John Holmes, Cadeirydd
Alasdair Morgan
Anna Carragher
Elan Closs Stephens
Joan Walley
Sarah Chambers
Stephen Gilbert
Rob Vincent
Sue Bruce
Adolygiad Cwynion Blynyddol (eEC 48/20)
Nododd y Bwrdd fod cwynion yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol sy’n helpu’r sefydliad i wella a gofynnodd am ragor o fanylion ynghylch cwynion penodol.
Penderfynwyd: Y caiff y papur ei nodi.
Cofnodion (eEC 49/20)
Cafwyd ymholiadau ynghylch sut y gellid trafod y busnes electronig yng nghyfarfodydd y Bwrdd a sut byddai’r Comisiwn yn ymwneud â phartneriaethau ymchwil rhagweithiol.
Penderfynwyd: Y caiff y papur ei nodi.
Traciwr gweithredu Bwrdd y Comisiwn (eEC 50/20)
Nodwyd bod rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys Prif Weithredwyr sawl awdurdod lleol, i gael eu gwahodd i siarad am y pwysau a’r heriau sy’n wynebu llywodraeth leol yn gyffredinol,, ac mewn perthynas ag etholiadau yn benodol, fel rhan o gyfarfod y Bwrdd ym mis Hydref.
Penderfynwyd: Y caiff y papur ei nodi.
Blaen-gynllun Busnes y Bwrdd (eEC 51/20)
Cafwyd ymholiadau ynghylch effaith y pandemig Coronafeirws ar y Comisiwn a’r blaen-gynllun. Byddai Diweddariad y Prif Weithredwr yn diweddaru Comisiynwyr, a chychwynnwyd adolygiad o’r gwersi a ddysgwyd. Byddid yn mynd i’r afael â’r mater hwn hefyd wrth ddatblygu’r cynllun corfforaethol pum mlynedd newydd.
Cafwyd ymholiadau ynghylch yr amserlen ar gyfer datblygu cynllun cyfarfodydd y Bwrdd at 2021/22. Cynlluniwyd y gwaith at wyliau’r haf, a byddai Comisiynwyr yn gallu ei adolygu pan ddeuai gerbron y Bwrdd ar 23 Medi 2020.