Canllawiau newydd yn egluro newidiadau yn etholiad y Senedd i bleidleiswyr Cymru 

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi llyfryn i gefnogi pleidleiswyr yng Nghymru i ddeall newidiadau i'r Senedd a'i system bleidleisio. Mae'r Canllawiau ar gyfer etholiad y Senedd yn cynnwys gwybodaeth am sut i gofrestru, sut i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy, yr etholaethau newydd, sut i lenwi'r papur pleidleisio a sut mae'r system bleidleisio'n gweithio.  

Mae'r canllawiau wedi'u postio i bob aelwyd yng Nghymru ac maent ar gael ar-lein ac mewn fformatau hygyrch ac ieithoedd tramor. Mae'r canllawiau wedi’u datblygu gyda mewnbwn gan y Senedd, Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.  

Fel rhan o ymdrechion i godi ymwybyddiaeth am gymryd rhan yn yr etholiad, cynhaliwyd tafluniadau ar raddfa fawr yn y Senedd ac yng Nghastell Caerdydd, gyda thafluniad terfynol wedi'i gynllunio yng Nghastell Caernarfon ar 7 Ebrill.  

Mae'r Comisiwn Etholiadol yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â Chomisiwn y Senedd a bydd yn darparu cymorth mewn digwyddiadau ymgysylltu sydd ar ddod ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r etholiad a'r newidiadau.  

Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:

“Mae’r etholiad hwn yn nodi moment pwysig i ddemocratiaeth Cymru, wrth weld y newid mwyaf i’r Senedd mewn 25 mlynedd a system etholiadol newydd wedi’i chynllunio i adlewyrchu'r bobl y mae’n eu gwasanaethu'n well.

“Mae’r Senedd yn falch o fod yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i sicrhau bod pleidleiswyr ym mhob cymuned yn deall y newid hwn ac yn gallu cymryd rhan yn hyderus.”

Mae'r Comisiwn Etholiadol hefyd wedi partneru'n ddiweddar â Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dangos hysbysebion ymgyrch cofrestru pleidleiswyr Dangos e’n Falch yng ngemau Cymru sydd ar ddod ar 26 a 31 Mawrth i godi ymwybyddiaeth o'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio ar 20 Ebrill.  

Dywedodd Helen Antoniazzi, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chynaliadwyedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru:  

"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn falch o gefnogi'r ymgyrch bwysig hon a helpu i godi ymwybyddiaeth o gofrestru i bleidleisio ar draws ein cymunedau.  

"Mae sicrhau bod gan bobl y cyfle i ddweud eu dweud yn rhywbeth sy'n cyd-fynd yn gryf â’n gwerthoedd fel sefydliad, wrth i ni weithio i greu dyfodol cadarnhaol a chynhwysol i bêl-droed Cymru a'r gymdeithas ehangach.

“Rydym yn annog pawb sy’n gymwys i gofrestru a chwarae eu rhan wrth lunio’r dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:  

“Bydd etholiad y Senedd ar 7 Mai yn cyflwyno sawl newid sylweddol i’r system bleidleisio a’r ffordd y mae’r Senedd yn gweithredu. Bydd ein canllawiau yn cefnogi pleidleiswyr i ddeall y newidiadau hyn, ac rydym yn annog pobl i edrych amdanynt yn y post neu ymweld â'n gwefan am ragor o wybodaeth.  

“Eleni rydym wedi archwilio ffyrdd newydd o rannu negeseuon ein hymgyrch gyda’r cyhoedd a hoffem ddiolch i’r partneriaid sydd wedi ein cefnogi i wneud hyn, gan gynnwys awdurdodau lleol, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Cadw a’r Senedd.”  

Diwedd  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Farrell, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu, ar 029 2034 6814 neu e-bostiwch [email protected].     

Nodiadau i olygyddion  

  • Ar 7 Mai, cynhelir etholiad y Senedd ledled Cymru. I fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yr UE neu dramor sy'n byw yng Nghymru, yn 16 oed neu'n hŷn.  
  • Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw canol nos ar 20 Ebrill.  
  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 21 Ebrill.
  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 28 Ebrill.    
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
  • alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch  
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau  
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth, ac eirioli trostynt  
  • gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd  
  • Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.