Young people want to learn more about politics and democracy

Mae pobl ifanc a phlant eisiau dysgu mwy am etholiadau a gwleidyddiaeth yn yr ysgol, yn ôl ymchwil newydd gan y Comisiwn Etholiadol. Canfu’r ymchwil, a gynhaliwyd gyda phobl rhwng 11 a 25 oed, fod bron i dri chwarter y rhai a holwyd (72%) eisiau dysgu mwy am y pwnc.

Tra bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn clywed am wleidyddiaeth ar y teledu neu'r cyfryngau cymdeithasol, mae ganddyn nhw bryderon o ran a ydyn nhw am ymddiried yn y wybodaeth. Dywedodd pobl ifanc eu bod yn ystyried ysgolion a cholegau yn amgylcheddau yr ymddiriedir ynddynt fwy ar gyfer dysgu am wleidyddiaeth, ond dim ond traean o bobl ifanc 11 – 17 oed oedd wedi clywed am wleidyddiaeth yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos, i’r rhai sy’n dweud na fyddent yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol yn y dyfodol, mai’r prif resymau yw diffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth a diffyg gwybodaeth ynghylch pwy i bleidleisio drostynt.

Er mwyn cefnogi cenedlaethau’r dyfodol i gael yr hyder a’r wybodaeth i gymryd rhan mewn etholiadau, mae’r Comisiwn wedi galw’n ddiweddar am newidiadau i’r cwricwlwm yn Lloegr. Mae’r Comisiwn wedi argymell bod pob person ifanc yn cael y cyfle i ddysgu mwy am ddemocratiaeth yn yr ysgol a bod addysgwyr yn cael eu cefnogi i ddarparu addysg ddemocrataidd effeithiol.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar draws y wlad, gan ei gwneud yn bwysicach fyth bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu am ddemocratiaeth ac etholiadau.

Dywedodd Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:

“Mae pobl ifanc yn dweud wrthym eu bod am ddysgu mwy am ddemocratiaeth a phleidleisio – rydym yn eu clywed yn uchel ac yn glir.

“Mae pleidleisio yn ffurfio arferion, a pho fwyaf y gallwn roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc i gymryd rhan, y mwyaf hyderus y byddant.  Mae dysgu a siarad am wleidyddiaeth yn cefnogi diddordeb mewn cymryd rhan yn ein democratiaeth. Mae cyfarfod ag ymgeiswyr a gwleidyddion etholedig – a deall y rôl hollbwysig y maent yn ei chwarae – yn helpu i gael trafodaeth gadarn a pharchus.  A gall trafodaeth helpu pobl o bob oed i feddwl am ba wybodaeth i ymddiried ynddi. 

“Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth gywir i’w paratoi i gymryd rhan mewn etholiadau, sy’n bwysicach fyth os yw’r etholfraint i gael ei hymestyn i rai un ar bymtheg oed. Nawr yw’r amser i sicrhau bod yr arlwy i bobl ifanc yn gryf. Bydd y Comisiwn yn cynyddu ei waith gydag ysgolion i ateb y galw am addysg ddemocrataidd, ond dylid moderneiddio’r cwricwlwm dinasyddiaeth hefyd.”

Mae’r canfyddiadau’n cael eu lansio i nodi dechrau Wythnos Croeso i Dy Bleidlais, digwyddiad blynyddol a gynhelir gan y Comisiwn Etholiadol gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid i ddathlu democratiaeth. Thema eleni yw ‘bod yn wybodus a chymryd rhan’ sy’n ceisio cefnogi pobl ifanc i gael mynediad at wybodaeth ddibynadwy i ddod yn wybodus am wleidyddiaeth, democratiaeth ac etholiadau, a chymryd y camau cyntaf i gymryd rhan yn lleol. 

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected].

Nodiadau i olygyddion

  • Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
        o    alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r ymgyrched newidiol i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
        o    rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
        o    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
    Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.
  • Cynhaliwyd yr ymchwil i agweddau pobl ifanc at addysg ddemocrataidd gan DJS Research ar ran y Comisiwn Etholiadol. Cynhaliwyd ymchwil meintiol ac ansoddol cyfun gyda 2,516 o blant a phobl ifanc 11-25 oed.
  • Mae'r Comisiwn yn cyhoeddi ystod o adnoddau sy'n ei gwneud hi'n hawdd i bobl ifanc gymryd rhan a thrafod democratiaeth ac etholiadau. Mae'r offer addysgol wedi'u cynllunio i'w defnyddio mewn gwersi llawn a sesiynau byrrach, fel gwasanaethau ysgol. Mae’r adnoddau’n cynnwys fideos wedi’u hanimeiddio, cynlluniau gwersi, cynlluniau gwasanaeth, gweithgareddau byr a chwisiau rhyngweithiol, ac mae pob un wedi’i deilwra i’r gwahanol gwricwlwm a chyd-destunau ar draws y DU.
  • Gall addysgwyr a myfyrwyr sydd am gymryd rhan yn ‘Wythnos Croeso i Dy Bleidlais’ gael mynediad at yr adnoddau rhad ac am ddim ar wefan y Comisiwn Etholiadol drwy fynd i www.electoralcommission.org.uk/cy/croeso-i-dy-bleidlais.