Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2020
Meeting summary
Dyddiad: Dydd Mercher 2 Rhagfyr 2020
Amser: 9:30am-1pm
Lleoliad: Drwy gyfrwng fideogynadledda
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: dydd Mercher 20 Ionawr
Yn bresennol
- John Holmes, Cadeirydd
- Sue Bruce
- Anna Carragher
- Sarah Chambers
- Elan Closs Stephens
- Stephen Gilbert
- Alasdair Morgan
- Rob Vincent
- Joan Walley
Yn y cyfarfod:
- Bob Posner, Prif Weithredwr
- Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio
- Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
- Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Rupert Grist, Cwnsler Cyffredinol Dros Dro
- David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
- Andy O’Neill, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yn yr Alban (Eitem 7)
- Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yn yr Alban (Eitem 7)
- Tim Crowley, Pennaeth Cyfathrebu Digidol a Dysgu (Eitem 8)
- Sarah Barker, Uwch-swyddog Cyfathrebu (Eitem 8)
- Zena Khan, Uwch-gynghorydd, Llywodraethu
Ymddiheuriadau a chyflwyniadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a hysbysodd y Bwrdd fod Tŷ'r Cyffredin wedi cymeradwyo adnewyddu cyfnodau Elan Closs Stephens a Sue Bruce yn y swydd a bod y Warant Frenhinol wedi'i derbyn ar gyfer Alasdair Morgan.
Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant newydd.
Cofnodion cyfarfod blaenorol y Bwrdd (EC 87/20)
Nododd y Comisiynwyr y broses statudol hir ar gyfer penodi Comisiynwyr. Gallai hyn effeithio ar y cworwm yng nghyfarfodydd y Bwrdd ond nid oedd hynny'n debygol ar hyn o bryd.
Penderfynwyd: Y dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 21 Hydref 2020.
Amcangyfrif Atodol 2020/21 (EC 88/20)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yr adroddiad a'r papur atodol yn dadansoddi'r newidiadau arfaethedig. Roedd y newidiadau yn ymwneud yn bennaf â'r penderfyniad i ohirio etholiadau Mai 2020 ac, o ganlyniad i hynny, y ffaith bod modd dychwelyd swm sylweddol o arian i Drysorlys EM.
Nodwyd bod anawsterau yn ymwneud â chyflenwyr, a oedd y tu allan i reolaeth y Comisiwn, wedi arwain at oedi cyn rhoi prosiect newydd Cyllid Gwleidyddol Ar-lein ar waith. Roeddent yn hyderus y gallai'r prosiect gael ei gwblhau'n llwyddiannus gan ddefnyddio adnoddau mewnol, gan gynnwys rhai recriwtiaid ychwanegol. Y bwriad bellach oedd cyflwyno'r system ym mis Medi 2021. Byddai hyn yn gofyn am adnoddau ychwanegol ar ben cyllideb y prosiect. Ni ellid diystyru cymryd camau yn erbyn y cyflenwyr. Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio wedi cael ei ffrifio'n fanwl.
Cytunwyd y byddai'r Bwrdd yn cael diweddariadau rheolaidd pellach ar brosiect Cyllid Gwleidyddol Ar-lein.
Penderfynwyd: Y dylai'r Comisiynwyr gymeradwyo’r newidiadau sydd eu hangen ar gyfer cyllideb 2020/21 a'u cyflwyno i Bwyllgor y Llefarydd.
Yr adroddiad ar berfformiad chwarter 2, 2020/21 (EC 89/20)
Derbyniodd y Comisiynwyr yr adroddiad, gan nodi'r sefydlogrwydd yn yr Adran Adnodau Dynol. Trafodwyd statws rhai achosion cyfredol a oedd yn ymwneud â chofrestru pleidiau.
Trafododd y Comisiynwyr ffyrdd o fynd ati i adnewyddu'r swyddfeydd yn Bunhill Row ac effaith canllawiau iechyd y cyhoedd ar gyfer Covid-19 gan gynnwys gweithio gartref.
