Hygyrchedd ar y diwrnod pleidleisio
Rydym yn cefnogi Diwrnod Pleidleisio Hygyrch United Response ddydd Iau, 3 Mawrth 2022.
Nod Diwrnod Pleidleisio Hygyrch yw hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a phleidleisio. Nod y digwyddiad hefyd yw codi ymwybyddiaeth o'r rhesymau pam y mae pleidleisio ac etholiadau yn anodd i rai pobl, er mwyn helpu i wneud y broses bleidleisio'n fwy hygyrch.