Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a Dogfennau Etholwyr Dienw

Gall unrhyw etholwr sy'n dymuno pleidleisio yn bersonol mewn etholiad Senedd y DU, is-etholiad Senedd y DU, deisebau adalw neu etholiad Comisynwyr yr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys y rheini sy'n gweithredu fel dirprwy ar ran unigolyn arall, gyflwyno math o ID ffotograffig a dderbynnir er mwyn profi pwy ydynt cyn y byddant yn cael papur pleidleisio.

Mae'r mathau o ID ffotograffig a dderbynnir fel a ganlyn:1

  • pasbort a gyhoeddwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu Diriogaeth Dramor Brydeinig
  • (ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu cyn 30 Ebrill 2025) pasbort a gyhoeddwyd gan wladwriaeth yr AEE, neu un o wledydd y Gymanwlad (gan gynnwys Cerdyn Pasbort Gwyddelig)
  • (ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 1 Mai 2025) pasbort neu gerdyn pasbort a gyhoeddwyd gan wladwriaeth yr AEE, neu wlad y mae ei dinasyddion yn ddinasyddion y Gymanwlad
  • Trwydded yrru a gyflwynwyd gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth AEE (mae hyn yn cynnwys trwydded yrru dros dro)
  • Dogfen mewnfudo fiometrig2  
  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
  • Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
  • (ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 1 Mai 2025) Ffurflen 100 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Cyn-aelodau Llouedd Arfog EF)
  • Bathodyn Glas
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol a gyflwynwyd gan wladwriaeth AEE
  • Pàs Bws Person Hŷn a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Pàs Bws Person Anabl a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Cerdyn Oyster 60+ a gyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig
  • Pàs Freedom
  • (ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu cyn 30 Ebrill 2025) Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban a gyhoeddwyd yn yr Alban at ddibenion teithio rhatach
  • (ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 1 Mai 2025) Cerdyn Hawl Cenedlaethol a gyhoeddwyd gan awdurdod lleol yn yr Alban
  • Cerdyn Teithio Rhatach yng Nghymru i Bobl 60 Oed a Hŷn
  • Cerdyn Teithio Rhatach yng Nghymru i Bobl Anabl 
  • SmartPass i Bobl Hŷn a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass i bobl sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Anabledd Rhyfel a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass 60+ a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Hanner Pris a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon 

Gellir defnyddio dogfennau adnabod ffotograffig sydd wedi dod i ben fel ID ffotograffig a dderbynnir yn yr orsaf bleidleisio neu'r man llofnodi o hyd, cyhyd â bod y llun yn dal i fod yn ddigon tebyg i'r etholwr.

Os na fydd gan unigolyn un o'r mathau hyn o ID ffotograffig a dderbynnir, neu os nad yw'n dymuno defnyddio un o'r rhain, gall wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Dogfen sy'n cynnwys enw a llun etholwr yw hon a gellir cael un am ddim gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol lleol, ar ôl dilysu hunaniaeth yr ymgeisydd. 

Bydd angen i etholwyr dienw sy'n dymuno pleidleisio yn bersonol gyflwyno ID ffotograffig hefyd. Gan y bydd cofnod etholwr dienw ar gofrestr yr orsaf bleidleisio wedi'i gysylltu â'i rif etholwr yn hytrach na'i enw, yr unig ID ffotograffig a dderbynnir i etholwr dienw fydd Dogfen Etholwr Dienw. Dogfen sy'n cynnwys rhif etholwr a ffoto etholwr dienw yw hon, a gellir cael un yn rhad ac am ddim gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol lleol, ar ôl dilysu hunaniaeth yr ymgeisydd.  

Ni ellir defnyddio'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr na'r Ddogfen Etholwr Dienw fel prawf adnabod at unrhyw ddiben arall heblaw am bleidleisio.

Mae'r canllawiau hyn yn trafod sut y gall unigolion wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw, a sut y dylech chi, fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, brosesu'r ceisiadau hyn a phenderfynu arnynt. Maent hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gynhyrchu a dosbarthu'r dogfennau hyn a pha ddata ddylai gael eu cadw yn dilyn ceisiadau.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Chwefror 2025