Bob blwyddyn, mae’r Comisiwn yn casglu data cofrestru etholiadol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ôl y canfas blynyddol a chyhoeddi’r cofrestrau etholiadol diwygiedig. Mae’r data hwn yn llywio ein hadroddiadau ar gofrestru etholiadol ym Mhrydain Fawr ac yn helpu i ddangos sut mae prosesau canfas yn gweithio yn ymarferol.
Byddwn yn gofyn am yr un data canfas ag yn 2025, sydd ar gael trwy eich systemau Meddalwedd Rheoli Etholiadol fel arfer.
Byddwn yn anfon e-bost atoch ddechrau mis Rhagfyr gyda’r cais am ddata a chyfarwyddiadau ar gyfer cynhyrchu’r adroddiad.
Os ydych yn bwriadu oedi cyhoeddi eich cofrestr ddiwygiedig, anfonwch e-bost at [email protected].
Cwsmeriaid Idox: Mae Idox wedi dweud wrthym y gallai fod oedi wrth gyflwyno ei adroddiadau canfas eleni. Felly, efallai y byddwn yn gohirio ein cais i gwsmeriaid Idox nes bod Idox yn cadarnhau bod yr adroddiad yn barod i’w redeg.
Diolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth gyda’r gwaith hwn ac am yr amser a gymerwyd i roi’r data i ni.