Nodiadau Diwrnod y Comisiynwyr: 30 Hydref 2019
Meeting overview
Dyddiad: Dydd Mercher 30 Hydref 2019
Lleoliad: Ystafell Boothroyd, 3 Bunhill Row, Llundain
Yn bresennol
John Holmes, Cadeirydd
Alasdair Morgan
Alastair Ross
Anna Carragher
Elan Closs Stephens
Joan Walley
Rob Vincent
Sue Bruce
Sarah Chambers
Stephen Gilbert
Bob Posner, Prif Weithredwr
Ailsa Irvine, Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau
Kieran Rix, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Amanda Kelly, Cwnsler Cyffredinol Dros Dro
Majella La Praik, Pennaeth Cofrestru ac Adrodd
Niki Nixon, Pennaeth Cyfathrebu Allanol
David Bailey, Pennaeth Cynllunio Strategol a Pherfformiad
David Meek, Uwch-gynghorydd, Llywodraethu
Tim Crowley, Pennaeth Ymgyrchoedd a Chyfathrebu Corfforaethol (ar gyfer eitem 1)
Petra Crees, Rheolwr Cynllunio, Perfformiad a Llywodraethu
Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil (ar gyfer eitemau 1 a 2)
Tom Hawthorn, Pennaeth Polisi (ar gyfer eitemau 1 a 2)
Emma Rose, Uwch-swyddog Ymchwil (ar gyfer eitem 2)
Helen Lyon, Swyddog Ymchwil (ar gyfer eitem 2)
Ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil a Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio.
Ystyried y tebygolrwydd o ddigwyddiadau etholiadol annisgwyl, Araith y Frenhines, a materion cysylltiedig
Trafododd y Prif Weithredwr y paratoadau a wnaed gan y staff mewn ymateb i’r bleidlais yn Senedd y DU ar Etholiad Cyffredinol arfaethedig i Senedd y DU ar 12 Rhagfyr 2019. Nododd y Prif Weithredwr y gwaith paratoi a wnaed gennym cyn yr etholiad hwn. Symudwyd i fodd gweithredol, gyda chyfarfodydd dyddiol, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cyflawni ein swyddogaethau mewn perthynas â’r etholiad. Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i’r Comisiynwyr y byddent yn cael eu briffio ar unrhyw ddatblygiadau drwy gydol yr ymgyrch.
Trafododd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol oblygiadau ariannol y digwyddiad annisgwyl. Roeddem wedi cyflwyno cais i Drysorlys Ei Mawrhydi am flaendal o’r Gronfa Hapddigwyddiadau i gyflawni ein gwaith ar gyfer yr etholiad. Roeddem bellach yn gallu gweithredu ar yr adnoddau staffio a hysbysebu angenrheidiol. Drwy weithgarwch recriwtio dechreuwyd llenwi’r rolau wrth gefn angenrheidiol. Nododd y Prif Weithredwr ein bod wedi cynyddu nifer ein staff craidd yn sgil y gyllideb ddiweddar a bod angen llai o staff ychwanegol felly, ac nad oedd eu hangen mor gyflym ag mewn achosion blaenorol o ddigwyddiadau etholiadol annisgwyl. Nododd y Cyfarwyddwr fod gweithgarwch Technoleg Gwybodaeth (TG) hanfodol yn mynd rhagddo, a fyddai’n parhau, ond y byddai cyn lleied o waith tarfu â phosibl. Esboniodd y Cyfarwyddwr y byddai’n ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno cynllun corfforaethol pum mlynedd newydd yn y Senedd newydd yn unol â gofynion y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadol a Refferenda (PPERA), erbyn mis Chwefror 2020. Oherwydd amseriad yr etholiad roedd cyfnod byr iawn ar gyfer llunio’r cynllun. Felly, roeddem yn bwriadu cynnig y byddai cynllun manwl ar gyfer blwyddyn un a chrynodeb lefel uchel ar gyfer y pedair blynedd arall. Yna, byddem yn gofyn am gyfle i gyflwyno cynllun corfforaethol newydd, mwy ystyriol i Bwyllgor y Llefarydd yn ddiweddarach yn 2020. Byddai’r Bwrdd yn ystyried cymeradwyo’r cynllun corfforaethol newydd yn y misoedd sydd i ddod.
