Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: Dydd Mercher 26 Chwefror 2020
Meeting overview
Dyddiad: Dydd Mercher 26 Chwefror 2020
Amser: 09:30am to 12:35pm
Lleoliad: Ystafell Boothroyd, 3 Bunhill Row, Llundain
Dyddiad y cyfarfod nesaf a drefnwyd: Dydd Mercher 18 Mawrth 2020
Who was at the meeting
John Holmes, Cadeirydd
Alasdair Morgan (heblaw ar gyfer eitem 4)
Anna Carragher
Elan Closs Stephens
Joan Walley (heblaw ar gyfer eitem 4)
Rob Vincent
Sarah Chambers
Stephen Gilbert (heblaw ar gyfer eitem 4)
Sue Bruce
Bob Posner, Prif Weithredwr
Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio
Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
Amanda Kelly, Cwnsler Cyffredinol Dros Dro
David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
David Meek, Uwch-gynghorydd, Llywodraethu
Petra Cress, Pennaeth Cynllunio, Perfformiad a Llywodraethu
Adrian Fryer, Uwch Gyfreithiwr (ar gyfer eitem 4)
Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil (ar gyfer eitem 4)
Niki Nixon, Pennaeth Cyfathrebu Allanol (ar gyfer eitem 4)
Hamish Love, Uwch Gynghorydd, Perfformiad a Mewnwelediad (ar gyfer eitemau 5 a 6)
Ymddiheuriadau a chyflwyniadau
Dim ymddiheuriadau.
Nododd y cadeirydd fod Alistair Ross, ar ei gais, wedi cael ei ryddhau gan Ei Mawrhydi o'i Warant Brenhinol, i ymgymryd â swydd yn cynghori llywodraeth Gogledd Iwerddon. Diolchodd y cadeirydd iddo am ei wasanaeth fel Comisiynydd.
Datganiadau o fuddiant
Dim datganiadau o fuddiant newydd.
Cofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 22 Ionawr 2020 (EC 10/20), nodyn o'r sesiwn anffurfiol ar 22 Ionawr (EC 11/10), a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol ar 5 Chwefror 2020 (EC 12/20)
Cam gweithredu: Gofynnodd y Bwrdd am i nodiadau'r sesiwn anffurfiol gael eu diwygio i adlewyrchu dyddiad cywir y sesiwn anffurfiol.
Penderfynwyd: Y dylid cytuno ar gofnodion cyfarfod Bwrdd y Comisiwn ar 22 Ionawr 2020. Nodwyd cofnodion y sesiwn anffurfiol ar 22 Ionawr, yn amodol ar y diwygiad uchod, a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol ar 5 Chwefror 2020.
Asesiad Adran 10 (EC 13/20 a 13A/20)
Siaradodd y Cwnsler Cyffredinol am y cyngor a roddwyd yn 13A/20. Hysbysodd y Prif Weithredwr y Cwnsler Cyffredinol am ganlyniadau posibl gwrthdaro buddiannau canfyddedig Comsiynwyr os byddai proses graffu ar unrhyw benderfyniad, yn cynnwys gan y llysoedd.
Nid oedd tri Chomisiynydd, Joan Walley, Alisdair Morgan a Stephen Gilbert, yn bresennol ar gyfer gweddill yr eitem.
Cytunodd y Bwrdd i ystyried yr eitem yn y cyfarfod hwn, yn cynnwys y cais gan Lywodraeth y DU am oedi er mwyn ei galluogi i ystyried yn llawn oblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol cais Llywodraeth yr Alban a'r sail y'u gwnaed.
Penderfynwyd:
Yn gyson â gwybodaeth a chyngor cyfreithiol, y dylai'r Comisiwn wneud paratoadau angenrheidiol er mwyn ymateb mewn modd amserol, os bydd y Bwrdd yn penderfynu cymeradwyo'r cais o dan a.10 i roi cyngor a chymorth i Lywodraeth yr Alban mewn perthynas â chwestiwn refferendwm posibl.
Y dylid ystyried y cais yn fwy llawn yng nghyfarfod y Bwrdd ar 18 Mawrth neu fel sy'n briodol.
