Rhoddion a benthyciadau i unigolion a reoleiddir
Rhannu'r dudalen hon:
Crynodeb
Gelwir rhai pobl a sefydliadau sy'n ymwneud â gwleidyddiaeth yn dderbynwyr a reoleiddir, sef:
- Deiliaid rhai swyddi etholedig
- Aelodau o bleidiau gwleidyddol
- Grwpiau o aelodau o bleidiau (a elwir hefyd yn gymdeithasau aelodau)
Data yn yr adran hon
Derbynwyr a reoleiddir
Mae derbynwyr a reoleiddir yn ddarostyngedig i reolaethau ar y rhoddion a'r benthyciadau y gallant eu derbyn mewn cysylltiad â'u gweithgareddau gwleidyddol yn rhinwedd eu swyddi fel derbynnydd a reoleiddir.
Rhaid i dderbynwyr a reoleiddir roi gwybod i'r Comisiwn am unrhyw roddion neu fenthyciadau y byddant yn eu derbyn. Rhaid rhoi gwybod o fewn 30 diwrnod i dderbyn y rhodd neu drefnu'r benthyciad Cyhoeddir yr adroddiadau hyn ar wefan y Comisiwn bob mis.
Rhoddion i unigolion a reoleiddir
Mae'r tabl hwn yn dangos y rhoddion a'r benthyciadau y mae unigolion a sefydliadau a reoleiddir wedi rhoi gwybod amdanynt yn ôl mis.