Esboniodd y Pennaeth Cyfathrebu Allanol ein bod eisoes wedi briffio ein hasiantaethau sy’n ymwneud â strategaeth y cyfryngau a materion creadigol ar ein gwaith ymgyrchu, ac y byddem yn pennu’r strategaeth i’r cyfryngau yn derfynol yn fuan. Roeddem hefyd wedi diweddaru ein holl gynnwys i bleidleiswyr ar ein gwefan newydd, a fyddai’n mynd yn fyw ar unwaith. Clywodd y Bwrdd fod gennym asiantaeth yng Ngogledd Iwerddon i gynnal ymgyrchoedd yno, ac asiantaeth arall ym Mhrydain Fawr. Byddai’r ymgyrchoedd hyn yn debyg ond yn wahanol, a byddent yn ystyriol o’r wlad dan sylw. Roeddem wedi cael sgyrsiau cychwynnol â chwmnïau mawr yn y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â negeseuon atgoffa am gofrestru i bleidleiswyr. Roeddem wedi dechrau cynyddu nifer ein staff yn y tîm gwybodaeth i’r cyhoedd a thîm swyddfa’r wasg, ac roedd y ddau dîm eisoes wedi dechrau gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau. Roedd y timau yn rhoi cymorth ar gyfer yr ymgyrch gofrestru. Roedd y tîm ymchwil wedi trefnu contract ar gyfer ein harolwg barn gyhoeddus ar ôl yr etholiad, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i nodi gofynion ar gyfer meysydd ymchwil allweddol eraill, megis data etholiadol, arolwg o ymgeiswyr, ac adborth Swyddogion Canlyniadau. Roedd y tîm polisi wedi dechrau’r broses fonitro fewnol ddyddiol er mwyn nodi materion allanol sy’n dod i’r golwg a phennu camau gweithredu drwy gydol cyfnod yr etholiad. Byddai hefyd yn monitro cyhoeddiadau polisi gan y prif bleidiau er mwyn nodi unrhyw ymrwymiadau a oedd yn berthnasol i’r Comisiwn.
Nododd y Pennaeth Cofrestru ac Adrodd y byddai canllawiau rheoleiddio yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo sicrwydd ynglŷn â’r amserlen reoleiddio. Byddem hefyd yn cyhoeddi canllawiau ar gytundebau rhwng pleidiau, megis achosion lle mae un blaid wedi sefyll o’r neilltu dros blaid arall. Clywodd y Bwrdd fod y rheolau yn y maes hwn yn gymhleth ac y gallent amrywio, yn dibynnu ar amgylchiadau penodol. Roeddem yn bwriadu anfon bwletin rheoleiddio i bleidiau cofrestredig ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig. Oherwydd y terfyn amser byr cyn i’r cyfnod enwebu ddod i ben a gofynion statudol o ran ystyried ceisiadau i gofrestru, nid oeddem yn gallu penderfynu ar geisiadau newydd i gofrestru mewn pryd cyn yr etholiad. Byddem yn egluro hyn ar ein gwefan. Byddem yn parhau i gofrestru ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau hyd at y diwrnod pleidleisio. Roeddem wedi bwriadu defnyddio ein hadnoddau’n hyblyg, a byddem yn ymgymryd â gweithgarwch rheoleiddio mewn amser real. Byddai ein hadnoddau’n canolbwyntio ar bleidiau ac ymgyrchwyr lle y cafwyd y risg fwyaf o ddiffyg cydymffurfiaeth. Fel y digwyddodd yn 2017, byddem yn rhoi gwybodaeth i’r Heddlu am ddyddiadau allweddol a dolenni i’r wefan ar arferion proffesiynol cymeradwy. Byddem yn parhau i roi cyngor cyffredinol adweithiol am droseddau posibl.