Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Deisebau etholiadol

Gellir herio canlyniad etholiad Senedd y DU drwy ddeiseb etholiadol.

Cyflwyno deiseb etholiadol

Dim ond rhai pobl a gaiff gyflwyno deiseb etholiadol, a dim ond o dan amgylchiadau arbennig.

Gall deiseb etholiadol gael ei chyflwyno gan y canlynol:1

  • rhywun sy'n honni ei fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
  • rywun sy'n honni bod ganddo hawl i gael ei ethol yn yr etholiad, neu
  • etholwr (nad yw'n etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw) a oedd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad (er nad oes angen iddo fod wedi pleidleisio)

Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb yw bod y canlynol wedi digwydd:2

  • etholiad amhriodol, neu
  • canlyniad amhriodol

Ceir proses farnwrol ar wahân ar gyfer herio etholiad AS ar y sail ei fod wedi'i anghymwyso ar y pryd neu yn y gorffennol o dan Ddeddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 (fel u'i diwygiwyd). Yn yr achos hwnnw, gellir gwneud cais i'r Cyfrin Gyngor am ddatganiad o'r fath (ar yr amod nad oes deiseb yn yr arfaeth na bod Gorchymyn Tŷ'r Cyffredin i anwybyddu'r anghymhwysiad wedi'i wneud).

Mae'n rhaid i'r Aelod y gwneir cwyn ynglŷn â'i ethol fod yn wrthapeliwr i'r ddeiseb.3  Os bydd y ddeiseb yn cwyno am ymddygiad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu ei staff yn ystod yr etholiad, rhaid bod y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn atebydd hefyd.4

Fel rheol, rhaid i ddeiseb gael ei chyflwyno o fewn 21 diwrnod calendr i ddyddiad dychwelyd yr writ5  (sef y diwrnod ar ôl yr etholiad yn y rhan fwyaf o achosion) a gellir ei chyflwyno unrhyw bryd hyd at 12 hanner nos ar y diwrnod olaf fan bellaf.   Fodd bynnag, os bydd y ddeiseb yn cwyno am arferion llwgr neu anghyfreithlon sy'n ymwneud â thalu arian neu roi math arall o wobr, neu arfer anghyfreithlon sy'n ymwneud â gwariant etholiadol, gellir caniatáu mwy o amser.

Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â deisebau etholiadol, yn cynnwys cadarnhau'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno deiseb etholiadol, dylech gysylltu â:

Yng Nghymru a Lloegr:

The Election Petitions Office
Room E113
Royal Courts of Justice
Strand
London
WC2A 2LL

E-bost: [email protected]
Ffôn: 0207 947 6877
Ffacs: 0870 324 0024

Os ydych yn Yr Alban:

The Petitions Department
Court of Session
Parliament Square
Edinburgh 
EH1 1RQ

E-bost: [email protected]
Ffôn: 0131 240 6747
Ffacs: 0131 240 6711

Mae costau yn gysylltiedig â deiseb etholiadol. Os ydych yn ystyried cyflwyno deiseb etholiadol, rydym yn argymell yn gryf y dylech gael cyngor cyfreithiol annibynnol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Ionawr 2024