Pwy sy'n gwneud beth mewn is-etholiad ar gyfer Senedd y DU a sut i gysylltu â hwy
Y Swyddog Canlyniadau a'r Swyddog Canlyniadau Gweithredol
Mewn etholiad ar gyfer Senedd y DU yng Nghymru a Lloegr, swydd seremonïol yw swydd y Swyddog Canlyniadau ar y cyfan.
Cyfrifoldeb y Swyddog Canlyniadau Gweithredol, sydd fel arfer yn un o uwch swyddogion yr awdurdod lleol, yw gweinyddu'r etholiad.
Dim ond derbyn a dychwelyd yr writ a datgan y canlyniad ar ddiwedd y cyfrif a wna'r Swyddog Canlyniadau - er y gall ddewis dirprwyo'r cyfrifoldebau hyn i'r Swyddog Canlyniadau Gweithredol.
Yn yr Alban, y Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiad Senedd y DU yw'r Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol hefyd, ac mae'n gyfrifol am bob agwedd ar weinyddu'r etholiad, gan gynnwys derbyn a dychwelyd yr writ a datgan y canlyniad. Ni ddefnyddir y term Swyddog Canlyniadau Gweithredol yn yr Alban.
Drwy gydol y canllawiau hyn, defnyddir Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i gyfeirio at y Swyddog Canlyniadau Gweithredol yng Nghymru a Lloegr a'r Swyddog Canlyniadau yn yr Alban.
Byddwch yn gallu cysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) dros eich etholaeth drwy gysylltu â'ch swyddfa etholiadau leol. Ceir cyfeiriadau a rhifau ffôn pob swyddfa etholiad yng Nghymru a Lloegr ar ein gwefan. Yn yr Alban, gallwch gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) drwy'r swyddfa etholiadau yn eich cyngor lleol.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn cynnig briffiadau cyn yr etholiad ac rydym yn eich annog chi neu eich asiant i fynd iddynt, hyd yn oed os ydych wedi bod yn asiant neu wedi sefyll etholiad o'r blaen.
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am gynnal y gofrestr etholwyr a rhestrau pleidleiswyr absennol ar gyfer ei ardal awdurdod lleol. Y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw un o'r uwch swyddogion yn yr awdurdod lleol fel arfer a gall hefyd gyflawni rôl y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Ceir manylion cyswllt eich Swyddog Cofrestru Etholiadol ar ein gwefan.
Y Comisiwn Etholiadol
Rydym yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2000 gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Cawn ein harwain ar hyn o bryd gan ddeg Comisiynydd, gan gynnwys Cadeirydd. Rydym yn uniongyrchol atebol i Senedd y DU drwy bwyllgor a gadeirir gan Lefarydd Tŷ'r Cyffredin.
Rydym yn gyfrifol am gofrestru pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, monitro a chyhoeddi rhoddion sylweddol i bleidiau gwleidyddol cofrestredig a rheoleiddio gwariant ymgyrchwyr plaid a rhai nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau penodol. Mae gennym rôl i'w chwarae hefyd wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith pleidleiswyr. Mae'n ofynnol i ni adrodd ar weinyddiaeth rhai digwyddiadau etholiadol penodol, arolygu materion etholiadol yn rheolaidd ac, os gofynnir am hynny, adolygu ac adrodd ar unrhyw fater etholiadol. Rydym hefyd yn achredu arsylwyr i fod yn bresennol yn ystod gweithrediadau etholiadau.
Nid ydym yn rhedeg etholiadau ond ni sy'n gyfrifol am roi cyngor a chymorth ar faterion etholiadol i bawb sy'n gysylltiedig ag etholiadau, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol), Swyddogion Cofrestru Etholiadol, pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr.
Rydym yma i helpu, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.