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gweinyddu Etholiadau a Chanllawiau y diweddaraf ar y canllawiau i Swyddogion Canlyniadau ar weinyddu’r etholiad a gyhoeddwyd gennym. Roeddem wedi cadarnhau’r amserlen etholiadol ar ôl diwygiad technegol i’r bil etholiad a sicrhawyd yr un terfyn amser i gofrestru ledled y DU. Roeddem hefyd wedi rhannu canllawiau atodol ar reoli etholiadau annisgwyl, gyda ffocws penodol ar yr amgylchiadau penodol a oedd yn gysylltiedig â chynnal etholiad yn agos i ddiwedd y cyfnod canfasio ac yn ystod y gaeaf. Byddem yn cyhoeddi arolwg y dydd Gwener hwn er mwyn cael gwybodaeth ynglŷn â sut y câi’r etholiad ei reoli, a fyddai’n ein helpu i greu darlun o’r trefniadau ledled y DU a nodi unrhyw broblemau posibl y byddem wedyn yn ymdrin â nhw. Byddem yn parhau i ddefnyddio strwythur y Bwrdd Cynghori ar Gydlynu Etholiadol a weithiodd yn dda yn ystod Etholiad Senedd Ewrop. Byddai Swyddfa’r Cabinet yn rhan o’r grŵp hwn, a oedd yn bwysig am ei bod yn gyfrifol am gyllido’r etholiad. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybodaeth hefyd am ddyddiadau allweddol yn yr amserlen ar gyfer Etholiad Cyffredinol i Senedd y DU.
Gofynnodd y Cadeirydd am fwy o eglurder o ran sut y byddem yn rheoleiddio cytundebau etholiadol. Dywedodd y Pennaeth Cofrestru ac Adrodd y byddai hyn yn dibynnu ar y trefniadau unigol, a sut roedd arian yn cael ei wario ym mhob cytundeb. Roeddem wedi codi ymwybyddiaeth, ac wedi gofyn i ymgyrchwyr o’r fath gysylltu â ni fel y gallem roi cyngor pwrpasol iddynt unwaith ein bod yn deall eu hamgylchiadau. Lle y gwelsom gytundebau o’r fath, byddem yn rhagweithiol o ran cynnig cyngor iddynt. Gofynnodd y Bwrdd sut rydym yn nodi ymgyrchwyr trydydd parti, a sut byddem yn gwybod pe baent wedi croesi’r trothwy gwariant. Esboniodd y Pennaeth Cofrestru ac Adrodd y byddai hyn yn cael ei benderfynu drwy’r gwaith monitro a wnawn, ac mewn rhai achosion drwy ofyn am wybodaeth am faint roeddent wedi’i wario ar ymgyrchoedd o’r fath. Trafododd y Bwrdd y goblygiadau pe bai un blaid yn gwario arian ar ymgeisydd plaid arall, a phwy ddylai ddatgan gwariant o’r fath. Esboniodd y Prif Weithredwr y gallai gwariant o’r fath ddod o dan ddau ddarn o ddeddfwriaeth (Deddf Cynrychiolaeth y Bobl a’r Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda), sydd â rheolau gwahanol a lefelau gwahanol o wariant a ganiateir.
Gofynnodd y Bwrdd am eglurder ynglŷn â’r ymyriadau rheoleiddio amser real arfaethedig. Esboniodd y Pennaeth Cofrestru ac Adrodd fod hyn yn cwmpasu nifer o ddulliau gwahanol, megis cysylltu’n uniongyrchol â rhywun i roi cyngor ac arweiniad. Ystyriodd y Bwrdd o dan ba amgylchiadau y byddai hysbysiad stop yn cael ei gyflwyno gan y Prif Weithredwr. Nid oeddem wedi gorfod cyflwyno hysbysiad yn y gorffennol, ond roedd yr opsiwn ar gael os oedd angen. Os na chydymffurfiwyd ag ef, yna byddai’n mynd yn fater i’r llys.
