Pryd mae'r cyfreithiau ynghylch gwariant ymgeisydd yn gymwys?
Defnyddiwn y term ‘cyfnod a reoleiddir’ i gyfeirio at yr adeg pan fydd y cyfreithiau ynghylch gwariant yn gymwys.
Rhaid i chi gadw o fewn y terfyn gwariant ar gyfer y cyfnod a reoleiddir. Dylech hefyd gadw cofnodion ar wahân o'ch gwariant a'ch rhoddion ar gyfer y cyfnod a reoleiddir.
Y cyfnod a reoleiddir
Mae'r cyfnod a reoleiddir yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i chi ddod yn ymgeisydd yn swyddogol ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio. 1
Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r dyddiad y daw'r swydd yn wag.2
Byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad hwn os byddwch chi neu eraill eisoes wedi cyhoeddi eich bwriad i sefyll.3
Er enghraifft, efallai fod eich plaid wedi cyhoeddi datganiad i'r wasg pan gawsoch eich dewis, neu efallai eich bod wedi sôn am eich bwriad mewn cyfarfod i drigolion, neu efallai eich bod eisoes wedi dechrau ymgyrchu.
Os nad yw eich bwriad i sefyll wedi cael ei gyhoeddi erbyn y dyddiad y daw'r swydd yn wag, byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y dyddiad cynharaf o'r rhain: