefror/Mawrth 2021, byddai'n rhaid i anelu at ddyddiad cau ym mis Medi 2020 er mwyn i ni fodloni'r terfyn amser a bennwyd gan y gweinyddiaethau datganoledig. Nododd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol y byddai Senedd Cymru a senedd yr Alban yn cyfrannu cyllid cyfrannol at y Comisiwn, ac y byddent yn disgwyl eglurder ynglŷn â'r hyn roeddent wedi'i ariannu.
Roedd y Bwrdd yn hyrwyddo trafodaethau cynnar am y strategaeth â rhanddeiliaid, yn ystyried rhinweddau defnyddio grwpiau ffocws i ategu'r sylfaen wybodaeth ymchwil, ac yn annog ymgysylltu â grwpiau, gan gynnwys pobl ifanc, yr oeddem fel arfer yn cael llai o gyswllt â nhw.
Penderfynwyd: Y dylid cytuno ar y papur.
Blaengynllun o fusnes y Bwrdd (EC 6/20)
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
System olrhain camau gweithredu (EC 7/20)
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Cyfarfodydd y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr a chyfarfodydd pwysig yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon (EC 8/20)
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.