Trafododd y Bwrdd y risg o reoleiddio ymgyrchu digidol. Clywodd y Bwrdd ein bod wedi neilltuo adnoddau ychwanegol ar gyfer hyn, ac y byddai’r aelodau hyn o staff yn monitro gweithgarwch ar-lein a llyfrgelloedd cyfryngau. Cafodd y Bwrdd ei atgoffa bod gwariant ar ymgyrchu digidol yn gofnodadwy yn yr un ffordd â mathau eraill o wariant ar ymgyrchu. Trafododd y Bwrdd hefyd y gweithgarwch a fyddai y tu allan i’n cylch gwaith, ond a fyddai’n adlewyrchu ar enw da’r Comisiwn, megis fideo "cwbl ffug" yn hwyr yn ystod yr ymgyrch a fyddai’n cael ei ddosbarthu cyn etholiad ac a allai newid y naratif. Byddai hyn y tu allan i gwmpas cyfraith etholiadol. Cododd y Bwrdd bryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o ymyrraeth oddi tramor. Cafodd y Bwrdd ei atgoffa gan y Prif Weithredwr ein bod wedi gwneud argymhellion ynglŷn â sut y dylai cyfraith etholiadol gael ei newid, ac nad oedd unrhyw rai o’r newidiadau hyn wedi cael eu rhoi ar waith.
Hysbysodd y Prif Weithredwr y Bwrdd bod Cell Etholiadol Swyddfa’r Cabinet wedi cael ei sefydlu ac wedi cael y dasg o fonitro risgiau i ddiogelwch mewn perthynas â’r etholiad. Roedd hyn yn debyg i’r ffordd roedd gwledydd eraill yn gweithredu. Hysbysodd y Cadeirydd y Bwrdd ein bod wedi siarad â’r gwasanaethau diogelwch ynglŷn â’r hyn y gellid ei ddysgu o etholiadau diweddar ledled y byd. Cafodd y Comisiwn Etholiadol wahoddiad i fod yn aelod o’r Gell hon, ac roeddem wedi cytuno i gymryd rhan. Roedd hyn yn ein galluogi i fynnu lle na ddylai’r llywodraeth ymyrryd mewn materion a oedd yn rhan briodol o’n cylch gwaith. Byddai’r Gell Etholiadol yn monitro unrhyw ymyrraeth oddi tramor a delweddau neu fideos cwbl ffug, a phenderfynu ar unrhyw gamau gweithredu i’w cymryd. Roedd y Gell yn cael ei chadeirio gan y Dirprwy Gynghorydd ar Ddiogelwch Cenedlaethol.
Trafododd y Bwrdd ein gallu i wrthbrofi cyhuddiadau a honiadau anghywir yn gadarn. Nododd y Prif Weithredwr y gallai ein gwaith yn y dyfodol gwmpasu llythrennedd digidol, gan gynnwys annog pleidleiswyr i amau ffynonellau o wybodaeth, a dilysrwydd gwybodaeth a gafwyd. Fodd bynnag, nid oeddem mewn sefyllfa i arwain yn y maes hwn y tro hwn. Nododd y Cadeirydd mai ein rôl ni yw bod yn bwyllog a thawelu meddwl pobl. Clywodd y Bwrdd ein bod yn mynd ati i wrthbrofi celwyddau ar y cyfryngau cymdeithasol lle y bo modd, ond y gallai fod yn anodd ymdrin â’r cyfan. Roeddem yn gallu cysylltu â’r cwmni cyfryngau cymdeithasol a gofyn iddo ddileu’r wybodaeth. Roeddem wedi meithrin ac wedi cynnal cydberthnasau da â thimau polisi cyhoeddus y prif gwmnïau cyfryngau cymdeithasol felly gallem godi materion gyda nhw drwy gydol y cyfnod ymgyrchu.
