Guidance for Candidates at Parish council elections in England

Cael eu defnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd

Os caiff rhodd mewn da ei throsglwyddo neu ei darparu i'r ymgeisydd, dim ond os bydd yr ymgeisydd neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran 1  yn ei defnyddio yn ei ymgyrch y bydd yn cyfrif fel gwariant tybiannol.

Os bydd gweithgaredd ymgyrchu i gefnogi'r ymgeisydd yn cael ei gyflawni gan rywun arall, ni fydd yn ddigon bod yr ymgeisydd wedi cael budd o'r gweithgaredd hwnnw, wedi cael gwybod amdano, na hyd yn oed wedi diolch i'r person a'i cyflawnodd.

Yr unig adeg y gall person wneud defnydd o rywbeth ar ran yr ymgeisydd yw os bydd y defnydd hwnnw wedi cael ei gyfarwyddo, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgeisydd neu ei asiant. 2

Ystyr ‘defnyddio'r’ rhodd mewn da yw bod rhyw fath o ymwneud cadarnhaol ar ran yr ymgeisydd (neu rywun ar ei ran) i ddefnyddio'r nwyddau neu'r gwasanaethau a ddarperir.

Gall ‘defnyddio’ gynnwys:

  • cyfrannu'n bersonol - er enghraifft, bydd yr ymgeisydd yn darparu cynnwys ar gyfer taflenni a gaiff eu cynhyrchu a'u dosbarthu gan y blaid, felly yn defnyddio'r gwasanaeth a ddarperir gan y blaid
  • trefnu bod rhywun arall yn cyfrannu ar eich rhan – er enghraifft gofyn i wirfoddolwyr lleol y blaid helpu i ddosbarthu taflenni a ddarperir gan eu plaid
     

Example

Er enghraifft, mae plaid yn anfon taflenni at un o'i hymgeiswyr i'w defnyddio yn ei ymgyrch, ond nid yw'r ymgeisydd na'i asiant yn dosbarthu'r taflenni.

Yn yr enghraifft hon, nid yw'r ymgeisydd, na rhywun ar ei ran, wedi defnyddio'r taflenni yn ei ymgyrch. Nid yw hyn yn wariant tybiannol. Ni ddylid cynnwys y costau ar gyfer y taflenni ar ffurflen yr ymgeisydd gan na chafodd y taflenni eu defnyddio.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Rhagfyr 2023