Gwneud honiad
Beth i'w wneud cyn cysylltu â ni
Rydym yn argymell y dylech edrych ar yr hyn rydym yn ei reoleiddio a'r hyn nad ydym yn ei reoleiddio cyn cysylltu â ni. Bydd hyn yn arbed amser i chi ac yn sicrhau y bydd y sefydliad priodol yn ymdrin â'ch honiad.
Honiadau rydym yn ymdrin â nhw
Rydym yn ymdrin â honiadau am gyllid gwleidyddol y canlynol:
- Pleidiau gwleidyddol
- Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
- Aelodau unigol o bleidiau a'r rheini â swydd etholedig, megis ASau
- Ymgyrchwyr refferendwm
- Cymdeithasau aelodau
- Cymdeithasau anghorfforedig, sef unrhyw grŵp sy'n cynnwys dau berson neu ragor
Honiadau nad ydym yn ymdrin â nhw
Dylech roi gwybod i'r heddlu am honiadau sy'n ymweud â'r canynol:
- Ymddygiad neu gyllid gwleidyddol ymgeisydd unigol
- Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n ymgyrchu o blaid neu'n erbyn ymgeisydd penodol
- Achosion o fygwth neu aflonyddu ar ymgeiswyr, ymgyrchwyr neu ddeiliaid swydd etholedig, boed yn ysgrifenedig neu'n bersonol
- sut y cafodd etholiad ei gynnal yn eich ardal, megis cofrestru etholiadol, pleidleisio drwy'r post neu orsaf bleidleisio
- ymddygiad rhywun mewn gorsaf bleidleisio
- sut y mae plaid wleidyddol wedi defnyddio cyfleusterau cyngor lleol
- unrhyw ddeunydd marchnata neu ohebiaeth, megis deunydd ar y cyfryngau cymdeithasol, a rannwyd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad a allai fod o natur wleidyddol, yn eich barn chi
Ni chaiff y rhan fwyaf o ddeunydd ymgyrchu gwleidyddol ei reoleiddio yn y DU. Fodd bynnag, gallwch siarad ag Ofcom os bydd gennych bryderon mewn perthynas â'r canlynol:
- os byddwch o'r farn y gallai hysbyseb deledu fod yn wleidyddol, gan fod darllediadau gwleidyddol ar y teledu wedi'u gwahardd yn y DU
Siaradwch â phlaid wleidyddol os bydd gennych bryderon mewn perthynas â'r canlynol:
- sut y cafwyd eich enw, eich cyfeiriad neu'ch cyfeiriad e-bost er mwyn anfon deunydd ymgyrchu atoch
- anghydfod o fewn plaid
- unrhyw anfonebau i gyflenwyr nas talwyd
Siaradwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os bydd gennych bryderon mewn perthynas â'r canlynol:
- y defnydd a wnaed o'ch data personol
Ystyriaethau eraill am eich honiad
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'r canlynol:
- nid ydym fel arfer yn ystyried honiadau dienw, os nad ydych yn chwythu'r chwiban. Os ydych yn gwneud hynny, cysylltwch â ni
- rhaid i chi ategu eich honiad â thystiolaeth gredadwy
Sut i wneud honiad
Gallwch wneud honiad drwy cysylltwch â ni neu drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad hwn:
Party and Election Finance
The Electoral Commission
3 Bunhill Row London
EC1Y 8YZ
Os na allwch ysgrifennu atom, cysylltwch â ni am gymorth.