Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad sydd wedi dod i ben

Electoral Commission publishes concluded investigation update

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhoi dirwy i Blaid Weriniaethol Sosialaidd Iwerddon (Gogledd Iwerddon) ar ôl cwblhau ymchwiliad i fethiant y blaid i gadw cofnodion cyfrifyddu a oedd yn ddigonol i ddangos ac egluro trafodion y blaid.

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ddiweddariad misol y Comisiwn ar ymchwiliadau sydd wedi dod i ben.

Pwy y gwnaethom ymchwilio iddyntYr hyn y gwnaethom ei ymchwilioYr hyn y gwnaethom ganfodCanlyniad
Plaid Weriniaethol Sosialaidd Iwerddon (Gogledd Iwerddon)Methiant y blaid i gadw cofnodion cyfrifyddu a oedd yn ddigonol i ddangos ac egluro trafodion y blaidCafwyd bod un camwedd

Fine of £250

Dirwy o £250
Cosb yn ddyledus erbyn 3 Rhagfyr 2024

Yn ôl y gyfraith, rhaid i blaid gofrestredig sicrhau bod cofnodion cyfrifyddu yn cael eu cadw sy’n ddigonol i ddangos ac egluro trafodion y blaid. Rhaid i gofnodion cyfrifyddu ddatgelu, gyda chywirdeb rhesymol, sefyllfa ariannol y blaid ar y pryd. 

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol: 

“Canfu ein hymchwiliad i Blaid Weriniaethol Sosialaidd Iwerddon (Gogledd Iwerddon) fethiannau i ddarparu gwybodaeth ariannol berthnasol sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.  

“Mae’r cyfreithiau rydym yn eu gorfodi yno i sicrhau tryloywder yn y gyfundrefn cyllid gwleidyddol ac i wella hyder y cyhoedd yn ein system, felly mae’n bwysig bod cofnodion cyfrifyddu dibynadwy ar gael.”

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected] 
 

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
        •    galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
        •    rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
        •    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
    Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
  2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi’u cau o fisoedd blaenorol hefyd ar gael ar ein gwefan.
  3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.