Sut mae ymchwiliadau’n gweithio
Our role
Fel rheoleiddir cyllid gwleidyddol yn y DU, rydym yn sicrhau bod pleidiau ac ymgyrchwyr yn dilyn y gyfraith. Os ydym o’r farn bod y gyfraith wedi’i thorri, gallwn gymryd camau fel bod pleidleiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr yn gallu cael hyder yn nhegwch ein system. Mae rhagor o fanylion am ymchwiliadau a chosbau yn ein Polisi Gorfodi.
Pam rydym yn ymchwilio
Mae’r Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda (PPERA) yn nodi’r gyfraith a’n rôl yn ei gorfodi. Rydym yn cynhyrchu canllawiau, ond Senedd y DU sy’n gwneud y gyfraith.
Mae’r gyfraith ar gyfer pleidiau’n cynnwys:
- arian sy’n cael ei wario ar ymgyrchu cyn etholiadau
- rhoddion a benthyciadau drwy’r flwyddyn gyfan
- cadw manylion swyddogion plaid cofrestredig yn ddiweddar
- cyfrifon blynyddol
Ar gyfer ymgyrchwyr eraill, mae’r rheolaethau’n llai eang ond mae yna rwymedigaethau cyfreithiol o hyd o amgylch tryloywder ariannol.
Ein nod yw sicrhau:
- bod y gyfraith yn cael ei dilyn
- bod pob plaid ac ymgyrchydd yn cadw at y rheolau ariannol
- y gall pleidleiswyr fod yn hyderus yn uniondeb a thryloywder cyllid pleidiau ac etholiadau yn y DU
Pan fyddwn yn canfod bod troseddau wedi digwydd, mae hefyd yn bwysig bod pleidleiswyr yn gwybod bod canlyniadau i’r rheiny sy’n torri’r gyfraith.
Pwy rydym yn ymchwilio
Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau gwleidyddol cofrestredig drwy gydol y flwyddyn, ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau o amgylch etholiadau cyffredinol ac etholiadau’r seneddau datganoledig.
Rydym hefyd yn rheoleiddio’r rhoddion i dderbynwyr a reoleiddir, sy’n cynnwys:
- swyddogion etholedig
- aelodau o bleidiau gwleidyddol
- cymdeithasau aelodau
- cymdeithasau anghorfforedig sy’n gwneud rhoddion o fwy na £25,000 y flwyddyn i bleidiau gwleidyddol
Mewn refferenda rydym yn rheoleiddio cyllid ymgyrchwyr hefyd.
Sut a pham rydym yn gweithio gyda’r heddlu
Mae’r PPERA yn cynnwys ystod eang o droseddau, ac fel y rheoleiddiwr, byddwn yn ymchwilio i’r rhan fwyaf o droseddau ac yn cymryd camau priodol. Fodd bynnag, gall yr heddlu hefyd ymchwilio i bob trosedd PPERA os dymunant wneud hynny. Gall nifer fach o droseddau ond cael eu hymchwilio gan yr heddlu.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r heddlu i sicrhau bod troseddau posibl yn cael eu hymchwilio, a bod camau priodol yn cael eu cymryd.
Weithiau byddwn yn rhoi gwybod i’r heddlu am droseddau os nad oes gennym y pŵer i gymryd camau, neu os ydym o’r farn bod ymchwiliad gan yr heddlu yn fwy addas. Gall ymchwiliadau’r heddlu arwain at erlyniadau troseddol, os yw hynny’n briodol.
Pryd rydym yn ymchwilio
Rydym yn dechrau ymchwiliadau pan fod gennym sail resymol i amau bod trosedd wedi digwydd, a’i bod yn gymesur ac er lles y cyhoedd i ni ymchwilio. Byddwn bob tro yn ystyried p’un a ellir datrys sefyllfa heb fod angen ymchwiliad os byddai hynny’n fwy cymesur neu er lles y cyhoedd.
I benderfynu p’un a ddylid dechrau ymchwiliad, rydym yn edrych ar y dystiolaeth a’r amgylchiadau fel rhan o broses a elwir yn asesiad. Rydym yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu p’un a ddylid agor ymchwiliad. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid ydynt wedi'u cyfyngu i:
- difrifoldeb y drosedd dan amheuaeth
- cryfder y dystiolaeth
- effaith yr ymchwiliad a/neu unrhyw gosb a godir, gan gynnwys yr effaith ataliol ar eraill
- hanes cydymffurfio y person neu’r personau sydd o bosib wedi cyflawni’r drosedd a amheuir
- unrhyw gamau sydd eisoes wedi’u cymryd i gywiro’r toriad
Y broses ymchwilio
Diben ymchwiliad yw sefydlu p’un a yw’r drosedd a amheuir wedi digwydd, ac os felly, pwy y’i cyflawnodd. Yn ystod ymchwiliad rydym yn casglu tystiolaeth ynghylch troseddau posibl gan y rheiny yr ydym yn tybio bod ganddynt wybodaeth berthnasol am yr hyn a ddigwyddodd. Wrth wneud hyn rydym yn chwilio am dystiolaeth sy’n profi neu’n wrthbrofi ein hamheuaeth resymol bod trosedd wedi digwydd.
Gall casglu tystiolaeth fod ar sawl ffurf wahanol, o ofyn i bobl roi tystiolaeth yn wirfoddol, i gyfweld tystion neu bobl dan amheuaeth neu ofyn bod tystiolaeth yn cael ei rhoi i ni.