Penderfynwyd: Y dylai'r adroddiad gael ei nodi.
Mater llywodraethu (EC 90/20)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y trefniadau dros dro arfaethedig o 1 Ionawr 2021 ymlaen, nes i Gadeirydd newydd gael ei benodi.
Nododd y Comisiynwyr y sefyllfa o ran recriwtio'r Cadeirydd newydd yn ogystal â Phrif Gomisiynydd newydd yng Ngogledd Iwerddon.
Penderfynwyd: Nes i Gadeirydd newydd y Comisiwn gael ei benodi a dechrau ar ei ddyletswyddau, y dylai Rob Vincent weithredu fel y prif Gomisiynydd fel y bo'n briodol, gan gynnwys cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd, rhyngweithio â'r Comisiynwyr eraill, gweithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr y Comisiwn ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol allweddol.
Penderfynwyd: Y gofynnir, o bosibl, i Gomisiynwyr eraill, yn enwedig Sarah Chambers, gynorthwyo yn ôl yr angen.
Diweddariad ar etholiadau 2021 (EC 91/20)
Rhoddodd cyfarwyddwyr y Comisiwn gyflwyniad a oedd yn ymdrin â'r prif faterion allweddol canlynol:
- Cynllunio er mwyn sicrhau bod etholiadau Mai 2021 mor ddiogel â phosibl yng nghyd-destun Covid-19, gan gynnwys ymchwil barn y cyhoedd arfaethedig i agweddau ar bleidleisio yn y cyd-destun hwn yng Nghymru a Lloegr.
- Ymgysylltu â llywodraethau, gan gynnwys deddfwriaeth newydd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
- Cefnogi gweinyddwyr etholiadol
- Cefnogi pleidleiswyr, gan gynnwys drwy ymgyrchoedd cyhoeddus
- Cefnogi a rheoleiddio ymgyrchwyr
Trafododd y Comisiynwyr effeithiau cyfyngiadau Covid-19, yn arbennig mewn gorsafoedd pleidleisio, rheoli disgwyliadau a rhoi tawelwch meddwl i aelodau o'r cyhoedd ynglŷn â phleidleisio'n bersonol.
Penderfynwyd: Y dylai'r cyflwyniad gael ei nodi.
Diweddariad ar adnoddau addysg pleidleiswyr (EC 92/20)
Cafodd y Comisiynwyr adroddiad cefndir ynghyd â chyflwyniad a gyflwynwyd gan y Pennaeth Cyfathrebu Digidol a Dysgu, gan nodi'r pwyntiau allweddol canlynol:
- Partneriaethau cryf â'r gweinyddiaethau datganoledig
- Hyrwyddo a lledaenu deunyddiau digidol a ffisegol
- Adborth gan randdeiliaid, a oedd wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma • Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
Croesawodd y Comisiynwyr y cynnydd a oedd wedi'i wneud yn y maes gwaith hwn a thrafodwyd darparwyr dysgu, cost deunyddiau, adnoddau a chyllidebau yn y dyfodol.
Nodwyd y byddai adborth gan addysgwyr a myfyrwyr 16-18 oed yn cael ei geisio drwy arolygon a thrwy gynlluniau i gynnal grwpiau ffocws ym mis Ebrill 2021.
Penderfynwyd: Y dylai'r adroddiad a'r cyflwyniad gael eu nodi.
Diweddariad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau
Y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol (EC 93/20)
Rhoddodd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol ddiweddariad cryno ar gyfarfod diwethaf y pwyllgor hwnnw a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020, a oedd yn ymdrin â'r canlynol:
- Sesiwn adborth gan staff
- Strategaeth pobl
- Gwaith ym maes Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant • Ymarfer meincnodi cyflogau
Penderfynwyd: Y dylai'r diweddariad gael ei nodi.