Clywodd y Bwrdd ein bod yn mynd ati’n rhagweithiol i fonitro datblygiadau drwy gydol yr ymgyrch etholiadol a fyddai’n ein helpu i baratoi ar gyfer datblygiadau polisi yn y dyfodol. Clywodd y Bwrdd ein bod wedi nodi effaith bosibl streic yn y Post Brenhinol, ac roeddem yn gweithio ar ddatblygu ymateb priodol. Roeddem mewn cysylltiad rheolaidd â’r Post Brenhinol er mwyn deall ei amgylchedd gweithredol.
Clywodd y Bwrdd fod awdurdodau lleol wedi bod yn gweithio ar sicrhau digon o orsafoedd pleidleisio ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
Trafododd y Bwrdd y sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys y posibilrwydd o ddigwyddiad etholiadol megis refferendwm yng Ngogledd Iwerddon yn unig fel rhan o Fil y Cytundeb Ymadael. Clywodd y Bwrdd am y gwaith paratoi a wnaed gennym ar gyfer Etholiad posibl i’r Cynulliad ar ddechrau 2020. Nid oeddem wedi trafod refferenda penodol â’r llywodraeth, ond cafwyd trafodaethau cyffredinol. Roedd y rhain yn drafodaethau cadarnhaol, lle roeddem yn gallu annog y llywodraeth i sicrhau y byddai digon o amser i baratoi ar gyfer unrhyw refferenda.
Holodd y Bwrdd am y ffordd roeddem yn bwriadu cymryd rhan mewn rhaglenni newyddion yn y cyfryngau ar etholiadau. Clywodd y Bwrdd ein bod wedi bod yn rhannu gwybodaeth mewn meysydd lle y cynhaliwyd trafodaethau ar etholiadau, ond ein bod yn osgoi cymryd rhan mewn trafodaethau gwleidyddol. Dywedodd y Pennaeth Cyfathrebu Allanol y byddem yn fuan yn rhagweithiol mewn cyfweliadau yn y cyfryngau, gan ganolbwyntio ar gofrestru pleidleiswyr, cynnal yr etholiad a chydymffurfiaeth â’r rheolau ymgyrchu.
Trafodaeth ar ganfyddiadau ymchwil olrhain y gaeaf
Cyflwynodd y Pennaeth Ymchwil ganfyddiadau ymchwil olrhain y gaeaf ar gyfer 2018/19 i’r Bwrdd. Rydym yn cynnal yr arolwg hwn o farn y cyhoedd bob blwyddyn, ac wedi bod yn gwneud hynny ers 2006. Clywodd y Bwrdd fod yr ymatebion yn cael eu casglu ar-lein, fel sydd wedi digwydd ers 2017. Cafwyd cyfanswm o 1,731 o ymatebion o sampl gynrychioliadol yn genedlaethol. Trafododd y Bwrdd werth cynnal yr arolygon hyn bob blwyddyn. Clywodd y Bwrdd fod y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi a’i defnyddio gan y gymuned etholiadol ehangach, gan gynnwys academwyr a melinau trafod. Y tri gair roedd ymatebwyr wedi’u defnyddio i ddisgrifio’r Comisiwn Etholiadol orau oedd ‘pwysig’, ‘proffesiynol’, ac ‘annibynnol’.
Canfu’r ymchwil fod hyder mewn bwrw pleidlais a chofrestru i bleidleisio yn uchel. Roedd hyder bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda yn fwy anwadal, ond mae’n bosibl bod digwyddiadau allanol wedi cael mwy o ddylanwad ar hyn. Roedd hyder bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda yn amrywio yn ôl oedran; roedd pobl iau yn llai hyderus bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda. Byddai hyn yn cael ei fonitro er mwyn canfod a oedd yn arwydd o duedd. Roedd boddhad gyda’r broses bleidleisio mewn etholiadau, y system o gofrestru i bleidleisio, a bod etholiadau’n cael eu cynnal yn dda hefyd yn amrywio, ac mae’n bosibl mai canlyniadau, yn hytrach na’r hyn sydd o dan ein rheolaeth, sy’n dylanwadu ar hyn.