Er enghraifft, mae gennym y pŵer cyfreithiol i anfon hysbysiad cyfreithiol at berson neu sefydliad yr ydym o’r farn bod ganddynt ddogfennau neu wybodaeth berthnasol. Mae’r hysbysiad yn nodi’r hyn y mae’n rhaid i’r derbynnydd ei roi i ni a phryd y mae’n rhaid iddo wneud hynny, Mae methu â chydymffurfio â’r hysbysiad yn drosedd, yr un fath a rhoi gwybodaeth ffug i ni yn fwriadol neu’n fyrbwyll. Hefyd, os na fydd rhywun yn cydymffurfio â’n hysbysiad, gallwn wneud cais am orchymyn datgelu gan lys i gael yr wybodaeth berthnasol.
Mae'r amser a gymerir i gwblhau ymchwiliad yn amrywio o achos i achos. Mae’n dibynnu ar ystod o ffactorau, megis cymhlethdod a nifer y troseddau, a faint o gydweithrediad a gawn gan y rheiny rydym yn ymchwilio iddynt neu gan dystion. Ein blaenoriaeth yw pob to cynnal ymchwiliad teg a thrylwyr, ac rydym bob amser yn ceisio dod ag ymchwiliadau i ben cyn gynted â phosibl. Mae hyn er lles y cyhoedd ac er lles y rheiny sy’n gysylltiedig.
Dod ag ymchwiliad i ben
Ar ddiwedd ymchwiliad mae tri chanlyniad posibl:
- Ry'n ni'n fodlon tu hwnt i amheuaeth rhesymol bod trosedd wedi'i chyflawni
- Ry'n ni'n fodlon tu hwn i amheuaeth rhesymol bod trosedd wedi'i chyflawni
- Nid ydym yn pennu trosedd. Mae hyn yn golygu ar ôl i ni ddechrau ymchwiliad, daethom i’r casgliad nad oedd er lles y cyhoedd i ni barhau â’r ymchwiliad, a gwnaethom benderfynu ddod â’r ymchwiliad i ben heb bennu trosedd
Y broses gosbi
Os byddwn yn canfod bod trosedd wedi’i chyflawni, byddwn yn ystyried p’un a fydd cosb yn briodol. Bydd rhywun na fu’n rhan o’r ymchwiliad yn gwneud y penderfyniad hwn.
Os ydym yn penderfynu codi cosb, rydym yn anfon hysbysiad rhagarweiniol at y person rydym yn bwriadu ei gosbi, yn nodi’r canlynol:
- ein cosb arfaethedig
- y rhesymau amdano, gan gynnwys y seiliau dros ddod o hyd i drosedd
- yr amser sydd gan y derbynnydd i ymateb
Mae gan y person neu’r sefydliad gyfnod o amser wedyn i wneud sylwadau, naill ai ynghylch canfod y drosedd neu’r gosb arfaethedig.
Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch y drosedd a’r gosb. Gallwn ddod i’r casgliad na fu trosedd, neu gallwn newid beth yw lefel unrhyw gosb, neu benderfynu peidio â chodi unrhyw gosb o gwbl. Os byddwn yn dal i fod yn fodlon bod trosedd wedi’i chyflawni a bod cosb yn briodol, byddwn yn anfon hysbysiad terfynol. Mae’n nodi pam y codwyd y gosb, sut a phryd y dylid talu unrhyw gosb neu gymryd unrhyw gamau, a sut i apelio i’r llys.
Rydym yn cyhoeddi canlyniad pob ymchwiliad, gan nodi’r hyn rydym yn ei ganfod a ph’un a godwyd cosb. Pan fydd ymchwiliad yn amlygu gwersi pwysig i eraill am y gyfraith, neu gallai rhoi mwy o fanylion gynyddu hyder yn y gyfraith sy’n cael ei dilyn, efallai byddwn yn dewis cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi’r ymchwiliad.
Ein cosbau
Gallai cosb fod yn ddirwy sydd rhwng £200 ac £20,000. Neu efallai byddwn angen i’r person neu’r sefydliad wella’u gweithdrefnau cydymffurfio mewnol, gan wario arian ar welliannau mewnol yn hytrach nag ar gosbau. Gallai hyn gynnwys:
- Hysbysiad cydymffurfio, lle rydym yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r person neu’r sefydliad gymryd er mwyn sicrhau nad yw’r tor-cyfraith yn parhau nac yn ailddigwydd.
- Hysbysiad adfer, lle rydym yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r person neu’r sefydliad gymryd er mwyn adfer y sefyllfa, cyn belled â phosib, i sut fyddai wedi bod petai dim trosedd wedi digwydd.
- Ymgymeriadau gorfodi, lle mae’r person neu’r sefydliad sydd wedi, neu sydd efallai wedi, cyflawni trosedd yn cynnig cymryd camau penodol o fewn cyfnod o amser a gytunir i atal, cyn belled â phosib, unrhyw droseddau dichonadwy rhag parhau neu ailddigwydd. Byddwn wedyn yn penderfynu p’un a fyddwn yn derbyn yr ymgymeriadau.
Os nad yw’r bobl neu’r sefydliadau’n rhoi ar waith gofynion yr hysbysiadau cydymffurfio neu adfer, neu elfennau eu hymgymeriadau, o fewn cyfnod o amser a gytunir, gallwn roi cosbau pellach sy’n ymwneud â’r troseddau.