Cyhoeddi set gyntaf o gyfrifon ariannol 2023 ar gyfer pleidiau gwleidyddol
First set of 2023 financial accounts for political parties published
Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu yn y Deyrnas Unedig, sydd ag incwm a gwariant o £250,000 neu lai, wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae'r cyfrifon hyn ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023.
Fe wnaeth 323 o bleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig adrodd bod eu cyfrifon ariannol o fewn y trothwy hwn.
Bydd manylion pleidiau ac unedau cyfrifo gydag incwm neu wariant dros £250,000 yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Dywedodd Hannah Brown, Pennaeth Cofrestru, Cydymffurfiaeth a Thryloywder:
“Rhaid i bleidiau gwleidyddol gadw cofnodion ariannol a chyflwyno datganiadau blynyddol o gyfrifon i ni. Mae cyhoeddi'r data hwn yn helpu pleidleiswyr i weld yr arian y mae pleidiau gwleidyddol yn ei wario ac yn ei dderbyn. Mae hyn yn ran hanfodol o gyflawni tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU, a gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.”
Y 10 plaid a adroddodd yr incwm neu wariant mwyaf rhwng £50,000 a £250,000:
Plaid | Incwm | Gwariant |
---|---|---|
Ashfield Independents | £81,287 | £83,333 |
Plaid Gomiwnyddol Prydain | £246,930 | £181,997 |
English Democrats | £19,567 | £90,333 |
Cymdeithas Bentref Hersham | £5,939 | £132,292 |
Y Blaid Sosialaidd (Gogledd Iwerddon) | £78,425 | £76,678 |
Plaid Sosialaidd Prydain Fawr | £203,872 | £119,433 |
Traditional Unionist Voice - TUV | £47,053 | £71,234 |
Plaid Annibyniaeth y DU (UKIP) | £88,812 | £93,877 |
Plaid Unoliaethwyr Ulster | £191,614 | £207,006 |
Cymdeithas Preswylwyr Upminster a Cranham | £76,489 | £69,524 |
Mae manylion cyfrifon ariannol llawn pob un o’r 323 o bleidiau gwleidyddol gydag incwm a gwariant o £250,000 neu lai ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cyfrif incwm a gwariant uned gyfrifyddu
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru 'unedau cyfrifyddu' gyda'r Comisiwn Etholiadol. Dyma unedau cyfansoddol neu gysylltiedig plaid wleidyddol, gan gynnwys pleidiau etholaethol, sydd â chyllid ar wahân i’r brif blaid.
Mae ond angen i unedau cyfrifyddu ddarparu Datganiad blynyddol o Gyfrifon i’r Comisiwn Etholiadol os oedd naill ai cyfanswm eu hincwm neu gyfanswm eu gwariant dros £25,000. Adroddodd 434 o unedau cyfrifyddu yn y DU incwm a gwariant rhwng £25,000 a £250,000.
Cyfanswm incwm a gwariant unedau cyfrifyddu fesul plaid
Plaid | Incwm | Gwariant |
---|---|---|
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon | £131,221 | £131,221 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) | £12,087,338 | £12,405,297 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Gogledd Iwerddon) | £26,264 | £14,209 |
Y Blaid Gydweithredol | £29,409 | £24,784 |
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P | £223,094 | £235,402 |
Y Blaid Werdd | £1,077,581 | £1,066,092 |
Y Blaid Lafur | £2,841,368 | £2,178,653 |
Y Democratiaid Rhyddfrydol | £7,825,174 | £7,337,154 |
Plaid Cymru | £342,887 | £296,265 |
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur) | £92,523 | £93,630 |
Plaid Unoliaethwyr Ulster | £122,683 | £129,655 |
Mae’r cyfrifon ariannol ar gyfer yr holl unedau cyfrifyddu a gyhoeddwyd heddiw ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cymariaethau gyda blynyddoedd blaenorol
Isod mae’r cyfansymiau ar gyfer cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu a oedd o dan y trothwy o £250,000 yn y ddwy flwyddyn ariannol ddiwethaf:
Pleidiau gwleidyddol
2023 | 2022 | 2021 | |
---|---|---|---|
Incwm | £2,197,446 | £2,641,865 | £2,751,698 |
Gwariant | £2,292,623 | £2,312,165 | £2,623,378 |
Unedau cyfrifyddu
2023 | 2022 | 2021 | |
---|---|---|---|
Incwm | £24,799,532 | £20,821,605 | £21,752,851 |
Gwariant | £23,912,361 | £21,893,438 | £22,496,445 |
Mae ffigyrau sy’n cymharu cyfrifon diweddaraf pleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu â’r rheiny ar gyfer 2022 a 2021 yn cynnig cymhariaeth gyffredinol, ac nid ydynt o reidrwydd yn cymharu’r un pleidiau ac unedau cyfrifyddu. Mae incwm a gwariant pleidiau ac unedau cyfrifyddu yn amrywio bob blwyddyn, ac felly gallent gwympo i wahanol drothwyon adrodd.
Cyflwyno'n hwyr
Fe wnaeth 41 o bleidiau gwleidyddol ac unedau cyfrifyddu yr oedd disgwyl iddynt fod ag incwm neu wariant o dan £250,000 fethu â chyflwyno eu cyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 30 Ebrill 2024. Lle mae pleidiau ac unedau cyfrifo wedi cyflwyno eu cyfrifon yn hwyr efallai y byddwn yn cymryd camau priodol a chymesur yn unol â'n Polisi Gorfodi.
Roedd rhaid i bleidiau gwleidyddol a’u hunedau cyfrifyddu a oedd ag incwm neu wariant dros £250,000 yn 2023 gyflwyno eu cyfrifon archwiliedig erbyn 7 Gorffennaf 2024. Caiff y rhain eu cyhoeddi maes o law.
Diwedd
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â swyddfa'r cyfryngau drwy ffonio 020 7271 0704 neu e-bostiwch [email protected]. Tu allan i oriau swyddfa ffoniwch 07789 920414
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban. - Nid yw’n ofynnol i unedau cyfrifyddu gydag incwm a gwariant o £25,000 neu lai gyflwyno eu cyfrifon.
- Nid yw'r ffaith bod Datganiad Cyfrifon wedi ei gyhoeddi ar wefan y Comisiwn yn golygu bod y Comisiwn Etholiadol wedi ei wirio na'i ddilysu mewn unrhyw ffordd.
- Mae ffigyrau incwm a gwariant wedi'u talgrynnu. Mae'r union ffigyrau i'w gweld yn ein cronfa ddata ar-lein.
- Gellir cael hyd i fanylion am sut y deliwyd â methiannau i gyflwyno Datganiadau Cyfrifon erbyn y dyddiad cau yn y gorffennol yn ein cyhoeddiadau o achosion a gaewyd.