Y dylid gofyn i Lywodraeth y DU roi manylion unrhyw faterion sy'n bwysig i'r penderfyniad yn ei barn hi unwaith y bydd wedi ystyried goblygiadau'r cais erbyn diwedd y diwrnod gwaith ddydd Mercher 4 Mawrth.
Y bydd y Comisiwn yn sicrhau bod yr holl ohebiaeth berthnasol ar y mater yn agored ac ar gael i Lywodraeth yr Alban, ac yn yr un modd bod unrhyw sylwadau a wneir gan Lywodraeth yr Alban ar gael i Lywodraeth y DU.
Er nad yw'n ymwneud yn benodol â'r mater hwn, ond yn fwy eang â rôl Comisiynwyr a enwebwyd, y dylid gofyn i'r Prif Weithredwr ystyried y ffordd orau o godi'r mater o wrthdaro buddiannau canfyddedig wrth iddo effeithio ar Gomisiynwyr a enwebwyd gyda'r Llywodraeth.
Yr adroddiad ar berfformiad chwarter 3 2019/20 (EC 14/20 a 15/20)
Ystyriodd y Bwrdd yr adroddiad, a thrafodwyd y gwahaniaeth rhwng gwaith gweithredol a gwaith prosiect. Nododd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol fod gwaith gweithredol ar y trywydd cywir o hyd, ond bod gwaith prosiect penodol wedi'i oedi er mwyn i staff allu canolbwyntio adnoddau ar Etholiad Cyffredinol annisgwyl Senedd y DU. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio sicrwydd i'r Bwrdd fod tîm penodedig yn gweithio i sicrhau bod gwaith oedd wedi cael ei ohirio yn y gyfarwyddiaeth honno yn cael ei brosesu cyn gynted â phosibl.
Nododd y Bwrdd y nifer cynyddol o geisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Cheisiadau Gwrthrych am Wybodaeth a gafwyd yn Chwarter Tri, a'r dirywiad yn y gyfradd ymateb i'r ceisiadau hyn. Clywodd y Bwrdd, o ran Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth mai'r her oedd asesu'r wybodaeth a oedd gennym am yr unigolion hyn er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r cais, yn hytrach na chanfod y wybodaeth honno. Nododd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ein bod wedi hyfforddi mwy o staff yn y modd y dylid ymateb i geisiadau o'r fath.
Ystyriodd y Bwrdd y gweithgaredd o gefnogi astudiaeth ddichonoldeb ar opsiynau ar gyfer moderneiddio'r broses gofrestru etholiadol. Cytunodd y Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau i ychwanegu sylwadau er mwyn amlinellu camau nesaf y broses hon, nawr bod y cam cyntaf wedi'i gwblhau.
Trafododd y Bwrdd ddirwyon diweddar ar gyfer pleidiau a oedd wedi methu â datgan cyllid cyhoeddus a gawsant yn briodol. Awgrymodd y Bwrdd y dylid cynnwys pleidiau mwy fel rhan o archwiliadau rheolaidd o wariant a ddatganwyd.
Cafodd y Bwrdd ddiweddariad ar y modd yr oedd Brexit ar 31 Ionawr wedi effeithio ar y Comisiwn. Hefyd, gofynnodd y Bwrdd am ddiweddarad ar hynt newidiadau deddfwriaethol arfaethedig.
Cam gweithredu: Y Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau i ychwanegu sylwadau er mwyn amlinellu camau nesaf y broses o foderneiddio cofrestru etholiadol.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Cynllunio corfforaethol 2021/26 (EC 16/20 a 17/20)
Amlinellodd y Prif Weithredwr y wybodaeth gefndirol a baratowyd ar gyfer y drafodaeth. Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad drosolwg o'r broses a ddilynwyd gan yr uwch grŵp arwain i lunio'r cynllun corfforaethol ar gyfer 2021/26.
Ystyriodd y Bwrdd y gydberthynas rhwng buddiannau a ffactorau ysgogi. Hefyd, trafododd y Bwrdd ddulliau gweithredu amgen i ddatblygu'r cynllun corfforaethol hwn, yn cynnwys p'un a allai'r Comisiwn ymgysylltu'n fwy â rhanddeiliaid, yn benodol rheoleiddwyr a oedd yn wynebu amgylchiadau tebyg, fel Ofcom. Byddai rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun yn cynnwys ystyried meysydd lle roedd gwaith y Comisiwn yn gorgyffwrdd â'r gwaith a wneir gan randdeiliaid eraill.
