Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Medi 2020)
Introduction
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn ystod y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
| Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
|---|---|---|---|
| Plaid Werdd yr Alban (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu ag anfon cofnodion rhoddion chwarterol cywir | Methu ag anfon cofnodion rhoddion chwarterol cywir | Saith cosb ariannol amrywiol sy’n dod i gyfanswm o £5,349.75 I’w talu erbyn 24 Medi |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu ag anfon cofnodion rhoddion chwarterol cywir | Methu ag anfon cofnodion rhoddion chwarterol cywi | Tair cosb ariannol amrywiol sy’n dod i gyfanswm o £4,400. I’w talu erbyn 24 Medi |
| Ian Paisley MP (rhoddwr a reoleiddir) | Methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod i’w derbyn | Methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod i’w derbyn | Dwy gosb ariannol amrywiol sy’n dod i gyfanswm o £1,300. I’w talu erbyn 8 Hydref 2020 |
| Plaid Brexit (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu ag anfon cofnod rhoddion chwarterol cywir | Methu ag anfon cofnod rhoddion chwarterol cywir t | Cosb ariannol benodedig o £200. Talwyd ar ôl derbyn hysbysiad cychwynnol ar 24 Awst 2020 |
| British Resistance (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno cyfrifon blynyddol yn hwyr (2018) | Cyflwyno cyfrifon blynyddol yn hwyr (2018) | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
| Matt Hancock AS (rhoddwr a reoleiddir) | Methu â dychwelyd rhodd gan roddwr nas caniateir cyn pen 30 diwrnod | Methu â dychwelyd rhodd gan roddwr nas caniateir cyn pen 30 diwrnod | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
| Veterans and People’s Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion cyn-etholiadol cyn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn hwyr | Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion cyn-etholiadol cyn Etholiad Cyffredinol Senedd y DU yn hwyr | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
Wrth wneud sylw ar y dirwyon a roddwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
"Mae'r gofynion adrodd ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni. Mae hi'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael cyfle i weld data cywir a phrydlon ynghylch sut mae pleidiau ac ymgyrchwyr yn cael eu cyllido.
"Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd i sicrhau bod gan bleidleiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt."
Cont.
Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd:
| Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
|---|---|---|---|
| Y Democratiaid Rhyddfrydol (uned gyfrifyddu Llundain) | Methu â dychwelyd rhodd gan roddwr nas caniateir cyn pen 30 diwrnod | Dim trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
| Prosper UK (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â chyflwyno cofnodion rhoddion a benthyciadau chwarterol | Heb bennu trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
Yn dilyn newid i’r gyfraith yn 2018, gellir nawr gyhoeddi rhoddion a benthyciadau a adroddwyd gan bleidiau gwleidyddol ac endidau eraill a reoleiddir yng Ngogledd Iwerddon ar ôl Gorffennaf 2017, gan roi gwell tryloywder i bleidleiswyr. Rydym yn parhau i alw am i’r rheolau gael eu hestyn fel y gallwn gyhoeddi gwybodaeth sy’n dyddio’n ôl i Ionawr 2014.
Ends.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.
3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.