Ffurflenni a llythyron ID Pleidleisiwr
Ffurflen Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
Lawrlwythwch ffurflen gais y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Ffurflen y Ddogfen Etholwr Dienw
Lawrlwythwch ffurflen gais y Ddogfen Etholwr Dienw.
Ffurflen Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar gyfer pleidleiswyr sy’n gwasanaethu a phleidleiswyr tramor
Lawrlwythwch y ffurflen gais ar gyfer aelodau o’r Lluoedd Arfog, gweision y Goron, cyflogeion y British Council ac etholwyr tramor dinesydd Prydeinig sy’n byw tramor.
Fformatau amgen
Lawrlwythwch fformatau amgen ffurflen gais y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Hawdd eu darllen
Print bras
Ieithoedd amgen
Bydd 25 o ieithoedd ffurflen gais y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
Canllaw
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cynllunio cyfres o ffurflenni ID Pleidleisiwr i gefnogi Gweinyddwyr Etholiadol a phleidleiswyr gyda chyflwyno’r gofynion ID Pleidleisiwr newydd mewn gorsafoedd pleidleisio o fis Mai 2023.
Dylech adolygu templedi’r ffurflen gais a’r llythyr ynghyd â’n canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar brosesu ceisiadau Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a cheisiadau Tystysgrif Dogfen Etholwr Dienw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Dyluniad
Mae’r rhan fwyaf o’r ffurflenni ID Pleidleisiwr ar gael mewn lliw a mono, ac mewn tri fformat meddalwedd: InDesign, Word a PDF. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio’r templedi lle bo hynny’n bosibl, gan eu bod yn cefnogi orau diwyg y ffurflen, ond gellir golygu ac argraffu Word a PDF.
Gellir argraffu’r templedi InDesign ar bapur A3 a’u plygu i wneud llyfryn maint A4, ond nid yw cynnwys a diwyg y ffurflenni wedi’u rhagnodi mewn deddfwriaeth, ac felly nid oes angen i chi ddilyn y diwyg hwn.
Editing the forms
Mae hyn yn cynnwys ffurflen gais y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, ffurflen gais y Ddogfen Etholwr Dienw a ffurflen gais y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar gyfer pleidleiswyr sy’n gwasanaethu a phleidleiswyr tramor.
Tudalen flaen | Tudalen ôl |
---|---|
|
|
Y dudalen gyntaf yw rhan ‘llythyr’ y ffurflen. Mae’n cynnwys gwybodaeth i’r ymgeisydd ynghylch sut i wneud cais cyn iddynt symud ymlaen i lenwi’r ffurflen. Bydd angen i chi olygu’r llythyr i ychwanegu enw a chyfeiriad yr ymgeisydd, y dyddiad, a’ch manylion cyswllt a logo.
Mae’r dudalen gefn yn cynnwys canllawiau i’r ymgeisydd. Bydd angen i chi olygu’r dudalen gefn i ychwanegu eich manylion cyswllt a dolen i’ch datganiad preifatrwydd.
Have questions
Angen mwy o gymorth?
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y ffurflenni hyn, cysylltwch â’ch swyddfa Comisiwn Etholiadol lleol.