Nodiadau Diwrnod y Comisiynwyr: 24 Ebrill 2019
Meeting overview
Dyddiad: 24 Ebrill 2019
Amser: 9:30am
Lleoliad: Ystafell Boothroyd, 3 Bunhill Row, Llundain
Who was at the meeting
John Holmes, Cadeirydd
Anna Carragher
Sarah Chambers
Elan Closs Stephens
Alasdair Morgan
Rob Vincent
Stephen Gilbert
Alastair Ross
Joan Walley
Sue Bruce (Fideo-gynhadledd)
Bob Posner, Prif Weithredwr
Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr, Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
Craig Westwood, Cyfarwyddwr, Cyfathrebu ac Ymchwil
Kieran Rix, Director, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Dan Adamson, Pennaeth Monitro a Gorfodi
Katharine Sparrow, Uwch Gynorthwyydd Gweithredol
Diweddariad ar ddigwyddiadau pleidleisio mis Mai
Atgoffodd Bob Posner y Bwrdd am y digwyddiadau etholiadol gwahanol a oedd yn digwydd ym mis Mai, gan gynnwys y ddeiseb adalw yn Peterborough, yr etholiadau lleol ar 2 Mai, ac etholiad Senedd Ewrop. Dywedodd fod y sefydliad wedi symud i ddull cynnal etholiadau a lle y bo'n bosibl roedd gwaith arall wedi cael ei ohirio neu ei ailbroffilio er mwyn caniatáu i staff ganolbwyntio ar y digwyddiadau pleidleisio. Yna rhoddodd y cyfarwyddwyr y wybodaeth ddiweddaraf am waith eu tîm wrth gefnogi'r gwaith o gynnal y digwyddiadau pleidleisio hyn.
Dywedodd Ailsa Irvine ei bod yn ymddangos bod y ddeiseb adalw yn Peterborough yn mynd yn dda, a bod cyswllt rheolaidd wedi bod gyda'r Swyddog Deisebau. Roedd yr adborth anecdotaidd cychwynnol yn debyg i Ogledd Antrim yn yr ystyr bod y cyfnod o chwe wythnos ar gyfer llofnodi'r ddeiseb yn teimlo'n rhy hir. Roeddem wedi ceisio casglu mwy o ddata i ddangos unrhyw argymhellion y gallem fod am eu gwneud o ran hyd cyfnodau deisebau ac agweddau eraill ar y broses. Nododd hefyd nad oedd llawer iawn yn y ddeddfwriaeth am amseru'r cyfrif, ond roedd rhaid cyhoeddi'r canlyniad o fewn un diwrnod o gau'r ddeiseb, a oedd yn golygu bod y canlyniad yn debygol o gael ei gyhoeddi wrth i bobl ddechrau mynd i'r digwyddiadau pleidleisio ar gyfer yr etholiadau lleol.
Clywodd y Bwrdd fod paratoadau ar gyfer yr etholiadau lleol yn mynd yn dda a'n bod wedi ymgysylltu â phob awdurdod sydd ag etholiadau. Roedd rhai problemau yn codi, ond roeddent yn gymharol fân hyd yma. Fodd bynnag, o gymharu â blynyddoedd blaenorol, roeddem yn cael nifer sylweddol uwch o ymholiadau gan weinyddwyr. Roedd hyn yn rhannol oherwydd y nifer uwch o ardaloedd gydag etholiadau na'r llynedd, ond hefyd oherwydd y newid hwyr i'r ddeddfwriaeth ynghylch cyfeiriadau cartref ymgeiswyr ar y papurau pleidleisio, a oedd wedi arwain at nifer sylweddol o ymholiadau am y broses enwebu.
Dywedodd Ailsa Irvine fod y gwaith cynllunio wrth gefn roeddem wedi'i wneud drwy'r Grŵp Llywio Cynnal Digwyddiadau wedi ein rhoi mewn sefyllfa dda wrth baratoi ar gyfer etholiad Senedd Ewrop. Roeddem wedi cyflwyno ein canllawiau i weinyddwyr ar ddiwedd mis Mawrth, ac roeddem hefyd wedi darparu canllawiau ychwanegol i awdurdodau gydag etholiadau lleol i'w helpu i reoli'r broblem o amserlenni sy'n gorgyffwrdd.
