Pryd y bydd rhywun yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol?
Y dyddiad cynharaf y gallwch ddod yn ymgeisydd yn swyddogol yw'r diwrnod y daw'r swydd yn wag.
Er enghraifft, os yw'r swydd wag oherwydd ymddiswyddiad AS, bydd y swydd wag yn digwydd pan fyddant yn dechrau swydd anghymwys o dan y Goron. Mae hyn oherwydd na all Aelod Seneddol ymddiswyddo, ond byddai derbyn swydd stiward neu feili tri Chantref Chiltern Ei Fawrhydi neu Faenor Northstead, sy'n swyddi o dan y Goron, yn arwain at anghymhwyso ac, o ganlyniad, swydd wag.
Os yw Aelod Seneddol wedi marw, mae'r swydd wag yn digwydd ar y dyddiad y bu farw.
Byddwch yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol ar y diwrnod y daw'r swydd yn wag os byddwch eisoes wedi datgan eich bod yn ymgeisydd yn yr etholiad (neu os bydd rhywun arall wedi datgan eich bod yn ymgeisydd) ar neu cyn y dyddiad hwn.
Os byddwch chi neu eraill, ar ôl y dyddiad hwn, yn datgan y byddwch yn ymgeisydd yn yr etholiad, byddwch yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad y gwneir datganiad o'r fath, neu ar y dyddiad y byddwch yn cyflwyno'ch papurau enwebu, pa un bynnag sydd gynharaf.