Miloedd o bleidleiswyr coll yn cael eu hannog i gofrestru cyn etholiad y Senedd
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi lansio ymgyrch i annog pobl i gofrestru i bleidleisio a sicrhau y gallant gymryd rhan yn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ddydd Llun 20 Ebrill. Gall pleidleiswyr wneud cais ar-lein drwy fynd i gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Mae’n cymryd pum munud yn unig.
Canfu ymchwil flaenorol nad yw tua 400,000 o bobl yng Nghymru wedi'u cofrestru'n gywir. Mae oedran yn parhau i gael effaith sylweddol ar gofrestru – dim ond 43% o bobl 16–17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio, o'i gymharu â 95% o'r rhai sydd dros 65 oed. Mae grwpiau eraill sy'n llai tebygol o fod wedi cofrestru yn cynnwys myfyrwyr, pobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar, rhentwyr preifat, a dinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru.
Mae'r ymgyrch wedi'i chynllunio i annog pobl i ddathlu a bod yn falch o fod ar y gofrestr etholiadol, gyda hysbysebion yn cynnwys grwpiau amrywiol o bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio, gan ei ddangos i ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr. Fel rhan o lansiad yr ymgyrch, bydd adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn cael ei oleuo gyda'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru nos Fercher 11 Mawrth.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:
“Mae’n bwysig bod pobl yn gwirio eu bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn etholiad y Senedd sydd ar ddod ar 7 Mai. Mae unrhyw un sy'n byw yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad yn gymwys i bleidleisio.
“Os nad ydych chi erioed wedi cofrestru o’r blaen, os ydych wedi newid eich enw’n ddiweddar neu wedi symud tŷ, dim ond pum munud y mae’n ei gymryd i ddiweddaru eich manylion ar-lein. Mae gwirio nawr yn helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn yr etholiad hwn.”
Ar ôl iddynt gofrestru, bydd gan bleidleiswyr ystod o ddewisiadau – gallant bleidleisio’n bersonol, trwy’r post, neu drwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy. Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Ella Griffiths-Downing, Uwch Gynghorydd Cyfathrebu, ar 029 2034 6824 neu e-bostiwch [email protected].
Notes to editors
- Ar 7 Mai, cynhelir etholiad y Senedd ledled Cymru. I fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yr UE neu dramor sy'n byw yng Nghymru, yn 16 oed neu'n hŷn.
- Bydd yr arddangosfa oleuadau ar adeilad y Senedd yn cael ei gynnal rhwng tua 17:30 a 19:00 ddydd Mercher 11 Mawrth. Bydd llefarwyr y Comisiwn Etholiadol ar gael i’w cyfweld.
- Mae graffeg a darluniau o'r ymgyrch y gellir eu hymgorffori mewn erthyglau a'u defnyddio ar wefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan.
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw canol nos ar 20 Ebrill.
- Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost yw 5pm ar 21 Ebrill.
- Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5pm ar 28 Ebrill.
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth, ac eirioli trostynt
- gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.