Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cwblhau'ch ffurflen

Gelwir yr adroddiad ar wariant a rhoddion yn ‘ffurflen’.

Rhaid i'r asiant gwblhau'r ffurflen.

Dylai'r ffurflen gynnwys y canlynol ar gyfer bob eitem o wariant:1

  • ar gyfer beth roedd y gwariant – er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • y swm neu'r gwerth
  • manylion pryd yr aed i'r gwariant a phryd y'i talwyd
  • manylion unrhyw symiau sydd heb eu talu neu y mae anghydfod yn eu cylch
  • anylion unrhyw wariant tybiannol, a datganiad o'i werth
  • anfonebau neu dderbynebau ar gyfer unrhyw daliad o £20 neu fwy
  • manylion unrhyw dreuliau personol


Rhaid i'r ffurflen hefyd gynnwys manylion pob rhodd dros £50.2  Mae rhagor o wybodaeth am y manylion y mae angen i chi eu cofnodi yn  Gwarinat ymgeiswyr a Rhoddion ymgeiswyr

Rhaid i'r ymgeisydd a'r asiant hefyd lofnodi datganiad bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eu gwybodaeth a'u cred.3  Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir am wariant ymgeisydd. 

Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol.4

Ffurflenni y bydd eu hangen arnoch:

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ebrill 2024