Cofnodion y Bwrdd: 17 Hydref 2023
Summary
Dyddiad: Dydd Mawrth 17 Hydref, 9.30am
Lleoliad: Bunhill Row, Llundain, a thrwy gynhadledd fideo
Yn bresennol
John Pullinger, Chair
Rob Vincent
Alex Attwood
Sarah Chambers
Roseanna Cunningham
Chris Ruane
Katy Radford
Sue Bruce
Stephen Gilbert
Yn mynychu:
Shaun McNally, Prif Weithredwr
Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
Louise Edwards,Cyfarwyddwr, Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol
Ailsa Irvine, Director, Cyfarwyddwr, Gweinyddiaeth a Chanllawiau Etholiadol
David Moran, Cyfarwyddwr Dros Dro, Cyllid
Binnie Goh, Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Bwrdd
Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil [eitem 8]
Tom Hawthorn, Pennaeth Polisi [eitemau 10 ac 11]
Bola Raji, Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad [eitem 9]
Charlene Hannon, Pennaeth Canllawiau [eitem 11]
Mel Davidson, Pennaeth Cymorth a Gwelliant [eitem 11]
Suzanne Miller, Uwch Gynghorydd, Polisi [eitemau 10 ac 11]
Mark Williams, Uwch Gynghorydd, Polisi [eitemau 10 ac 11]
Ymddiheuriadau: Elan Closs Stephens
Sesiwn gudd y Bwrdd
Bydd Shaun McNally yn gorffen fel y Prif Swyddog Gweithredol ar 30 Tachwedd 2023
- Bydd Rob Vincent yn gweithredu fel y Prif Swyddog Gweithredol dros dro o 1 Rhagfyr 2023 hyd nes y penodir olynydd. Bydd recriwtio yn dechrau cyn gynted â phosibl.
- Cynigir bod David Moran, Cyfarwyddwr Cyllid, yn gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu hyd nes y penodir Prif Swyddog Gweithredol newydd
- Yn dilyn argymhellion gan y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol, bydd y cyflog ar gyfer y Prif Swyddog Gweithredol newydd yn cynyddu i £198,000 y flwyddyn.
- Ar 1 Rhagfyr 2023 bydd Rob Vincent yn gorffen fel Cadeirydd y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol (RemCo)
Datganiadau o Fuddiant
Cafwyd ymddiheuriadau gan Elan Closs Stephens. Nodwyd y byddai datganiadau o fuddiant pellach yn cael eu derbyn gan y Comisiynydd Sarah Chambers i'r Tîm Llywodraethu.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariadau ers cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2023.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y byddai’r cofrestrau o fuddiannau yn cael eu diweddau i’w cyhoeddi.
Cofnodion (CE 232/23)
Penderfynwyd: Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2023.
Traciwr Gweithredu Bwrdd y Comisiwn (CE 233/23)
Nododd y Bwrdd y diweddariadau a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y camau a restrwyd yn y traciwr.
Nododd y Bwrdd oherwydd bod y Comisiynydd Rob Vincent yn ymgymryd â swydd y Prif Weithredwr dros dro, byddai angen penodi cadeirydd newydd ar gyfer y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol o 1 Rhagfur 2023.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y byddai Sarah Chambers yn cael ei phenodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Tâl ac Adnoddau Dynol o 1 Rhagfyr 2023.
Diweddariad y Prif Weithredwr (Ar lafar)
- Rhoddodd y Prif Weithredwr yr wybodaeth ddiweddaraf ar lafar am weithrediadau a materion sy'n codi.
- Nododd y Bwrdd ddiweddariadau ar fesurau’r Ddeddf Etholiadau ar geisiadau pleidlais absennol ar-lein a phleidleisio drwy dirprwy a phleidleisio drwy’r post, a phryderon y Comisiwn am yr effaith ar weinyddwyr etholiadol.
- Nododd y Bwrdd ddiweddariadau gan Gomisiynwyr a oedd wedi bod yn bresennol mewn cynadleddau pleidiau. Cafwyd trafodaeth am y manteision o wneud cysylltiadau defnyddiol a rhannu negeseuon allweddol gyda swyddogion pleidiau. Cytunwyd i ymchwilio i ddatblygu strategaeth ymgynghori ar gyfer cynadleddau pleidiau yn y dyfodol.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd ddiweddariadau ar lafar ar weithrediadau a materion sy’n codi.
Penderfynwyd: Bod strategaeth ymgysylltu ar gyfer cynadleddau pleidiau gwleidyddol yn cael ei datblygu i'w thrafod yn un o gyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol
Blaen-gynllun Busnes y Bwrdd 2023/24 (CE 234/23)
Gofynnodd y Bwrdd am adolygiad pellach o'r dyddiadau cyfarfod ar gyfer 2024/2025 er mwyn osgoi gwrthdaro â gwyliau crefyddol a chynadleddau pleidiau.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd Flaen-gynllun busnes y Bwrdd ar gyfer 2023/24.