Atgoffwyd y Bwrdd bod y strwythur gweinyddol ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop yn wahanol i etholiadau eraill, gyda Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol yn cydgysylltu ledled 11 o ardaloedd etholiadol ym Mhrydain Fawr, a Gogledd Iwerddon. Roedd risgiau ynghylch cyflawni'r etholiad am fod awdurdodau lleol o
dan bwysau am fod yr etholiad hwn mor agos at yr etholiadau lleol, ond roeddem yn gweithio gyda'r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol, drwy ein Bwrdd Cynghori ar Gydlynu Etholiadol, i liniaru'r risgiau ac ar hyn o bryd nid oedd unrhyw beth i awgrymu na fyddai'r digwyddiadau pleidleisio yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus.
Rhoddodd Craig Westwood y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am ein hymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Roedd yr ymgyrch ar gyfer yr etholiadau lleol wedi dod i ben ar 12 Ebrill ac roedd data cynnar ar geisiadau yn dangos ein bod wedi rhagori ar ein targedau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, gyda'r niferoedd terfynol i'w cadarnhau. Roedd y tîm wedi gweithio'n gyflym i lunio'r ymgyrch ar gyfer etholiad Senedd Ewrop ac roedd hyn bellach yn cael ei gyflwyno, ar sianeli digidol i ddechrau, i'w ddilyn yn fuan gan y teledu.
Dywedodd Craig Westwood fod y timau hefyd wedi gwneud gwaith ar gyfer adrodd ar ôl y bleidlais. Nododd ein bod wedi gallu rhoi mwy o bwyslais ar ein harolwg o farn y cyhoedd ar gyfer yr etholiadau lleol sydd wedi ein galluogi i ennill mwy o dystiolaeth am ddeiseb adalw Peterborough. Byddai hyn yn helpu gyda'n gwaith adrodd ac unrhyw argymhellion y gallem fod am eu gwneud.
Nododd Craig Westwood fod y cynlluniau peilot prawf adnabod pleidleiswyr wedi digwydd a bod cynlluniau ar waith i sicrhau ein bod yn casglu cymaint o adborthag y gallem i lywio ein gwaith adrodd.
Roedd y digwyddiadau pleidleisio amrywiol hefyd yn cynhyrchu llawer o ymholiadau gan y cyfryngau ac ymholiadau materion cyhoeddus. Roedd gwaith adweithiol sylweddol yn mynd rhagddo i ddelio â'r ymholiadau hyn, ond roeddem hefyd yn defnyddio dull rhagweithiol er mwyn helpu i leihau nifer y cwestiynau.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau yn y Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio. Roedd penderfyniad wedi cael ei wneud yn gynharach yn y flwyddyn i sicrhau bod canllawiau rheoleiddio ar gael ac atgoffa ymgyrchwyr o'r cyfnod rheoleiddio petai etholiad Senedd Ewrop yn cael ei gadarnhau. Lle y bo'n briodol, roeddem hefyd bellach yn trefnu cyfarfodydd gyda phleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau i sicrhau eu bod yn deall y rheolau.
Dywedodd Dan Adamson fod gwaith monitro ymgyrchu yn mynd rhagddo, gan gynnwys ar gyfer defnyddio'r adnoddau cyfryngau cymdeithasol newydd am y tro cyntaf. Byddai ein tîm gorfodi yn ceisio ymyrryd yn gyflym lle bo angen. Roeddem yn ymwybodol fod rhai pleidiau newydd proffil uchel a rhai ymgeiswyr dibrofiad. Roeddem felly yn meddwl am broblemau posibl a beth y gallai hyn ei olygu o ran y cyngor y dylid ei roi.
Gan droi at gyllidebau, nododd Kieran Rix mewn amgylchiadau arferol, y cyllid ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop fyddai tua £1.4M dros ddwy flynedd, ond yn yr amgylchiadau presennol, roeddem yn bwriadu aros o fewn y £686K a gytunwyd yn ein cyllideb 2018/19.
Clywodd y Bwrdd fod y Tîm Gweithredol wedi edrych ar lwythi gwaith, ac wedi grymuso staff i wneud awgrymiadau am ba waith y gellid dod ag ef i ben neu ei aildrefnu i roi'r gallu iddynt ganolbwyntio ar y gwaith sy'n ymwneud ag etholiadau. Roeddent hefyd yn meddwl am wydnwch staff a'r hyn y gellid ei wneud er mwyn helpu i gefnogi staff drwy'r digwyddiadau pleidleisio hyn.
Trafododd y Bwrdd y digwyddiadau etholiadol amrywiol yn fanylach. Gofynnwyd unwaith y byddai'r ddeiseb adalw yn Peterborough a'r ddeiseb a fyddai'n dechrau'n fuan ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wedi cau, y dylai ein hadroddiad statudol, nid yn unig ystyried argymhellion o ran amser a chost a ph'un a ellid defnyddio deisebau i dreialu ffurfiau eraill ar bleidleisio, ond hefyd mynd i'r afael â'r potensial ar gyfer adolygiad mwy sylfaenol o'r fframwaith presennol.
