Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad sydd wedi dod i ben (Mawrth 2024)
Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad sydd wedi dod i ben
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi rhoi dirwy o £10,750 i’r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol ar ôl cwblhau ymchwiliad i fethiant y blaid i adrodd am roddion yn gywir. Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ddiweddariad misol y Comisiwn ar ymchwiliadau sydd wedi dod i ben.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
| Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
|---|---|---|---|
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methiant i adrodd yn gywir ar 19 o roddion a’u symiau ar ffurf cyflogai ar secondiad, a rhodd arall a adroddwyd yn hwyr | Troseddau a gafwyd | Dwy gosb sy’n dod i gyfanswm o £10,750 Talwyd y gosb ar 6 Mawrth 2024 |
Ni adroddodd y blaid yn ddigonol am roddion nad ydynt yn arian parod, ar ffurf cyflogai a secondiwyd i’r blaid gan roddwr rhwng mis Ebrill 2020 a mis Rhagfyr 2023. Roedd gwerth mwy na £200,000 o roddion nad ydynt yn arian parod heb eu hadrodd, pan symudodd y cyflogai ar secondiad o waith rhan amser i waith llawn amser i’r blaid.
Adroddodd y blaid yn hwyr hefyd am un rhodd nad yw’n arian parod yn ymwneud â’r un gweithiwr ar secondiad, ym mis Rhagfyr 2023.
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol:
“Canfu ein hymchwiliad i’r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol fod nifer o roddion wedi’u hadrodd yn anghywir neu eu hadrodd yn hwyr. Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol rydym yn eu gorfodi yno i sicrhau tryloywder o ran sut mae pleidiau’n cael eu hariannu ac i wella hyder y cyhoedd yn ein system, felly mae’n bwysig bod rhoddion yn cael eu hadrodd yn llawn ac yn glir.
“Lle canfyddwn troseddau, ystyriwn yn ofalus yr amgylchiadau cyn penderfynu p’un a ddylid gosod cosb. Rydym yn ystyried amrywiaeth o ffactorau cyn gwneud ein penderfyniad terfynol, gan gynnwys cymesuredd.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban. - Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o fisoedd blaenorol ar gael.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.