Diweddariad cyllideb: Amcangyfrifon atodol 2023/24 a phrif amcangyfrif 2024/25 i Bwyllgor y Llefarydd (CE 235/23)
Nododd y Prif Weithredwr y pwysau ariannol ar y Comisiwn, megis y nifer o is-etholiadau Senedd y DU, yr ansicrwydd ynghylch amseriad Etholiad Cyffredinol nesaf y DU, pwysau cyflog, a'r angen i foderneiddio systemau’r Comisiwn. Mae'r pwysau hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer 2023/2024 a 2024/2025.
Eglurodd y Cyfarwyddwr Dros Dro, Cyllid y manylion y tu ôl i linellau penodol o ran cyllideb ac archwiliodd y Bwrdd y rhesymeg dros bob elfen. Roedd trafodaeth ynghylch yr Amcangyfrif Atodol tebygol a’r Memorandwm ategol.
Nododd y Bwrdd effaith tanfuddsoddi hanesyddol a'r bygythiadau cynyddol sy'n wynebu'r Comisiwn. Profodd Comisiynwyr feysydd ar gyfer cynilion ac effeithlonrwydd a phwysodd am arddangosiad o werth am arian. Cytunwyd ar feysydd gwaith eraill ar gyfer diweddariadau cyllideb yn y dyfodol.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y diweddariadau o ran sefyllfa cyllideb y Comisiwn.
Asesiad o gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol ledled y DU (Cyflwyniad)
Rhoddodd y Pennaeth Ymchwil gyflwyniad ar y canlyniadau o asesiad y Comisiwn o gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol ledled y DU. Roedd yn amlinellu'r sbardunau ar gyfer tan-gofrestru, y prif rai oedd oedran a phan mae unigolyn wedi symud tŷ yn ddiweddar. Roedd y data yn awgrymu bod cofrestru unigol wedi parhau i effeithio ar lefel cofrestru cyflawnwyr. Roed yr asesiad yn parhau i ddangos bod tan-gofrestru cyson ymhlith grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac ar gyfer grwpiau economaidd-gymdeithasol is.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y cyflwyniad ar yr asesiad o gywirdeb a chyflawnrwydd y cofrestrau etholiadol ledled y DU.
Amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu’r cynllun corfforaethol nesaf 2025/26 – 2029/30 (CE 236/23)
Cyflwynodd Pennaeth Dros Dro Cynllunio a Pherfformiad y papur gan amlinellu'r amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu Cynllun Corfforaethol nesaf y Comisiwn. Croesawodd y Bwrdd gyflymder yr amserlen a nododd ddibyniaethau ar amseriad Etholiad Cyffredinol y DU. Nododd y Bwrdd yr heriau capasiti ar gyfer y Comisiwn wrth gynhyrchu Cynllun Corfforaethol newydd ochr yn ochr â phrosiectau sefydliadol eraill. Cynigiodd Comisiynwyr eu bod yn cymryd rhan mewn ymgynghoriadau gyda rhanddeiliaid, yn enwedig gyda staff.
Penderfynwyd: Bod y Bwrdd wedi cytuno ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu Cynllun Corfforaethol nesaf y Comisiwn ar gyfer 2025/26 – 2029/30
Gwelliannau i gofrestru a phleidleisio: cynyddu gwydnwch a chyfranogiad (CE 237/23)
Cyflwynodd y Pennaeth Polisi adroddiad ar welliannau i gofrestru a phleidleisio. Rhoddodd y papur ddiweddariad i’r Bwrdd ar gynnydd a nododd gyfleoedd i gefnogi trafodaethau ehangach.
Roedd yr adroddiad yn manylu astudiaethau dichonoldeb y Comisiwn ar gyfer ystod o opsiynau pleidleisio hyblyg, i’w cyhoeddi yn hwyrach y flwyddyn hon. Edrychodd y Bwrdd ar feddwl o ran polisi ar ffurfiau o gofrestru awtomatig neu awtomataidd.
Darparodd Comisiynwyr adborth ar yr angen i gydbwyso arloesedd a chynnal hyder y cyhoedd mewn etholiadau. Roedd pryder y byddai cynaliadwyedd cynnal etholiadau mewn perygl heb ddiwygiadau. Croesawodd y Bwrdd y cynnydd a wnaed ac anogodd uchelgais barhaus yn natblygiad y polisi.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd yr adroddiad ar wella cofrestru a phleidleisio etholiadol.
Trafodaeth ynghylch cyfeiriad strategol y Comisiwn: gwasanaethau etholiadol lleol gwydn (CE 238/23)
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Chanllawiau Etholiadol y papur ar yr amcan o gefnogi gwasanaethau etholiadol lleol gwydn. Awgrymodd y papur dri maes ffocws pellach ar gyfer y cynllun corfforaethol nesaf: cymorth mwy dwys ar gyfer awdurdodau lleol, gwneud y mwyaf o'r defnydd o ddata i lywio camau gweithredu a mesur effaith, a mynd i'r afael â heriau hysbys o ran gallu a gwydnwch cyflenwyr.
Roedd y Bwrdd yn cefnogi'r syniadau yn y papur yn gryf ac yn annog eu datblygiad pellach ar gyfer y cynllun corfforaethol nesaf.
Penderfynwyd: Nododd y Bwrdd y papur ar wasanaethau etholiadol lleol gwydn