Argraffnodau ar ddeunydd digidol
Pa ddeunydd digidol y mae angen iddo gynnwys argraffnod
Rhaid i rai deunyddiau ymgyrchu digidol gynnwys argraffnod. Mae argraffnodau yn nodi pwy sy'n gyfrifol am gyhoeddi deunydd ymgyrchu ac ar ran pwy y maent yn ei hyrwyddo.
Ystyr deunydd ymgyrchu digidol yw unrhyw gynnwys ymgyrchu ar ffurf electronig (ar-lein ac all-lein). Gallai'r cynnwys fod ar ffurf testun, ar ffurf sain neu ar ffurf weledol. Mae'n cynnwys postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion ar-lein, gwefannau, negeseuon ar apiau fel WhatsApp, Signal neu Telegram, a hysbysfyrddau electronig.
Nid yw'n cynnwys galwadau ffôn, negeseuon SMS, grwpiau negesu preifat rhwng ffrindiau na negeseuon e-bost a gaiff eu hanfon gan bleidiau at eu haelodau.
Mae'r rheolau ynglŷn ag argraffnodau ar ddeunydd digidol yn berthnasol ledled y DU, ond ceir gofynion ychwanegol hefyd ar gyfer argraffnodau ar ddeunydd sy'n gysylltiedig ag etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau yn yr Alban.
Enghreifftiau o argraffnodau digidol
Dyma enghraifft o argraffnod digidol ar hysbyseb ddigidol y talwyd amdani ar Facebook:

Dyma enghraifft o hysbyseb ddigidol y talwyd amdani ar Google:

Hysbysebion digidol y talwyd amdanynt
Caiff deunydd ei ystyried yn ‘hysbyseb ddigidol y talwyd amdani’ os bydd rhywun wedi talu i'w chyhoeddi fel hysbyseb ar lwyfan. Er enghraifft, mae'r hysbysebion a welwch ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol yn ‘hysbysebion digidol y talwyd amdanynt’. Nid yw'n cyfeirio at gynnwys y cafodd dylanwadwr ar y cyfryngau cymdeithasol neu greawdwr cynnwys ei dalu i'w rannu fel postiad personol.
Bydd a oes angen i hysbyseb ddigidol y talwyd amdani gynnwys argraffnod yn dibynnu ar ei diben.
Er enghraifft, bydd angen i hysbyseb y talwyd amdani gynnwys argraffnod os gellir ystyried yn rhesymol mai diben yr hysbyseb honno yw dylanwadu ar y cyhoedd i gefnogi neu i beidio â chefnogi'r canlynol:
- un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
- ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
- deiliad swydd etholedig (fel Aelod Seneddol neu gynghorydd)
- pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig sy'n gysylltiedig oherwydd eu bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu polisïau penodol, neu'n arfer barn benodol
- categorïau eraill o ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig nad ydynt yn seiliedig ar bolisïau neu farn – er enghraifft, ymgeiswyr a aeth i ysgol wladol, neu Aelodau Seneddol a gafodd eu magu yn eu hetholaeth
Mae angen i hysbysebion digidol y talwyd amdanynt sy'n bodloni unrhyw un o'r amodau hyn gynnwys argraffnod bob amser, nid dim ond yn ystod y cyfnod cyn etholiadau.
Deunydd digidol organig
Mae angen i ddeunydd digidol organig, neu ddeunydd nad yw'n ‘hysbyseb y talwyd amdani’, gynnwys argraffnod os yw'r ddau beth canlynol yn wir:
- caiff ei gyhoeddi gan neu ar ran y canlynol:
- plaid wleidyddol gofrestredig
- ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid
- ymgeisydd neu ddarpar ymgeisydd
- deiliad swydd etholedig (fel Aelod Seneddol neu gynghorydd)
- ymgyrchydd refferendwm cofrestredig
- ymgyrchydd deiseb adalw cofrestredig
- and, is election or recall petition material
Rhoi gwybod am ddeunydd digidol penodol heb argraffnod
Pwy sy'n gyfrifol am orfodi'r gyfraith ar argraffnodau ar ddeunydd digidol
Mae'r cyfrifoldeb dros sicrhau bod deunydd digidol yn cynnwys argraffnod wedi'i rannu rhyngom ni a'r heddlu, gan ddibynnu ar y math o ddeunydd.
Ni sy'n gyfrifol am y canlynol:
- unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â phleidiau gwleidyddol
- unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â grwpiau o bleidiau, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig sydd o blaid neu yn erbyn polisïau penodol
- unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â grwpiau o bleidiau, ymgeiswyr, darpar ymgeiswyr neu ddeiliaid swyddi etholedig sy'n arfer barn benodol
Yr heddlu sy'n gyfrifol am y canlynol:
- unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud ag ymgeisydd, darpar ymgeisydd neu ddeiliad swydd etholedig penodol
- unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â deisebau adalw
Nid ydym yn rheoleiddio cynnwys unrhyw ddeunydd. Dylech gysylltu â'r blaid wleidyddol, yr ymgeisydd neu'r ymgyrchydd nad yw'n blaid a gyhoeddodd y deunydd os bydd gennych unrhyw bryderon am ei gynnwys neu os hoffech wneud cwyn.
Beth sydd ei angen arnoch er mwyn rhoi gwybod am ddeunydd heb argraffnod
Er mwyn rhoi gwybod am ddeunydd heb argraffnod, bydd angen y canlynol arnoch:
- enw'r llwyfan lle cafodd y deunydd ei bostio
- gwybodaeth am bwy bostiodd y deunydd
- manylion am y deunydd, gan gynnwys beth mae'r deunydd yn cyfeirio ato, pryd y gwelsoch y deunydd am y tro cyntaf, ac ai hysbyseb ddigidol y talwyd amdani yw'r deunydd
- dolen i'r deunydd neu sgrinlun o'r deunydd
Rhoi gwybod am ddeunydd heb argraffnod
Os byddwch wedi gweld deunydd digidol heb argraffnod, a'ch bod o'r farn y dylai'r deunydd hwnnw fod wedi cynnwys argraffnod a'i fod, yn hanfodol, yn un o'r mathau o ddeunydd digidol a reoleiddir gennym, cwblhewch ein ffurflen. Nodwch na allwn ymateb i bob achos y rhoddir gwybod amdano.
Rhoi gwybod am ddeunydd heb argraffnod
Os na fydd deunydd digidol yn cynnwys argraffnod ond ei fod yn un o'r mathau o ddeunydd digidol a reoleiddir gan yr heddlu, dylech gysylltu â'ch heddlu lleol.
Guidance
Os ydych yn ymgyrchydd, gallwch gael rhagor o wybodaeth am argraffnodau yn ein canllaw.