Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Enghreifftiau o wariant tybiannol
Mae'n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol
- caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i'w defnyddio gennych neu er budd i chi
- caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% 1
- mae'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a'r hyn a dalwch dros £50 2
- rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan) 3
- byddai wedi bod yn dreuliau etholiad pe byddech chi wedi mynd i'r gwariant. 4
Ceir gwybodaeth am y categorïau o wariant ymgeisydd yn Pa weithgareddau sy'n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?
Example
Enghraifft A
Mae plaid yn anfon gwerth £100 o daflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch. Mae'r ymgeisydd yn derbyn y taflenni ac yn trefnu iddynt gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae'r prawf cyntaf a'r ail brawf wedi'u bodloni am fod y taflenni wedi cael eu darparu i'r ymgeisydd eu defnyddio am ddim.
Mae'r trydydd prawf hefyd wedi cael ei fodloni am fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£100) a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ei dalu (£0) yn fwy na £50.
Mae'r pedwerydd prawf wedi'i fodloni am fod yr ymgeisydd wedi trefnu i'r taflenni gael eu defnyddio ar ei
ran drwy drefnu iddynt gael eu dosbarthu.
Mae'r pumed prawf wedi'i fodloni am fod deunydd digymell i etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Am fod yr holl brofion wedi'u bodloni, mae hyn yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i werth llawn y taflenni a ddarperir i'r ymgeisydd gael ei gofnodi fel gwariant tybiannol.
Gwnaed rhodd i'r ymgeisydd hefyd am fod gwerth y gwariant tybiannol dros £50.
Enghraifft B
Mae argraffwr yn rhoi dyfynbris o £200 i ymgeisydd am argraffu taflenni i hyrwyddo ymgyrch yr ymgeisydd. Mae'r argraffwr hefyd yn cynnig gostyngiad anfasnachol o 50% i'r ymgeisydd ar yr archeb. Mae'r ymgeisydd yn talu am y taflenni, yn derbyn y gostyngiad ac yn trefnu i'r taflenni gael eu dosbarthu i bleidleiswyr.
Mae'r prawf cyntaf a'r ail brawf wedi'u bodloni am fod y taflenni wedi cael eu darparu i'r ymgeisydd eu defnyddio am ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%.
Mae'r trydydd prawf hefyd wedi cael ei fodloni am fod y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol y taflenni (£200) a'r hyn y mae'r ymgeisydd yn ei dalu (£100) yn fwy na £50.
Mae'r pedwerydd prawf wedi'i fodloni am fod yr ymgeisydd wedi trefnu i'r taflenni gael eu defnyddio ar
ei ran drwy drefnu iddynt gael eu dosbarthu.
Mae'r pumed prawf wedi'i fodloni am fod deunydd digymell i etholwyr yn cyfrif fel traul etholiad.
Am fod yr holl brofion wedi'u bodloni, mae hyn yn enghraifft o wariant tybiannol. Rhaid i'r ymgeisydd gofnodi'r swm a dalwyd ganddo am y taflenni fel taliad arferol a dalwyd gan yr asiant.
Rhaid i werth llawn y taflenni a ddarperir i'r ymgeisydd drwy'r pris gostyngol gael ei gofnodi fel gwariant tybiannol.
Gwnaed rhodd i'r ymgeisydd hefyd am fod gwerth y gwariant tybiannol dros £50
- 1. Erthygl 51(1)(a), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 51(2), (3) a (4), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 51(1)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 51(1)(b), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 4