Lleoliad: Ystafell Boothroyd, 3 Bunhill Row, Llundain
Who was at the meeting
John Holmes, Cadeirydd
Alasdair Morgan
Alastair Ross
Anna Carragher
Elan Closs Stephens
Joan Walley
Rob Vincent
Sarah Chambers
Stephen Gilbert
Sue Bruce (Fideo-gynhadledd)
Bob Posner, Prif Weithredwr
Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
Kieran Rix, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu ac Ymchwil
Dan Adamson, Pennaeth Monitro a Gorfodi
Katharine Sparrow, Uwch Gynorthwyydd Gweithredol
Ymddiheuriadau a chyflwyniadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganiadau o fuddiant
Nododd John Holmes nad oedd yn Gadeirydd bwrdd cynghori CargoLogicAir mwyach am fod y bwrdd wedi dod i ben.
Newidiadau arfaethedig i aelodaeth y pwyllgor (EC 24/19)
Cyflwynodd John Holmes y papur, ac eglurodd mai cyfnod hiraf aelodaeth pwyllgor oedd chwe blynedd fel arfer. Roedd Anna Carragher newydd gwblhau ei seithfed blwyddyn ar y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol, ar ôl i'r Bwrdd gytuno i ymestyn ei chyfnod fel eithriad. Roedd bellach yn briodol iddi gael ei disodli ar y pwyllgor.
Enwebodd y Cadeirydd Sarah Chambers.
Penderfynwyd: Y caiff Sarah Chambers ei phenodi'n aelod o'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol am gyfnod o dair blynedd.
Unrhyw fater arall
Cytunwyd na fyddai'r Bwrdd yn cwrdd yn ôl y disgwyl ar 22 Mai 2019 am mai hwn oedd y diwrnod cyn Etholiad Senedd Ewrop. Byddai dyddiad newydd yn cael ei ddewis ar ddechrau mis Mehefin.
Penderfynwyd: Y dylid aildrefnu cyfarfod arfaethedig y Bwrdd ar 22 Mai 2019 ar ddechrau mis Mehefin.