Delivering the annual canvass - Scotland

Sut y dylwn wneud y drydedd ymgais i gysylltu?

Sut y dylwn wneud y drydedd ymgais i gysylltu?

Rhaid i chi wneud o leiaf dair ymgais i gysylltu os na chewch ymateb.1  Er mwyn gallu cau proses Llwybr 2 ar ôl tair ymgais i gysylltu, bydd angen i chi sicrhau bod y dull cysylltu y byddwch yn ei ddewis ar gyfer y cam hwn yn eich galluogi i gydymffurfio â'r rheolau o ran cysylltu ar gyfer Llwybr 2

Wrth benderfynu pa opsiynau cysylltu i'w defnyddio ar gyfer y drydedd ymgais i gysylltu, dylech ofyn y ddau gwestiwn canlynol:

  • A ydych eisoes wedi ceisio cysylltu'n bersonol ag unigolyn mewn eiddo – naill ai dros y ffôn neu drwy ymweld â'r eiddo? 
  • A ydych eisoes wedi anfon Ffurflen Ganfasio ragnodedig fel rhan o'r cam cysylltu blaenorol? Mae'n bwysig cofio nad yw anfon CCB yn bodloni'r gofyniad hwn.

Os mai 'do' yw'r ateb i'r ddau gwestiwn, gallwch ddewis unrhyw un o'r dulliau cysylltu ag eiddo neu unigolyn sydd ar gael i chi (fel y'u hamlinellir yn y cam cysylltu cyntaf a'r ail gam cysylltu). 

Os mai 'na' yw'r ateb i'r naill gwestiwn neu'r llall, a'ch bod yn dymuno cwblhau cylch Llwybr 2 drwy'r nifer gofynnol o gynigion i gysylltu, dylech fodloni pa ofynion bynnag sy'n weddill fel rhan o'r ymgais hwn i gysylltu. 

Os byddwch yn dewis dull cysylltu ar gyfer eich trydedd ymgais na fyddai'n eich galluogi i fodloni'r gofynion sylfaenol o ran cysylltu, bydd angen i chi geisio cysylltu eto nes y byddwch wedi bodloni'r gofynion sylfaenol o ran cysylltu neu wedi cael ymateb.   

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Mawrth 2021