Cyhoeddi rownd gyntaf gwariant etholiad cyffredinol
Heddiw, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi’r set gyntaf o ddata am wariant yn etholiad cyffredinol seneddol y DU 2024. Gwariodd pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr llai – y rhai a wariodd £250,000 neu lai – gyfanswm o £1,875,205 yn ystod y cyfnod a reoleiddir, a oedd yn cwmpasu 6 Gorffennaf 2023 i 4 Gorffennaf 2024.
Mae cyfanswm y gwariant yn cynnwys £733,575 a wariwyd gan 92 o bleidiau a £1,141,630 a wariwyd gan 18 o ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.
Ar ôl yr etholiad, rhaid cyflwyno gwybodaeth am arian a wariwyd ar ymgyrchu yn ystod y cyfnod hwn i'r Comisiwn. Mae'r Comisiwn yn cyhoeddi'r data hwn fel y gall pleidleiswyr ac ymgyrchwyr eraill weld faint a wariwyd a sicrhau bod terfynau gwariant wedi'u cadw.
Er mwyn rhoi darlun llawn o'r arian a wariwyd yn ystod yr ymgyrch, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi data yn ymwneud â phleidiau mwy ac ymgyrchwyr a wariodd dros £250,000, a gwariant ymgeiswyr yn y misoedd nesaf. Mae’r Comisiwn wrthi’n dadansoddi’r holl ddata a gyflwynwyd, a bydd yn rhannu canfyddiadau allweddol yn yr haf.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:
“Mae tryloywder yn hanfodol i’n proses ddemocrataidd ac yn rhan allweddol o feithrin hyder yn system cyllid gwleidyddol y DU. Mae’n bwysig bod pleidleiswyr yn gallu gweld sut y ceisiodd cyfranogwyr ddylanwadu ar eu pleidlais mewn etholiad, felly rydym yn cyhoeddi’r wybodaeth hon i bawb ei gweld.
“Dyma’r etholiad cyffredinol cyntaf lle’r oedd gofynion argraffnod digidol mewn grym, ynghyd â throthwyon adrodd a chofrestru newydd ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Er gwaethaf y gofynion newydd, gwelsom lefelau uchel o gydymffurfiaeth â chyfreithiau cyllid gwleidyddol ymhlith pleidiau llai ac ymgyrchwyr. Fodd bynnag, os canfyddir unrhyw droseddau posibl, cânt eu hystyried yn unol â'n polisi gorfodi.
Cyn yr etholiad, fe wnaethom ganolbwyntio ein cefnogaeth ar helpu pleidiau ac ymgyrchwyr i ddeall a chyflawni eu cyfrifoldebau, ac ym mhob achos roeddem yn gallu sicrhau cydymffurfiaeth heb fod angen gorfodi ffurfiol.”
Y pum plaid â’r gwariant mwyaf wnaeth adrodd eu bod wedi gwario £250,000 neu lai yn etholiad cyffredinol y DU 2024:
| Plaid | Gwariant |
|---|---|
| Plaid Cymru - The Party of Wales | £156,531 |
| Workers Party of Britian | £81,292 |
| Sinn Féin | £68,499 |
| Alliance - Alliance Party of Northern Ireland | £52,229 |
| Women's Equality Party | £41,004 |
Y pum ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau â’r gwariant mwyaf wnaeth adrodd eu bod wedi gwario £250,000 neu lai yn etholiad cyffredinol y DU 2024:
| Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau | Gwariant |
|---|---|
| 38 Degrees | £206,700 |
| HOPE not hate | £158,624 |
| Cruelty Free International | £108,945 |
| WE OWN IT LTD | £98,774 |
| Greenpeace Limited | £95,851 |
Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau hefyd adrodd am roddion penodol ochr yn ochr â'u gwariant, sydd hefyd wedi'u cyhoeddi heddiw.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, cefnogi cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ledled y DU gofrestru gyda'r Comisiwn os ydynt yn bwriadu gwario mwy na £10,000. Rhaid iddynt gyflwyno ffurflen gwariant os ydynt yn gwario mwy na £20,000 yn Lloegr neu £10,000 yn yr Alban, Cymru, neu Ogledd Iwerddon ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
- Mae'n ofynnol i bob plaid wleidyddol a fu'n sefyll yn yr etholiad cyffredinol gyflwyno ffurflen gwariant ymgyrchu i'r Comisiwn, hyd yn oed os oedd yn gofnod o ddim gwariant, yn ogystal ag ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau a wariodd dros y trothwyon adrodd.
- Mae gan y Comisiwn ddyletswydd gyfreithiol i gyhoeddi ffurflenni gwariant cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl, gan sicrhau bod gan bleidleiswyr fynediad amserol at wybodaeth am wariant etholiad.
- Cyflwynodd naw deg dau o bleidiau gwleidyddol ffurflenni gyda gwariant o £250,000 neu lai. Fodd bynnag, roedd 39 o'r rhain â chofnod o ddim gwariant ac ni fyddant yn ymddangos yn ein cronfa ddata CPE Ar-lein.
- Mae'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno cofnodion gwariant yn dibynnu ar faint a wariodd plaid neu ymgyrchydd. Roedd gan y rhai a wariodd £250,000 neu lai tan 4 Hydref 2024 i gyflwyno eu datganiadau. Roedd gan y rhai a wariodd dros £250,000 hyd at 4 Ionawr 2025 i gyflwyno eu datganiadau archwiliedig.
- Mae'r Comisiwn wedi gweithio i fynd i'r afael ag unrhyw wallau yn y datganiadau cyn cyhoeddi. Mae'n annog pleidiau ac ymgyrchwyr i fuddsoddi yn eu prosesau cydymffurfio ac i ofyn am ein cyngor cyn cyflwyno ffurflenni.
- Os bydd gwallau ychwanegol yn cael eu nodi ar ôl eu cyhoeddi, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi ffurflenni diwygiedig i sicrhau bod gwybodaeth gwariant a gyhoeddir mor gywir â phosibl. Lle bo'n briodol, bydd yn ystyried unrhyw wallau neu wybodaeth anghyflawn yn unol â'i wybodaeth.