Pleidiau gwleidyddol yn derbyn bron i £65 miliwn mewn rhoddion yn 2025

Pleidiau gwleidyddol yn derbyn bron i £65 miliwn mewn rhoddion yn 2025

Mae pleidiau gwleidyddol cofrestredig yn y DU wedi adrodd eu bod wedi derbyn £15,450,561 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ystod pedwerydd chwarter 2025 (Hydref i Ragfyr), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol.  

Mae hyn yn cymharu â £7,462,837 yn yr un cyfnod yn 2024, a £24,347,494 yn y chwarter blaenorol (Ch3 2025).  

Derbyniwyd £64,838,824 yn ystod y flwyddyn 2025.

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:  

“Derbyniwyd bron i £65 miliwn mewn rhoddion gan bleidiau gwleidyddol yn ystod 2025. Mae gan system cyllid gwleidyddol y DU lefelau uchel o dryloywder, a gwyddom fod gan bleidleiswyr ddiddordeb mewn gwybod o ble mae pleidiau’n cael eu harian. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhan bwysig o gyflwyno’r wybodaeth hon i bleidleiswyr.

“Fodd bynnag, gwyddom fod rhannau o’r system sydd angen eu cryfhau, ac rydym wedi bod yn galw am newidiadau i’r gyfraith ers peth amser. Gallai diwygiadau arfaethedig llywodraeth y DU i’r drefn cyllid gwleidyddol yn y Bil Cynrychiolaeth y Bobl wella cryfder rheolaethau rhoddion ac helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr gael hyder yn y system cyllid gwleidyddol. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r llywodraeth fel bod unrhyw newidiadau yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymarferol.”  

Y pleidiau gwleidyddol a adroddodd am roddion yn Ch4 2025, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:  

PlaidCyfanswm a adroddwydRhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwydCyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon£65,140£20,538£44,602£65,140
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol£4,216,224£2,401,452£1,614,729£4,016,181
Y Blaid Gydweithredol£131,180£131,180£0£131,180
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P£104,320£0£104,320£104,320
Y Blaid Werdd£294,069£189,010£98,764£287,773
Y Blaid Lafur£2,043,007£1,943,824£31,836£1,975,660
Y Democratiaid Rhyddfrydol£2,190,101£1,314,139£749,173£2,063,312
Plaid Agored£197,151£155,067£0£155,067
Pobl Cyn Elw (People Before Profit)£8,605£0£6,453£6,453
Plaid Cymru£63,967£30,000£33,967£63,967
Reform UK£5,473,000£5,456,000£0£5,456,000
Plaid Werdd yr Alban £12,013£0£12,013£12,013
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)£135,450£42,691£92,758£135,450
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur)£84,372£7,500£76,872£84,372
Sinn Féin£144,183£25,696£118,488£144,183
Y Blaid Democratiaid Cymdeithasol£8,000£8,000£0£8,000
The Reclaim Party£40,000£40,000£0£40,000
Y Llais Unoliaethol Traddodiadol – TUV£6,859£0£6,859£6,859
Plaid Unoliaethwyr Ulster £24,563£0£24,563£24,563
Eich Plaid£670,068£670,068£0£670,068
Cyfanswm£15,912,271£12,435,165£3,015,396£15,450,561

Gall gwerth y rhoddion a adroddir gan blaid wleidyddol fod yn wahanol i werth y rhoddion a dderbyniodd y blaid mewn gwirionedd yn y chwarter hwnnw. Gall hyn ddigwydd pan fydd pleidiau’n adrodd ar roddion a gydgrynhowyd, yn dychwelyd rhoddion nas caniateir, neu’n adrodd ar roddion yn hwyr.

Benthyca

Ni ymrwymwyd i unrhyw fenthyciadau newydd yn ystod pedwerydd chwarter 2025. Adroddodd 3 plaid eu bod wedi talu’n llawn cyfanswm o £58,656 mewn benthyciadau a oedd yn ddyledus.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected] 

Nodiadau i olygyddion

  • Mae’n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i’r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae’r pleidiau yn adrodd:
    • rhoddion a dderbyniwyd sy’n uwch na’r trothwy o £11,180 (dros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
    • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda’i gilydd, yn fwy na’r trothwy adrodd
      • rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a’r camau a gymerwyd mewn perthynas â’r rhain
    • rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol
  • Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw’r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
  • Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi, Senedd yr Alban a’r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau ‘Short’ a ‘Cranborne’ ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi fel ei gilydd.  
  • Roedd 408 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod pedwerydd chwarter 2025. Roedd gofyn i 66 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 51 ohonynt gyflwyno gwybodaeth fenthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf, maent wedi’u heithrio rhag cyflwyno adroddiad.  
  • Diffinnir cymdeithas anghorfforedig gan y gyfraith fel unrhyw gymdeithas o ddau neu ragor o bobl sy’n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn y Deyrnas Unedig ac y mae eu prif swyddfa yno. Dim ond os ydynt yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol y caiff cymdeithasau anghorfforedig eu rheoleiddio, a rhaid iddynt gofrestru gyda ni os ydynt yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 mewn blwyddyn galendr.
    • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
    • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i’r afael ag amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
    • Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.