Llwybr 2 yw'r llwybr eiddo heb ei baru Mae pob eiddo'n cael ei neilltuo i Lwybr 2 i ddechrau, ac yna gallwch ddefnyddio Llwybr 2 ar gyfer unrhyw eiddo unrhyw bryd.
Er mwyn gallu canfasio eiddo gan ddefnyddio Llwybr 1 neu Lwybr 3 yn lle hynny, rhaid bodloni meini prawf penodol.
Sut y gellir diffinio'r mathau gwahanol o gyswllt ar gyfer Llwybr 2?
Mae'r mathau gwahanol o gyswllt ar gyfer Llwybr 2 wedi'u diffinio isod:
Cyswllt â'r eiddo – lle y caiff y Ffurflen Ganfasio ragnodedig neu Ohebiaeth Ganfasio B (CCB) ei hanfon i'r eiddo, neu lle yr ymwelir â'r cyfeiriad. Rhaid i'ch ymgais gyntaf i gysylltu fod â'r eiddo.
Cyswllt unigol – lle y caiff cyswllt ei wneud gan ddefnyddio'r manylion cyswllt sydd gennych ar gyfer unigolyn sydd wedi'i baru drwy1
waith paru data cenedlaethol a/neu leol. Gallech gyfathrebu dros y ffôn, drwy e-bost, neges SMS, neu drwy fath arall o ohebiaeth electronig (fel drwy gyfrifon cwsmeriaid mewnol).
Cyswllt personol – lle y ceisir cysylltu naill ai â'r aelwyd neu ag unigolion sydd wedi'u cofrestru yn y cyfeiriad sydd wedi'u paru, naill ai drwy ymweld â'r eiddo neu drwy alwad ffôn.
Beth yw'r rheolau o ran cysylltu ar gyfer Llwybr 2?
Er mwyn bodloni gofynion Llwybr canfasio 2, mae nifer o reolau o ran cysylltu y bydd angen i chi eu dilyn:
Rhaid i chi wneud o leiaf dair ymgais i gysylltu â'r eiddo a/neu unigolion yn yr eiddo hwnnw oni bai eich bod wedi cael ymateb2
Rhaid i o leiaf ddwy ymgais i gysylltu fod â'r eiddo, nid ag unigolyn
Rhaid i o leiaf un ymgais i gysylltu fod drwy'r Ffurflen Ganfasio ragnodedig
Rhaid i'r ymgais gyntaf i gysylltu fod drwy gyfathrebu â'r eiddo (h.y. Ffurflen Ganfasio, Gohebiaeth Ganfasio B (CCB) neu ymweliad â'r eiddo, yn hytrach na chyfathrebu ag unigolyn
Rhaid i o leiaf un ymgais i gysylltu fod drwy gyswllt personol (h.y. ymweliad neu alwad ffôn)
Os na fodlonir unrhyw un o'r meini prawf uchod yn ystod eich tair ymgais gyntaf i gysylltu, rhaid i chi geisio cysylltu eto er mwyn bodloni unrhyw ofynion sy'n weddill a chwblhau proses Llwybr 2.
Gan ddefnyddio eich gwybodaeth leol a'ch profiad, gallwch benderfynu defnyddio dulliau cyfathrebu gwahanol ar gyfer eiddo gwahanol ar gamau cyswllt gwahanol Llwybr 2. Dylech gysylltu â chyflenwr eich System Rheoli Etholiad er mwyn pennu sut y caiff y newid hwn ei reoli yn ymarferol
Gallwch hefyd benderfynu anfon deunydd cyfathrebu penodol ar adegau gwahanol, yn dibynnu ar sut rydych yn dymuno rheoli eich adnoddau.
Mae Adran y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol wedi llunio tabl sy'n nodi'r ffyrdd posibl y gellid defnyddio mathau gwahanol o gyswllt er mwyn sicrhau y caiff gofynion Llwybr 2 eu bodloni.