Gorfodi
Trosolwg
Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol i ni baratoi a chyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio ein pwerau i ymchwilio i droseddau a thramgwyddau posibl yn ôl y Ddeddf, a'u cosbi. Mae'r polisi gorfodi hwn yn cyflawni'r gofyniad hwn. Yna, mae'n ofynnol i ni ystyried y canllaw cyhoeddedig hwn wrth arfer ein swyddogaethau gorfodi. Gweler ein polisi gorfodi am ragor o wybodaeth.
Pa wybodaeth a gesglir gennym a pham
Er mwyn penderfynu a oes trosedd neu dramgwydd wedi eu cyflawno yn ôl y Ddeddf, efallai y bydd angen holi unigolion y credwn y gallant roi gwybodaeth berthnasol. Byddwn yn gofyn am ddogfennau, gwybodaeth ac esboniadau ar sail wirfoddol neu drwy ddefnyddio ein pwerau i ymchwilio, fel y bo'n briodol. Gallwn wneud hyn yn ysgrifenedig neu dros y ffôn; neu drwy drefnu cyfarfodydd neu gyfweliadau statudol neu wirfoddol, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Sail gyfreithiol dros gasglu gwybodaeth
Mae ein gwaith gorfodi yn rhan o'n tasg gyhoeddus fel y nodir yn y Ddeddf. Caiff rhywfaint o'r wybodaeth a gesglir gennym i gefnogi'r gwaith hwn ei dosbarthu'n ddata personol categori arbennig. Rydym yn prosesu'r wybodaeth hon er budd sylweddol y cyhoedd, sy'n seiliedig ar gyfraith y DU.
Cyhoeddi gwybodaeth
Os ydyw er budd y cyhoedd, gallwn wneud datganiad i'r cyfryngau pan fydd ymchwiliad yn dechrau, neu os bydd newid i'w gwmpas. Pan fydd ymchwiliad wedi dod i ben, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad ar ein gwefan.
Rhannu gwybodaeth
Gallwn rannu gwybodaeth am ein hymchwiliadau â'r canlynol:
- yr heddlu ac erlynwyr yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
- rheoleiddwyr eraill
Eich hawliau
Efallai na fydd yn bosib i chi arfer rhai hawliau, er enghraifft yr hawl i gyfyngu neu wrthwynebu, gan fod y gwaith prosesu hwn yn rhan o'n swyddogaeth statudol. Dim ond at y dibenion a ddiffinnir yn y Ddeddf y byddwn yn prosesu'r data. Os bydd angen rhagor o waith prosesu er mwyn cyflawni'r swyddogaeth statudol hon, byddwn yn cymryd camau rhesymol i'ch hysbysu cyn ymgymryd â'r gwaith prosesu hwn.