Gofynnodd y Bwrdd am drafodaeth ar y canfyddiadau o'r cynlluniau peilot prawf adnabod pleidleiswyr ac unrhyw argymhellion y gallem eu gwneud.
Nododd y Bwrdd rai o'r materion sy'n codi ynghylch etholiad Senedd Ewrop, gan gynnwys cofrestru dinasyddion 27 yr UE (h.y. dinasyddion o'r UE ac eithrio'r DU), pryderon ynghylch diogelwch ac unrhyw achos o ganslo'r etholiad.
Camau gweithredu:
- Y dylid trefnu trafodaeth Bwrdd ar ganfyddiadau'r cynlluniau peilot prawf adnabod pleidleiswyr, gan gynnwys unrhyw argymhellion y gallem eu gwneudyn ein hadroddiad statudol.
- Y dylai ein hadroddiad statudol ar y deisebau adalw yn Peterborough ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ystyried argymhellion o ran amser a chost, a ph'un a ellid defnyddio deisebau i dreialu ffurfiau eraill ar bleidleisio, a mynd i'r afael â'r potensial ar gyfer adolygiad mwy sylfaenol o'r fframwaith presennol.
Adolygiad o effeithiolrwydd y Bwrdd (EC 25/19)
Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem a dywedodd ei fod yn bwysig bod y Bwrdd yn craffu ar ei hun a'r effaith mae wedi'i chael dros y deuddeg mis diwethaf. Nododd y byddai angen i'r adolygiad nesaf o effeithiolrwydd gynnwys hwylusydd annibynnol allanol.
Dywedodd Bob Posner fod y papur yn nodi cyfrifoldebau'r Bwrdd, ei aelodaeth, gwerthoedd craidd, a chod ymddygiad. Roedd y papur yn dadansoddi dwy agwedd ar rôl y Bwrdd fel corff anweithredol – goruchwylio a gwarchod – a'r mathau o benderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd. Nododd yn 2018 fod dwy ran o dair o eitemau agenda'r Bwrdd o natur goruchwylio. Yn ogystal â hyn, roedd dwy ran o dair o eitemau agenda'r Bwrdd yn rhoi'r cyfle i Gomisiynwyr gyfrannu at fusnes y Comisiwn.
Gwahoddodd y Cadeirydd Gomisiynwyr i feddwl am effaith y Bwrdd ar yr hyn a oedd yn digwydd yn y sefydliad, y cydbwysedd rhwng cefnogi a herio staff, p'un a oedd Comisiynwyr yn hyderus eu bod yn cael y wybodaeth gywir, a ph'un a oeddent yn treulio digon o amser ar sylwedd yn ogystal â materion diwydrwydd dyladwy.
Yn gyffredinol roedd y Bwrdd yn fodlon nad oedd unrhyw broblemau sylfaenol. Fodd bynnag, roedd nifer o feysydd roedd Comisiynwyr am eu trafod eto mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Sicrwydd ar gadernid ymchwiliadau a phrosesau rheoleiddio allweddol eraill, gan gynnwys cyfle i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio adolygu ymchwiliad wedi'i gwblhau
- Sut y gallai amrywiaeth ymhlith aelodau'r Bwrdd fod yn fwy o ffocws wrth recriwtio yn y dyfodol
- Sut i ddelio â Lloegr, gan gynnwys y posibilrwydd o Gomisiynydd gyda rhai cyfrifoldebau am Loegr, ac ystyried strwythurau arwain swyddogion canlyniadau yn Lloegr gan dybio y byddai rhanbarthau etholiad Senedd Ewrop yn cael eu colli
- P'un a oedd angen i'r Comisiwn chwarae mwy o rôl arweiniol er mwyn gwella hyder yn y system etholiadol
- Dylai Comisiynwyr glywed yn fwy uniongyrchol gan randdeiliaid ar rai materion
- Sut i wneud defnydd gwell o wybodaeth a phrofiad pob Comisiynydd
- Sut i asesu perfformiad Pwyllgorau Bwrdd
- Y broses effeithiolrwydd flynyddol ar gyfer y Bwrdd a sut y gellid cynnal adolygiad gyda gwaith hwyluso allanol, yn ogystal â diweddariad canol blwyddyn anffurfiol
Camau gweithredu:
- Y dylai eitem gael ei chyflwyno i'r Bwrdd i gadarnhau'r camau gweithredu sy'n codi o'r drafodaeth hon ar effeithiolrwydd y Bwrdd.