Nododd y Bwrdd fod y wybodaeth a roddwyd yn y dadansoddiad yn golygu ei fod mewn sefyllfa dda i ddelio â digwyddiadau annisgwyl, ond nid yr hyn a oedd yn anhysbys. Nododd y Cyfarwyddwr Rheoleiddio fod yr amserlen heriol wedi ein hatal rhag cymryd dull gweithredu mwy eang wrth ddatblygu'r cynllun hwn, ond y dylem geisio mewnbwn gan randdeiliaid o hyd.
Cynigiodd y Bwrdd ei gefnogaeth drwy gyfrannu at y broses o ddatblygu'r cynllun, er enghraifft drwy ymgynghori â grwpiau bach o Gomisiynwyr mewn meysydd penodol. Awgrymodd y Bwrdd fod cyflwr y system gweinyddu etholiadau yn faes yr oedd angen ei ystyried wrth ddatblygu'r cynllun.
Gofynnodd y Bwrdd am sicrwydd y rhoddir ystyriaeth i amrywiaeth ddaearyddol, cymdeithasol ac economaidd newidiol wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Nododd y Bwrdd y crynodiad cynyddol o weithgarwch cymdeithasol ac economaidd yn Llundain a De-ddwyrain Lloegr, ac ystyriodd sut y gallai hyn effeithio ar waith i ymgysylltu â'r cyhoedd ac ar ymddiriedaeth y cyhoedd. Ystyriodd y Bwrdd y dylem gynnwys gwaith cynllunio dichonoldeb tuag at gynnal etholiadau ag allyriadau sero-net.
Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad y byddem yn defnyddio dadansoddiadau asesu effaith yn erbyn pob buddiant.
Cam gweithredu: Y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol i ystyried y ffordd orau o sicrhau bod Comisiynwyr yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r Cynllun Corfforaethol.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Diweddariad y Prif Weithredwr (EC 18/20)
Rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad i'r Bwrdd ar argymhelliad diweddar o'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol: “all political parties registered with the Commission in England and Wales must ensure that they have a comprehensive safeguarding policy.” Roedd yn galw ar y Comisiwn i fonitro a goruchwylio cydymffurfiaeth â'r argymhelliad hwn.
Clywodd y Bwrdd mai'r farn gychwynnol mewn ymateb i'r argymhelliad hwn oedd ei fod y tu hwnt i'n cylch gwaith ac i'n sgiliau a'n profiad. Nododd y Bwrdd hefyd y nifer mawr o bleidiau gwleidyddol, yr oedd llawer ohonynt yn bleidiau cymharol fach, y byddai angen llunio'r rhwymedigaeth hon ar eu cyfer mewn modd cymesur.
Clywodd y Bwrdd y byddai'r staff yn cysylltu â'r ymchwiliad yn anffurfiol mewn perthynas â'r mater hwn, cyn i'r staff baratoi ymateb ysgrifenedig.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Blaengynllun o fusnes y Bwrdd (EC 19/20)
Ystyriodd y Bwrdd a ddylid cael diweddariadau mwy rheolaidd a sylweddol ar gyd-destun ehangach ar sail gwledydd y gwaith a wneir yn y swyddfeydd datganoledig. Byddai hyn yn cael ei ystyried fel rhan o adolygiad effeithiolrwydd y Bwrdd.
Cam gweithredu: Ychwanegu asesiad a.10 i gyfarfod Bwrdd mis Mawrth.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
System olrhain camau gweithredu (EC 20/20)
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.
Cyfarfodydd y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr a chyfarfodydd pwysig yng Nghymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon (EC 21/20)
Nododd y Prif Weithredwr y gallai'r papur hwn gael ei ehangu i gynnwys manylion cyfarfodydd pwysig â rhanddeiliaid allanol a gynhelir gan Gyfarwyddwyr.
Penderfynwyd: Y dylai'r papur gael ei nodi.