Guidance for Candidates at Parish council elections in England
Enghreifftiau
Gwariant gan y blaid sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd
N/A
Enghraifft A
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros ymgeisydd penodol yn yr ardal etholiadol honno yn y llinellau olaf. Gan fod modd adnabod yr ymgeisydd, dylid ystyried bod y llythyr wedi cael ei ddosbarthu at ddibenion ethol yr ymgeisydd.
Enghraifft B
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu hysbyseb sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn gofyn i bleidleiswyr bleidleisio dros y blaid yn yr ardal etholiadol honno. Er nad yw'r hysbyseb yn enwi'r ymgeisydd, mae'n enwi'r ardal etholiadol. Felly dylid ystyried bod yr hysbyseb wedi cael ei dosbarthu at ddibenion ethol ymgeisydd y blaid.
Spending that should be partially attributed to both the party and the candidate
Gwariant a ddylai gael ei briodoli'n rhannol i'r blaid ac i'r ymgeisydd
N/A
Enghraifft C
Caiff taflen sy'n cynnwys arweinydd y blaid ei dosbarthu ledled Prydain Fawr, gan gynnwys yn yr ardal etholiadol lle mae arweinydd y blaid yn sefyll. Dylid ystyried bod y taflenni sy'n cael eu dosbarthu yn ardal etholiadol arweinydd y blaid wedi cael eu dosbarthu at ddibenion ethol yr arweinydd fel ymgeisydd.
Enghraifft D
Mae cynghorydd lleol blaenllaw yn ymddangos ar daflen sy'n cael ei dosbarthu ledled y sir gyfan, gan gynnwys yn yr ardal etholiadol benodol lle mae'r cynghorydd yn sefyll. Dylid ystyried bod y taflenni sy'n cael eu dosbarthu yn ardal etholiadol y cynghorydd wedi cael eu dosbarthu at ddibenion ethol y cynghorydd fel ymgeisydd.
Enghraifft E
Mae plaid yn paratoi ymgyrch ddigidol yn cynnwys aelod poblogaidd o'r blaid mewn ardal benodol o'r wlad. Mae'r aelod hwnnw o'r blaid yn ymgeisydd mewn un rhan o'r ardal honno. Mae'r deunydd wedi'i dargedu at grŵp penodol o bleidleiswyr a bydd yn ymddangos ar ffrydiau cyfryngau cymdeithasol rhywun sy'n aelod o'r grŵp targed. Mae'r grŵp targed yn cynnwys lleoliad daearyddol. Ystyrir bod y gyfran o'r ymgyrch sydd wedi'i thargedu yn ardal etholiadol yr aelod blaenllaw o'r blaid wedi'i chyhoeddi at ddiben ei ethol fel ymgeisydd.
Spending that doesn’t promote the candidate
Gwariant nad yw'n hyrwyddo'r ymgeisydd
N/A
Enghraifft F
Mae plaid wleidyddol yn cynhyrchu llythyr sy'n nodi polisïau'r blaid ac yn annog pleidleiswyr i bleidleisio dros y blaid. Er bod y llythyr yn cael ei anfon i gartref yn yr ardal etholiadol, nid yw'r llythyr ei hun yn nodi enw'r ymgeisydd na'r ardal etholiadol. Ni ddylid ystyried bod hwn yn cael ei ddefnyddio at ddibenion etholiad yr ymgeisydd.
Enghraifft G
Mae plaid yn paratoi ymgyrch ddigidol yn cynnwys aelod poblogaidd o'r blaid ledled y wlad gyfan, gan gynnwys lle mae'r aelod o'r blaid yn ymgeisydd. Nid yw'r deunydd wedi'i dargedu ond bydd yn ymddangos os caiff geiriau penodol eu teipio mewn chwilotwr. Nid yw'n bosibl canfod pa mor aml na phryd yr ymddangosodd y deunydd i bleidleiswyr yn ardal etholiadol yr aelod o'r blaid. Ni ddylid ystyried bod y deunydd hwn wedi cael ei ddefnyddio at ddiben ei etholiad fel ymgeisydd.
N/A
Ceir canllawiau ar asesu sut i roi gwybod am wariant yn yr adran nesaf.