Gwariant ymgyrchu o £250,000 neu lai yn etholiad y Senedd 2021

Spending returns

Heddiw mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi ffurflenni gwariant ymgyrchu pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau a wariodd £250,000 neu lai yn ymgyrchu yn etholiad y Senedd 2021. 

Gwnaeth tair plaid wleidyddol ar ddeg a frwydrodd etholiad y Senedd adrodd eu bod wedi gwario £250,000 neu lai ar ymgyrchu yn ystod y cyfnod a reoleiddir, wnaeth rhedeg o 6 Ionawr 2021 hyd at ddiwrnod yr etholiad ar 6 Mai 2021. At ei gilydd, nododd y pleidiau hyn eu bod wedi gwario £453,852.01 ar ymgyrchu yn yr etholiad. 

Gwnaeth un ymgyrchydd nad yw’n blaid adrodd am wariant o £250,000 neu lai ar ymgyrchu yn ystod y cyfnod a reoleiddir. 

Wrth sôn am y ffurflenni gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Mae cyhoeddi gwybodaeth am wariant ymgyrchu yn ymwneud ag etholiad y Senedd eleni yn rhan bwysig o ddarparu tryloywder, sy’n hanfodol i’n proses ddemocrataidd. Mae'n hanfodol bod pleidleiswyr yn gallu gweld yn glir ac yn gywir sut mae arian yn cael ei wario ar ddylanwadu arnyn nhw mewn etholiadau.” 

Y pleidiau a wariodd y symiau mwyaf wnaeth adrodd eu bod wedi gwario £250,000 neu lai yn etholiad y Senedd 2021

Plaid Gwariant
Y Democratiaid Rhyddfrydol £184,434.00
Reform UK £79,631.76
Y Blaid Werdd £58,554.00
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) £54,276.41
Plaid Diddymu Cynulliad Cymru £24,495.27
Propel £20,382.51
Plaid Gomiwnyddol Prydain £9,073.00
Freedom Alliance - Integrity, Society, Economy £8,426.00
Gwlad £5,298.41
Y Blaid Gristnogol "Datgan Arglwyddiaeth Crist" £3,832.00
Workers Party of Britain £2,560.55
No More Lockdowns £1,533.24
Trade Unionist and Socialist Coalition £1,354.68

Mae manylion llawn gwariant a adroddwyd gan bleidiau ar gael ar ein gwefan.

Gwnaeth dwy blaid wleidyddol a frwydrodd yr etholiad beidio â chyflwyno ffurflen wariant erbyn y dyddiad cau, sef 6 Awst. Bydd hyn yn cael ei ystyried yn unol â’n Polisi Gorfodi. 

Mae gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr amhleidiol a wariodd dros £250,000 yn ymgyrchu yn etholiad y Senedd tan 6 Tachwedd 2021 i gyflwyno’u ffurflenni gwariant ymgyrchu archwiliedig.

Yr ymgyrchydd nad yw’n blaid wnaeth adrodd ei fod wedi gwario £250,000 neu lai yn Etholiad y Senedd 2021

Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau Gwariant
YesCymru £29,782.61

Roedd rhaid i ymgyrchwyr amhleidiol hefyd roi gwybod am eu rhoddion yn ogystal â’u gwariant. Ni wnaeth YesCymru adrodd am unrhyw roddion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Downing, Swyddog Cyfathrebu trwy 029 2034 6824, tu allan i oriau 07789 920 414, neu [email protected].

Notes to editors

1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth, ac eirioli trostynt 
  • gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd


Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.

Cyhoeddwyd ein hadroddiad statudol ar ôl yr etholiad ar etholiad y Senedd 2021 ym mis Medi ac mae'n cynnwys manylion ein hargymhellion sy'n gysylltiedig ag ymgyrchoedd. 

2. Mae’n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru gyda’r Comisiwn os ydynt yn bwriadu gwario mwy na £10,000 yn ymgyrchu yn etholiad y Senedd yn ystod y cyfnod a reoleiddir. 

Mae'n ofynnol i bob plaid wleidyddol a gystadlodd yn etholiad y Senedd gyflwyno ffurflenni gwariant ymgyrchu i'r Comisiwn Etholiadol, yn ogystal ag ymgyrchwyr amhleidiol a wariodd dros y trothwyon cofrestru. Mae'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cofnodion gwariant yn dibynnu ar faint a wariodd plaid neu ymgyrchydd. 

Roedd yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr amhleidiol a wariodd lai na £250,000 yn etholiad y Senedd gyflwyno eu ffurflenni erbyn 6 Awst 2021. 

Mae gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr amhleidiol a wariodd dros £250,000 tan 6 Tachwedd 2021 i gyflwyno eu ffurflenni archwiliedig.

Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi'r cofnodion fel y'u cyflwynwyd gan y blaid neu'r ymgyrchydd. Lle y bo'n briodol, bydd yn ystyried unrhyw wallau neu wybodaeth anghyflawn yn unol â'i Bolisi Gorfodi.

Caiff ffigyrau eu talgrynnu i'r £ agosaf.