Cyhoeddi data gwariant ymgeiswyr ac ymgyrchoedd o etholiad Senedd 2021
Spending returns
Heddiw mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi ffurflenni gwariant ymgyrchu pleidiau gwleidyddol a wariodd dros £250,000 yn ymgyrchu yn etholiad y Senedd 2021, a’r prif ffigurau o ran gwariant a’r rhoddion a gafwyd gan ymgeiswyr etholaethol ac ymgeiswyr rhanbarthol annibynnol.
Adroddodd tair plaid a gystadlodd etholiad y Senedd eu bod wedi gwario dros £250,000 ar ymgyrchu yn ystod y cyfnod a reoleiddir, oedd yn rhedeg o 6 Ionawr 2021 nes y diwrnod pleidleisio, sef 6 Mai 2021. At ei gilydd, nododd y pleidiau hyn eu bod wedi gwario £1,351,899 ar ymgyrchu yn yr etholiad.
Y pleidiau a adroddodd eu bod wedi gwario dros £250,000 yn etholiad y Senedd 2021
Plaid | Gwariant |
---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £549,132 |
Y Blaid Lafur | £500,566 |
Plaid Cymru | £302,201 |
Mae'r Comisiwn yn flaenorol wedi cyhoeddi'r data ar gyfer y rheiny wnaeth wario o dan £250,000. Mae manylion llawn y gwariant pleidiau a adroddwyd ar gael ar ein gwefan.
Mae ymgeiswyr etholaethol ac ymgeiswyr rhanbarthol annibynnol a safodd yn etholiad y Senedd y llynedd eisoes wedi cyflwyno’u ffurflenni gwariant i'r Swyddog Canlyniadau perthnasol Rydym wedi cyhoeddi’r prif ffigurau ar ein gwefan. Mae gwariant ar ran ymgeiswyr rhestr pleidiau wedi’i gynnwys yn ffurflenni’r pleidiau.
Wrth wneud sylw ar y ffurflenni, dywedodd Louise Edwards, y Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
"Erbyn hyn mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi’r holl wybodaeth ynghylch gwariant a adroddwyd gan bleidiau, ymgyrchwyr ac ymgeiswyr yn ymwneud ag etholiad y Senedd y flwyddyn ddiwethaf. Mae darparu’r tryloywder hyn yn sicrhau bod pleidleiswyr yn gallu gweld yn glir ac yn gywir sut y cafodd arian ei wario ar ddylanwadu arnyn nhw yn yr etholiad hwn.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Swyddog Cyfathrebu, drwy ffonio 029 2034 6824, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu drwy e-bostio [email protected].
Notes to editors
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth, ac eirioli trostynt
- gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Cyhoeddwyd ein hadroddiad statudol ar ôl yr etholiad ar etholiad y Senedd 2021 ym mis Medi, ac mae'n cynnwys manylion ein hargymhellion sy'n gysylltiedig ag ymgyrchoedd.
2. Mae'n ofynnol i bob plaid wleidyddol a gystadlodd yn etholiad y Senedd gyflwyno ffurflenni gwariant ymgyrchu i'r Comisiwn Etholiadol, yn ogystal ag ymgyrchwyr amhleidiol a wariodd dros y trothwyon cofrestru. Mae'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cofnodion gwariant yn dibynnu ar faint a wariodd plaid neu ymgyrchydd.
Roedd gofyn i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, a wariodd dros £250,000 gyflwyno eu ffurflenni erbyn 6 Tachwedd 2021. Cafodd ffurflenni ar gyfer y rheiny a wariodd £250,000 neu lai eu cyhoeddi ar 11 Tachwedd 2021.
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi'r cofnodion fel y'u cyflwynwyd gan y blaid neu'r ymgyrchydd. Lle y bo'n briodol, bydd yn ystyried unrhyw wallau neu wybodaeth anghyflawn yn unol â'i Bolisi Gorfodi.
3. Roedd angen i asiantiaid etholiadol ar gyfer ymgeiswyr etholaethol ac ymgeiswyr rhanbarthol annibynnol gyflwyno ffurflen gwariant etholiadol i’r Swyddog Canlyniadau Etholaethol neu Ranbarthol perthnasol cyn pen 35 diwrnod calendr o ddatgan canlyniad yr etholiad.
Caiff y ffigyrau i gyd eu talgrynnu i'r £ agosaf.