£2m wedi ei dderbyn gan bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn ystod pedwaredd wythnos yr ymgyrchu

Mae £2 filiwn mewn rhoddion i bleidiau gwleidyddol wedi'u hadrodd i'r Comisiwn Etholiadol yn y pedwerydd adroddiad wythnosol cyn y bleidlais, a dderbyniwyd cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU yr wythnos diwethaf.

Cyfanswm y rhoddion dros £2 filiwn a dderbyniwyd gan bleidiau yn ystod y cyfnod adrodd rhwng 20 a 26 Mehefin 2024:

PlaidRhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus)Cronfeydd cyhoeddus a gafwydCyfanswm
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr)£378,945£0£378,945
Y Blaid Werdd£120,000£0£120,000
Y Blaid Lafur£451,232£0£451,232
Y Democratiaid Rhyddfrydol£515,982£0£515,982
Reform UK£592,360£0£592,360
Cyfanswm£2,058,519£0£2,058,519

Cyn etholiad cyffredinol Senedd y DU, mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig gyflwyno pedwar adroddiad wythnos yn nodi'r rhoddion a'r benthyciadau dros £11,180 y maent wedi'u derbyn rhwng 30 Mai a 26 Mehefin 2024. Rhaid cyflwyno dau adroddiad arall ar ôl y diwrnod pleidleisio am y cyfnod 27 Mehefin i 4 Gorffennaf 2024.

Yn yr adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais, rhaid i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau adrodd am roddion y maent wedi'u derbyn yn ystod y cyfnod perthnasol. Fodd bynnag, mae ganddynt 30 diwrnod ar ôl cael rhodd i wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir a phenderfynu p'un a i dderbyn y rhodd ai peidio.

Ym mis Ionawr 2024 cynyddodd y trothwy i bleidiau gwleidyddol sy’n adrodd am roddion i’r Comisiwn. Yn dilyn newid yn y gyfraith gan Lywodraeth y DU, mae’n ofynnol i bleidiau roi gwybod am roddion dros £11,180 (£7,500 yn flaenorol).

Crynodeb o fenthyciadau 

Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol fenthyciad o £60,000 yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected] 

Notes to editors

  1. Mae manylion y cyfnodau adrodd a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau isod:

    Cyfnod adroddDyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadauDyddiadau cyhoeddi
    20 Mehefin - 26 MehefinDydd Mercher 3 Gorffennaf 2024Dydd Llun 8 Gorffennaf 2024
    27 Mehefin - 3 GorffennafDydd Mercher 10 Gorffennaf 2024Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024
    4 Gorffennaf (llai na 7 diwrnod)Dydd Iau 11 Gorffennaf 2024Dydd Llun 15 Gorffennaf 2024
  2. Ym mis Ionawr 2024 cynyddodd y trothwy ar gyfer adrodd am roddion i £11,180. Yn etholiad cyffredinol diwethaf Senedd y DU yn 2019, y trothwy ar gyfer adrodd am roddion oedd £7,500. 
  3. Mae ymgyrchydd di-blaid yn grŵp sy'n ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau ond nad yw'n blaid wleidyddol ac nad yw'n sefyll ymgeiswyr. Mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gofrestru gyda ni os ydynt am wario mwy na £20,000 yn Lloegr, neu £10,000 yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae rhestr o ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
  4. Rhaid i bob plaid wleidyddol gofrestredig gyflwyno adroddiadau rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais, oni bai eu bod wedi eithrio eu hunain drwy ddatgan nad ydynt yn sefyll ymgeiswyr. Ystyrir methiant i wneud hynny yn unol â'n Polisi Gorfodi.
  5. Cyhoeddir rhoddion dros £11,180 a dderbynnir gan bleidiau yn ystod ail chwarter 2024 (1 Ebrill i 30 Mehefin) ym mis Medi.
  6. Hefyd, mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig hefyd gyflwyno adroddiadau rhoddion wythnosol cyn y bleidlais yn gosod pa roddion y maent wedi'u derbyn dros £7,500. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi ynghyd ag adroddiadau rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol. Ni adroddwyd am unrhyw roddion gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn ystod yr wythnos hon.
  7. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
  8. galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  9. rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  10. defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

    Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban, a Senedd y DU.