Comisiynau Etholiadol y DU a Wcráin yn cryfhau cydweithredu
Heddiw (ddydd Mawrth) wnaeth Comisiwn Etholiadol y DU a Chomisiwn Etholiadol Canolog Wcráin llofnodi cytundeb i gyd-ddatblygu a chryfhau cydweithredu ar faterion etholiadol yn ystod ymweliad Comisiwn Etholiadol Wcráin â Llundain.
Mae'r memorandwm dealltwriaeth (MOU) yn cadarnhau cyd-ymrwymiad i ddiogelu prosesau democrataidd ac yn sefydlu fframwaith ar gyfer cydweithredu yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd y cydweithredu yn digwydd ar sawl sail gan gynnwys y Comisiynau yn rhannu arferion gorau ar weinyddiaeth etholiadol, seiberddiogelwch ac addysg i bleidleiswyr.
Cafodd yr ymweliad ei gyd-letya gyda Chyngor Ewrop a Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu. Cymerodd y cynrychiolwyr o Wcráin ran mewn nifer o gyfarfodydd yn y DU, gan drafod materion megis camwybodaeth a thwyllwybodaeth, ymyrraeth dramor mewn etholiadau, diogelwch ffisegol a seiberddiogelwch mewn etholiadau, pleidleisio o'r tu allan i'r wlad, codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a rheoleiddio cyllid gwleidyddol. Bydd y wybodaeth yn cynorthwyo Comisiwn Wcráin a’i chynlluniau ar gyfer etholiadau ar ôl y rhyfel yn y dyfodol.
Dywedodd Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
“Rydym yn falch iawn o groesawu cydweithwyr a ffrindiau o Wcráin i’r DU ac i lofnodi’r cytundeb cydweithio. Mae llawer y gallwn ni ei ddysgu oddi wrth ein gilydd, a bydd cryfhau'r cysylltiadau rhyngom ni yn ein helpu i rannu arbenigedd a dysgu yn y blynyddoedd i ddod.
“Mae cyflawni etholiadau sy'n cael eu cynnal yn dda ac sy'n ennyn hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn hanfodol i ddemocratiaeth iach a rhydd. Rydym yn barod i gefnogi Wcráin wrth iddi baratoi ar gyfer etholiadau ar ôl y rhyfel yn y dyfodol.”
Dywedodd Oleh Didenko, Cadeirydd Comisiwn Etholiad Canolog Wcráin:
“Rydym wir yn gwerthfawrogi’r ymweliad hwn â chefnogaeth y Deyrnas Unedig. Byddwn i'n galw llofnodi'r memorandwm rhwng ein sefydliadau yn foment arwyddocaol i hyrwyddo ein cydweithrediad a, thrwy gyfnewid profiad a mabwysiadu arferion gorau, yn helpu i gryfhau gwerthoedd democrataidd yn Wcráin.
“Wrth i ni baratoi ar gyfer etholiadau heriol ar ôl y rhyfel, bydd sefydlu cydweithrediad ac ymgyfarwyddo â phrosesau pwysig fel pleidleisio dramor a mynd i’r afael â thwyllwybodaeth, yn ein galluogi i baratoi’n effeithiol ac yn effeithlon ar gyfer yr etholiadau mwyaf heriol yn hanes ein gwlad.”
Gallwch ddod o hyd i luniau o’r llofnodi ar wefan y Comisiwn Etholiadol ac maent ar gael i’w ddefnyddio.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Mae llywodraethau’r DU a Wcráin wedi llofnodi Partneriaeth 100 mlynedd ym mis Ionawr i gryfhau cysylltiadau diogelwch a phartneriaeth.
- Mae Wcráin wedi bod o dan gyfraith filwrol ers i Rwsia oresgyn Wcráin ym mis Chwefror 2022. Yn ôl Cyfansoddiad Wcráin a'r ddeddfwriaeth berthnasol, ni ellir cynnal etholiadau o dan gyfraith filwrol. Dim ond ar ôl i’r gyfraith filwrol gael ei chodi y gellir trefnu a chynnal etholiadau yn Wcráin.
- Comisiwn Etholiadol y DU yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r ymgyrched newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd dros newidiadau i’n democratiaeth, gan anelu at wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.