Cofrestr sefydliadau anghorfforedig
Summary
Rhaid i gymdeithasau anghorfforedig gofrestru â ni pan fyddant yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol o fwy na £37,270 mewn blwyddyn galendr. Unwaith y byddant wedi'u cofrestru, rhaid iddynt roi gwybod i ni am roddion penodol a gafwyd.
Data yn yr adran hon
Cymdeithas anghorfforedig
Cymdeithas o unigolion sydd wedi dod ynghyd i gyflawni diben a rennir yw cymdeithas anghorfforedig. Mae gan gymdeithas anghorfforedig aelodaeth adnabyddadwy sydd wedi'i rhwymo ynghyd gan reolau adnabyddadwy neu gytundeb rhwng yr aelodau. Mae'r rheolau hyn yn nodi sut y dylid rhedeg a rheoli'r gymdeithas anghorfforedig.
Rhoi gwybod am roddion a gafwyd
Unwaith y byddant wedi'u cofrestru â ni, rhaid i gymdeithasau anghorfforedig ddweud wrthym am roddion adroddadwy y maent wedi eu cael yn y blynyddoedd calendr cyn eu cofrestru, yn ystod y flwyddyn y maent yn cael eu cofrestru ac ar ôl eu cofrestru. Mae rhodd yn cynnwys unrhyw beth a roddir neu a drosglwyddir i unrhyw un o swyddogion, aelodau, ymddiriedolwyr neu asiantau cymdeithas anghorfforedig yn rhinwedd swydd y person hwnnw o fewn y gymdeithas. Mae rhoddion adroddadwy yn cynnwys:
- rhodd unigol gwerth mwy na £11,180
- dwy neu fwy o roddion gan yr un person yn yr un flwyddyn galendr sy'n gwneud cyfanswm o fwy na £11,180. Dim ond rhoddion unigol sy'n werth mwy na £500 y bydd angen i chi eu cyfrif tuag at y cyfanswm hwn
- unrhyw rodd ychwanegol a roddir gan ffynhonnell rydych eisoes wedi rhoi gwybod ei bod wedi rhoi rhodd yn y flwyddyn galendr honno, os yw'n werth mwy na £2,230
Dim ond rhoddion a gafwyd ac a dderbyniwyd gan gymdeithasau anghorfforedig nad ydynt ychwaith yn gymdeithasau aelodau y mae'r gofrestr ar y dudalen hon yn eu cynnwys. Gallwch chwilio'r gronfa ddata ar Gyllid Gwleidyddol ar ein gwefan i weld rhoddion a gafwyd ac a dderbyniwyd gan gymdeithasau aelodau.