Gofynnodd yr ymchwil i’r rhai a nododd eu bod yn anfodlon ar y system o gofrestru a’r broses bleidleisio beth fyddai’n eu gwneud yn fwy bodlon. Roedd yr ymatebion yn cynnwys cofrestru awtomatig a’r gallu i gadarnhau ar-lein p’un a oedd pleidleisiwr wedi’i gofrestru ai peidio, a’r gallu i bleidleisio ar-lein. Holodd y Bwrdd a ddylem ofyn i bob ymatebwr beth fyddai’n ei wneud yn fwy bodlon fel pleidleisiwr, yn hytrach na chyfyngu ein data i’r ymatebwyr hynny a nododd eu bod yn anfodlon.
Ymhlith y meysydd a oedd yn achosi pryder a nodwyd yn yr ymchwil roedd tuedd yn y cyfryngau, niferoedd bach yn pleidleisio mewn etholiadau, a rheoleiddio annigonol o ran yr arian y mae pleidiau gwleidyddol yn ei wario ar eu hymgyrchoedd etholiadol. Roedd gan grwpiau oedran gwahanol ganfyddiadau gwahanol ynglŷn â phroblemau, a byddai’r tîm ymchwil yn parhau i fonitro’r ymatebion hyn er mwyn cadarnhau a oedd y canfyddiadau hyn yn gysylltiedig â grwpiau oedran penodol.
Canfu’r ymchwil lefel isel o ymwybyddiaeth o’r ffordd roedd pleidiau yn codi arian i dalu staff ac ymladd etholiadau, lefel isel o hyder bod gwariant a chyllid yn dryloyw, neu y gallai pleidleiswyr ganfod yn hawdd sut roedd pleidiau yn cael eu hariannu. Fodd bynnag, roedd hanner yr ymatebwyr yn credu y byddai awdurdodau yn cymryd camau priodol yn y meysydd hyn.
Gadawodd Sarah Chambers, Ailsa Irvine, Niki Nixon, a Majella La Praik y cyfarfod am 12.30pm.
Cwmpasu ar gyfer caffael hwylusydd allanol ar gyfer adolygiad 2020 o effeithiolrwydd y Bwrdd
Gofynnodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol i’r Bwrdd am awgrymiadau ynglŷn â’r pynciau yr hoffai eu trafod â hwylusydd allanol ym mis Chwefror 2020. Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid asesu effaith neu arloesedd y Bwrdd fel themâu posibl i’w trafod. Awgrymodd y Cadeirydd adolygiad cyffredinol o’r Bwrdd cyn asesu meysydd penodol. Yna, trafododd y Bwrdd pa fath o sefydliad fyddai yn y sefyllfa orau i arwain y drafodaeth hon. Awgrymodd y Bwrdd mai gwasanaeth mwy pwrpasol, wedi’i deilwra gan sefydliad bach fyddai orau yn ôl pob tebyg. Trafododd y Bwrdd werth cael rhywun yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Bwrdd neu ei Bwyllgorau er mwyn arsylwi ar y ffordd y mae’r Comisiynwyr yn rhyngweithio. Byddai hyn yn sicrhau y byddai’r adolygiad yn cwmpasu’r ffordd y mae’r Bwrdd yn gweithio drwy ei agenda ac yn monitro’r sefydliad ehangach, a hefyd adolygu dynameg y rhyngweithio ar yr un pryd. Dywedodd rhai Comisiynwyr y byddent yn cyflwyno enwau sefydliadau roeddent wedi gweithio ar adolygiadau tebyg gyda nhw yn y gorffennol.
Esboniodd y Prif Weithredwr y byddai’r Etholiad Cyffredinol yn effeithio ar amserlen cyfarfodydd y Bwrdd. Cytunodd y Bwrdd y byddai cyfarfod y Pwyllgor Cydnabyddiaeth ac Adnoddau Dynol i’w gynnal ar 4 Rhagfyr 2019 yn cael ei newid i 22 Ionawr 2020.
Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm.