Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i ddwy blaid wleidyddol (Rhagfyr 2023)

Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i ddwy blaid wleidyddol

dwy blaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf, gyda’r Comisiwn Etholiadol yn gosod cosbau mewn un achos.

Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:

Pwy y gwnaethom ymchwilio iddyntYr hyn y gwnaethom ei ymchwilio  =Yr hyn y gwnaethom ganfodCanlyniad
Andover Alliance (plaid wleidyddol a ddadgofrestrwyd)Methu â darparu’r datganiad o gyfrifon ar gyfer 2022 erbyn y dyddiad cauTroseddau a gafwydUn dirwy o £200 wedi’i gosod ar drysorydd y blaid
Y Blaid Lafur (plaid wleidyddol gofrestredig)Adrodd yn hwyr am 18 o roddionTroseddau a gafwyd 

Un dirwy o £250 wedi’i gosod ar y blaid

Dirwy wedi'i thalu

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol: 

“Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol rydyn ni’n eu gorfodi yn bodoli i sicrhau tryloywder a chynyddu hyder y cyhoedd yn ein system. Mae'r cyfreithiau’n glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu dilyn.

“Lle canfyddwn troseddau, ystyriwn yn ofalus yr amgylchiadau cyn benderfynu p’un a ddylid gosod cosb. Rydym yn ystyried amrywiaeth o ffactorau cyn gwneud ein penderfyniad terfynol, gan gynnwys cymesuredd.” 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected] 

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
        •    galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
        •    rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
        •    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
    Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
  2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o fisoedd blaenorol ar gael.
  3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.