Y Pwyllgor Archwilio (EC 94/20)
Rhoddodd y Pwyllgor Archwilio ddiweddariad cryno ar gyfarfodydd diwethaf y pwyllgor hwnnw a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd a 1 Rhagfyr, a oedd yn ymdrin â'r canlynol:
- Cynlluniau archwilio mewnol ac allanol
- Gweithdy ar yr awydd i gymryd risgiau
- Adolygiad o'r Cynllun Parhad Busnes
- Rhestr o bolisïau
- Diweddariad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol
- Argymhellion yr Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd
- Adroddiad at wraidd y mater – risg ariannol
Nodwyd y byddai'r adroddiad at wraidd y mater ar risg ariannol yn cael ei gynnwys ym mlaengynllun busnes y Bwrdd i'w drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Cam gweithredu: Diweddaru Blaengynllun busnes y Bwrdd drwy ychwanegu'r ‘Adroddiad at wraidd y mater – risg ariannol’ ato
Penderfynwyd: Y dylai'r diweddariad gael ei nodi.
Diweddariad y Prif Weithredwr (EC 95/20)
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad, gan dynnu sylw at effaith pandemig Covid-19 ar waith y Comisiwn. Roedd y Comisiwn wedi dod drwy'r pandemig hwn yn dda, ond roedd yn wynebu heriau o hyd. Rodd gan y Comisiynwyr ddiddordeb yn effaith pandemig y Coronafeirws ar gynhyrchiant, beth y gallai'r ‘normal newydd’ ei olygu ar ôl i'r pandemig ddod i ben a'r cyfle roedd hyn yn ei gynnig i edrych o'r newydd ar ffyrdd o wneud pethau. Rhoddwyd diweddariad ar benderfyniad y Llywodraeth i roi'r cyfrifoldeb am reoleiddio niweidiau ar-lein i Ofcom.
Nodwyd y byddai cyflwyniad ysgrifenedig y Comisiwn i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol yn Senedd y DU yn cael ei ddosbarthu i bob Comisiynydd.
Diolchodd y Comisiynwyr i'r Prif Weithredwr a'r timau am y diweddariad cynhwysfawr. Nodwyd y posibilrwydd o symleiddio diweddariad y Prif Weithredwr er mwyn lleihau'r adnoddau sydd angen eu defnyddio i'w lunio, heb leihau'r wybodaeth allweddol ynddo.
Cam gweithredu: Y Cyfarwyddwr Rheoleiddio i ddosbarthu cyflwyniad ysgrifenedig y Comisiwn i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol Gweinyddiaeth a Materion Cyfansoddiadol.
Penderfynwyd: Y dylai'r adroddiad gael ei nodi.
System olrhain camau gweithredu Bwrdd y Comisiwn (EC 96/20)
Penderfynwyd: Y dylai system olrhain camau gweithredu Bwrdd y Comisiwn gael ei nodi.
Blaengynllun busnes y Bwrdd (EC 97/20)
Penderfynwyd: Y dylai Blaengynllun busnes y Bwrdd gael ei nodi.
Unrhyw fater arall
Diolchodd y Cadeirydd i Anna Carragher ar ran Bwrdd y Comisiwn a'r Tîm Gweithredol am ei chyfraniad at Fwrdd y Comisiwn dros y naw mlynedd diwethaf Nodwyd ei bod yn debygol mai hi oedd yr aelod o'r Bwrdd a oedd wedi gwasanaethu am y cyfnod hwyaf hyd yma. Roedd Anna wedi dod â chyfoeth o brofiad gyda hi ac roedd ei gwaith yng Ngogledd Iwerddon wedi bod o gymorth mawr i'r Comisiwn.
Diolchodd y Prif Weithredwr i'r Cadeirydd, John Holmes, ar ran y Tîm Gweithredol a'r staff yn gyffredinol am ei arweinyddiaeth dros y pedair blynedd diwethaf. Diolchodd Alasdair Morgan i'r Cadeirydd ar ran y Comisiynwyr eraill a dymunodd yn dda iddo i'r dyfodol.