Beth yw'r opsiynau o ran cyfathrebu ar gyfer yr ail ymgais i gysylltu?
Beth yw'r opsiynau o ran cyfathrebu ar gyfer yr ail ymgais i gysylltu?
Os na chewch ymateb llwyddiannus o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl y cyswllt cyntaf, rhaid i chi wneud ail ymgais i gysylltu.1
Er na chaiff cyfnod rhesymol o amser ei ddiffinio mewn deddfwriaeth, yn ein barn ni, ni ddylai hyn fod yn hwy na 28 diwrnod a gall fod yn fyrrach mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft os ydych yn nesáu at gwblhau'r canfasiad neu lle mae etholiad ar fin cael ei gynnal).
Gallwch ddewis naill ai:
cysylltu ag eiddo (h.y. drwy Ffurflen Ganfasio, CCB, ymweliad â'r eiddo), neu
gysylltu ag unigolyn (h.y. drwy e-bost neu neges destun SMS, dros y ffôn neu drwy unrhyw fath arall o ohebiaeth electronig), os oes gennych fanylion cyswllt ar gyfer unrhyw unigolyn/unigolion a barwyd (16 oed neu hŷn) yn yr eiddo
Bwriedir i ohebiaeth electronig (e-ohebiaeth) annog unigolion i ymateb drwy sianeli eraill heblaw drwy'r post.
Rhaid i'ch e-ohebiaeth hysbysu'r derbynnydd ei bod yn ofynnol iddo ymateb a dylai wneud y canlynol hefyd:
Rhoi dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r derbynnydd
Cynnwys gwybodaeth am y sianeli ymateb sydd ar gael iddo a chyfarwyddiadau ar sut i'w defnyddio
Hysbysu'r derbynnydd ynghylch sut y cawsoch ei fanylion cyswllt a rhoi'r cyfle iddo optio allan o gael rhagor o e-ohebiaeth
Er bod yn rhaid i'r e-ohebiaeth a anfonwch hysbysu'r derbynnydd fod angen iddo ymateb, dim ond gan un derbynnydd e-ohebiaeth mewn aelwyd y bydd angen i chi gael ymateb er mwyn bodloni'r gofyniad ymateb ar gyfer yr eiddo hwnnw ac atal yr angen am gamau dilynol. Cewch ragor o wybodaeth am e-ohebiaeth yn y canllawiau ar ffurflenni a llythyrau.