Pleidiau gwleidyddol wedi derbyn dros £24m mewn rhoddion yn nhrydydd chwarter 2025

Political parties accept over £24m in donations in third quarter of 2025

Adroddodd pleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru yn y DU eu bod wedi derbyn £24m mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ystod trydydd chwarter 2025 (rhwng mis Gorffennaf a mis Medi), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw

Mae hyn yn cymharu â £10,046,532 yn yr un cyfnod yn 2024, a £11,191,843 yn y chwarter blaenorol (Ch2 2025). 

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol: 

“Mae gan system cyllid gwleidyddol y DU lefelau uchel o dryloywder, a gwyddom fod gan bleidleiswyr ddiddordeb mewn gwybod o ble mae pleidiau’n cael eu harian. Mae'r cyhoeddiad chwarterol hwn yn rhan bwysig o gyflwyno'r wybodaeth hon i bleidleiswyr.

“Fodd bynnag, gwyddom fod rhannau o’r system sydd angen eu cryfhau, ac rydym wedi bod yn galw am newidiadau i’r gyfraith ers peth amser. Mae’n bosib y bydd diwygiadau arfaethedig llywodraeth y DU i'r drefn cyllid gwleidyddol yn gwella cryfder rheolaethau rhoddion ac yn helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr gael hyder yn y system cyllid gwleidyddol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r llywodraeth fel bod unrhyw newidiadau yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymarferol.” 

Y pleidiau gwleidyddol a adroddodd am roddion yn Ch3 2025, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd: 

PlaidCyfanswm a adroddwydRhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus)Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon£56,454£16,863£39,591£56,454
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol£7,038,861£4,662,110£2,319,506£6,981,616
Y Blaid Gydweithredol£425,250£425,250£0£425,250
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P£233,169£0£233,169£233,169
Y Blaid Werdd£371,753£30,439£313,860£344,300
Y Blaid Lafur£2,564,786£2,190,340£374,446£2,564,786
Y Democratiaid Rhyddfrydol£2,174,712£1,046,412£1,023,462£2,069,874
Pobl Cyn Elw (People Before Profit)£4,302£0£4,302£4,302
Plaid Cymru - The Party of Wales£168.912£12,301£156,611£168,912
Reform UK£10,526,846£10,293,511£227,835£10,521,346
Plaid Werdd yr Alban£5,874£0£5,874£5,874
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)£225,104£0£225,104£225,104
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur)£202,712£7,500£195,212£202,712
Sinn Féin£118,488£0£118,488£118,488
Y Blaid Democratiaid Cymdeithasol£24,000£12,000£0£12,000
The Reclaim Party£20,000£20,000£0£20,000
Plaid Sosialaidd Prydain Fawr£180,000£180,000£0£180,000
Traditional Unionist Voice - TUV£6,859£0£6,859£6,859
Plaid Unoliaethwyr Ulster£18,214£0£18,214£18,214
Cyfanswm£24,366,296£18,896,728£5,262,533£24,159,261

Gall gwerth y rhoddion a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn fod yn wahanol i werth y rhoddion a dderbyniodd y blaid mewn gwirionedd yn y chwarter hwnnw. Gall hyn fod oherwydd rhoddion a gydgrynhowyd, rhoddion na chaniateir a/neu roddion a adroddwyd yn hwyr.

Benthyca

Adroddodd tri phlaid eu bod wedi ymrwymo i gyfanswm o £1,008,000 o fenthyciadau newydd yn nhrydydd chwarter 2025. 

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected] 

Nodiadau i olygyddion

  • Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r pleidiau yn adrodd:
    • rhoddion a dderbyniwyd sy’n uwch na’r trothwy o £11,180 (dros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
    • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
    • rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain
    • rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol
  • Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
  • Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd.
  • Roedd 395 o bleidiau gwleidyddol wedi’u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod ail chwarter 2025. Roedd gofyn i 60 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 42 ohonynt gyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.
  • Diffinnir cymdeithas anghorfforedig gan y gyfraith fel unrhyw gymdeithas o ddau neu ragor o bobl sy’n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn y Deyrnas Unedig ac y mae eu prif swyddfa yno. Dim ond os ydynt yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol y caiff cymdeithasau anghorfforedig eu rheoleiddio, a rhaid iddynt gofrestru gyda ni os ydynt yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,420 mewn blwyddyn galendr.  
  • Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn natganiad cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol.
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
    • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
      Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.