Rydym yn chwilio am sefydliadau ieuenctid ac athrawon i gefnogi ein gwaith addysg yng Nghymru
header image
Rydym yn chwilio am sefydliadau ieuenctid ac athrawon i gefnogi ein gwaith addysg yng Nghymru
Cofrestrodd tua 50% o bobl ifanc 16-17 oed cymwys a oedd newydd eu rhyddfreinio i bleidleisio yn etholiad y Senedd ym mis Mai. Isod mae dau bleidleisiwr ifanc yn rhannu eu profiad o bleidleisio am y tro cyntaf.
Oriel Quote
“Pleidleisiais am y tro cyntaf eleni!” Roedd mynd i bleidleisio yn brofiad hawdd a chyffrous. Pleidleisiais yn fy neuadd y dre lleol yn y bore cyn mynd i’r ysgol. Wrth gyrraedd fe arwyddais wrth y dderbynfa ac fe esboniont nhw beth oedd angen i mi wneud. Yna fe es i fwth a rhoi croesau yn y bocsys o fy newis i. Yn dilyn hyn, postiais fy mhapurau yn y blwch pleidleisio a gadael. Roedd y broses hon yn llawer haws na’r hyn roeddwn i wedi ei ddisgwyl, ac roedd yn brofiad cyffrous i ddilyn y canlyniadau!”
Sophie Quote
“Roeddwn i wedi fy syfrdanu ar ba mor gyflym a hawdd yr oedd hi i gofrestru i bleidleisio gan fy mod yn ddyslecsig ac fel arfer yn ei chael hi’n anodd llenwi ffurflenni ar ben fy hun, ond nid dyma ddigwyddodd yma. Cofrestrodd fy ffrindiau i bleidleisio eleni hefyd ac roeddynt yn teimlo fod eu profiad o bleidleisio yn debyg i fy un i. Cafodd fy ffrindiau a fi sawl sgwrs ynglŷn â phwy roeddwn ni am bleidleisio dros ar resymau dros y penderfyniadau hynny. Roedd y wybodaeth a oedd yn amgylchynu hyn yn amrywiol oherwydd roeddwn i’n teimlo fel fy mod i wedi cael digon o wybodaeth ar sut i gofrestru ond, des i sylweddoli nad oedd rhai o’r pleidiau gwleidyddol wedi gwneud gwybodaeth ar gael mewn fformat y byddwn i’n medru ei ddeall. Gwnaeth y prosiect Coda Dy Lais rywfaint o wybodaeth yn hygyrch iawn, ond roedd yn brin o wybodaeth am bleidiau oherwydd nad oedd pleidiau yn darparu maniffestos mewn fformat hawdd ei ddarllen.
Ar ddiwrnod y pleidleisio, roeddwn i’n hynod o gyffrous o gael pleidleisio am y tro cyntaf. Sbardunwyd fy angerdd gwleidyddol ac roeddwn i'n barod i archwilio mwy o ffyrdd y gallwn i leisio fy llais. Teimlais fod fy mhrofiad pleidleisio wedi mynd yn dda ond wrth siarad â phobl ifanc eraill roeddent yn cael anawsterau wrth bleidleisio oherwydd bod ffactorau fel eu gorsaf bleidleisio yn rhy bell i ffwrdd a bod angen teithio. ”
education resources
Er bod llawer o bleidleiswyr newydd eu rhyddfreinio yng Nghymru wedi gallu cofrestru a phleidleisio yn yr etholiad hwn, mae ein hymchwil ar ôl yr arolwg yn awgrymu bod rhai pleidleiswyr newydd yn ei chael yn anoddach cymryd rhan na phleidleiswyr sy'n wedi pleidleisio o’r blaen. Credwn fod gwaith addysg ac ymgysylltu pellach i'w wneud i gefnogi pleidleiswyr newydd i ddeall a chymryd rhan mewn etholiadau yng Nghymru.
Y llynedd cyhoeddom set newydd o adnoddau ar-lein i addysgu pobl ifanc am y broses ddemocrataidd, gan gynnwys y rhai a oedd yn pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau'r Senedd, ac i baratoi addysgwyr i ddysgu llythrennedd gwleidyddol yn hyderus. Roeddem yn falch o gael cefnogaeth i'r adnoddau gan lawer o sefydliadau a phrosiectau partner ledled Cymru, fel y Democracy Box a Coda Dy Lais.
Er mwyn cefnogi mwy o bleidleiswyr newydd ledled Cymru i gymryd rhan yn nemocratiaeth Cymru, rydym yn bwriadu ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein rhaglen addysg cyn etholiadau llywodraeth leol Cymru yn 2022 ac etholiad y Senedd yn 2026. Rydyn ni eisiau adeiladau ar y gwaith a lwyddwyd yn barod drwy ymgysylltu ymhellach â sefydliadau partner, pobl ifanc ac addysgwyr ar draws Cymru er mwyn cydnabod mwy o themâu a phynciau y gall ein hadnoddau gyfeirio atynt.
cta
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am athrawon a all ein cefnogi gyda'r gwaith hwn. Mwy o wybodaeth yma: