Datganiad ar ôl y bleidlais – Mai 2026

Wrth i'r gorsafoedd pleidleisio gau ledled Prydain Fawr, dywedodd Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:

"Heddiw, aeth pleidleiswyr ledled Cymru, Lloegr a'r Alban i'r gorsafoedd pleidleisio yn y gyfres fwyaf o etholiadau ers etholiad cyffredinol 2024. Cafodd pleidleisiau eu bwrw mewn mwy na 17,000 o orsafoedd pleidleisio, a safodd mwy na 25,000 o ymgeiswyr yn yr etholiad.

"Mae cynnal etholiadau ar y raddfa hon yn gofyn am ymrwymiad eithriadol. Hoffwn ddiolch i weinyddwyr etholiadol a swyddogion canlyniadau ledled Prydain Fawr am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb, swyddogion heddlu am helpu i sicrhau diogelwch pleidleiswyr ac ymgeiswyr, a'r Post Brenhinol am ddosbarthu miliynau o gardiau pleidleisio, pecynnau pleidleisio post a thaflenni ymgyrchu. Hefyd, rhof deyrnged i'r miloedd o ymgeiswyr a safodd yn yr etholiad.

"Mae’r ymdrechion cyfunol hyn wedi helpu sicrhau bod yr etholiadau hyn yn ddiogel ac yn hygyrch. Ein hasesiad cychwynnol yw bod diwrnod yr etholiad wedi mynd rhagddo'n esmwyth. Ymdriniodd staff yr orsaf bleidleisio ag unrhyw broblemau'n gyflym heb amharu ar y pleidleisio. Roedd miliynau o bobl yn gallu bwrw eu pleidleisiau ac roedd gan bobl fynediad at wybodaeth glir a dibynadwy am sut i gymryd rhan. Rydym wedi bod yn effro i ledaeniad ffug-wybodaeth, megis cynnwys a gynhyrchwyd gan AI. Pan ddaeth ffug-wybodaeth neu wybodaeth gamarweiniol i'r amlwg, fe wnaethom weithio'n gyflym gyda phartneriaid i fynd i'r afael â hi a'i dileu. Nid ydym wedi gweld ffugiadau dwfn sylweddol yn effeithio ar yr etholiadau hyn. 

"Bydd Swyddogion Canlyniadau ledled Lloegr yn cyfrif y pleidleisiau ac yn cyhoeddi canlyniadau eu hardaloedd dros y dyddiau nesaf. Yng Nghymru a'r Alban, bydd y cyfrif yn dechrau yn y bore. Bydd ymgeiswyr, asiantiaid plaid ac arsylwyr annibynnol yn bresennol mewn lleoliadau cyfrif ledled Prydain Fawr ym mhob cam.

"Byddwn nawr yn casglu tystiolaeth gan bleidleiswyr, ymgeiswyr, gweinyddwyr ac ymgyrchwyr i lywio ein hasesiad o'r etholiadau hyn. Byddwn yn edrych ar foddhad pleidleiswyr, uniondeb yr etholiadau, a pha mor gyffredin yw camwybodaeth a thwyllwybodaeth ac effaith y rhain. 

"Byddwn hefyd yn edrych ar ddiogelwch y rhai a safodd dros yr etholiadau hyn ac a'u cynhaliodd. Fel mewn etholiadau blaenorol, gwyddom fod rhai ymgeiswyr wedi wynebu camdriniaeth a bygythiadau yn ystod eu hymgyrch. Mae hyn yn dod ar gost bersonol fawr ac yn niweidio ein democratiaeth. Byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau yn yr hydref.”

Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol gan ddefnyddio 020 7271 0704, y tu allan i oriau swyddfa defnyddiwch 07789 920 414 neu [email protected].

Cefndir

  • Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi dadansoddiad o'r etholiadau hyn maes o law, gan dynnu ar dystiolaeth gan bleidleiswyr, ymgeiswyr, gweinyddwyr ac ymgyrchwyr. 
    Etholiad y Senedd 2026 yw'r cyntaf i gael ei gynnal o dan y system bleidleisio rhestr gyfrannol gaeedig. Mae Cymru wedi'i rhannu'n 16 etholaeth newydd, ac mae pob un yn ethol chwe Aelod, gan gynyddu cyfanswm maint y Senedd o 60 i 96 Aelod. Mae pleidleiswyr yn bwrw un bleidlais dros blaid neu ymgeisydd annibynnol. Mae'r etholfraint ar gyfer etholiad y Senedd yn cynnwys pobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru — nid yw'r grwpiau hyn yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau lleol Lloegr.
  • Mae etholiad Senedd yr Alban yn defnyddio'r System Aelodau Ychwanegol, lle mae pleidleiswyr yn derbyn dau bapur pleidleisio — un ar gyfer ymgeisydd etholaethol ac un ar gyfer rhestr plaid ranbarthol. Bydd y Comisiwn yn archwilio data ar bleidleisiau a wrthodwyd unwaith y bydd y cyfrif wedi'i gwblhau.
  • Cynhaliodd Llywodraeth y DU gynlluniau peilot pleidleisio hyblyg mewn nifer o awdurdodau lleol yn Lloegr yn yr etholiadau hyn, gan brofi dulliau o foderneiddio pleidleisio wyneb yn wyneb. Bydd y Comisiwn yn gwerthuso'r cynlluniau peilot yn annibynnol i ddeall eu heffaith ar gyfleustra, boddhad a hygyrchedd pleidleiswyr, a bydd yn cyhoeddi ei ganfyddiadau.
  • Ar hyn o bryd, nid oes dyletswydd gyfreithiol ar Swyddogion Canlyniadau i gasglu ac adrodd data o orsafoedd pleidleisio ar effaith ID pleidleiswyr yn yr etholiadau hyn. Gall rhai awdurdodau lleol ddewis rhannu data yn wirfoddol. Byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.
  • Dim ond yn Lloegr y mae ID pleidleisiwr yn berthnasol. Nid oedd yn ofynnol i bleidleiswyr yn yr Alban a Chymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio.

    Nodiadau i olygyddion
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:  
  • alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
  • Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.