Ymgyrch cofrestru pleidleiswyr newydd yn dathlu’r elfen ‘teimlo'n dda’ o gymryd rhan mewn democratiaeth
Ymgyrch cofrestru pleidleiswyr newydd yn dathlu’r elfen ‘teimlo'n dda’ o gymryd rhan mewn democratiaeth
Mae ymgyrch newydd gan y Comisiwn Etholiadol yn lansio heddiw ac yn galw ar bob pleidleisiwr i gofrestru i bleidleisio os ydyn nhw am ddweud eu dweud mewn etholiadau ar ddydd Iau 2 Mai.
Bwriad yr ymgyrch yw annog pobl i ddathlu ac ymfalchïo mewn bod ar y gofrestr etholiadol. Mae’n galw ar bobl i gofrestru cyn yr etholiadau yng Nghymru a Lloegr ddydd Iau 2 Mai, cyn i’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru ddod i ben ar 16 Ebrill. Mae'n nodi newid o ymgyrchoedd blaenorol sydd wedi pwysleisio pa mor gyflym a hawdd yw cofrestru, i ganolbwyntio yn lle hynny ar yr elfen ‘teimlo'n dda’ o gymryd rhan mewn democratiaeth.
Gwyliwch hysbyseb yr ymgyrch newydd yma.
Nod yr hysbyseb yw apelio at lawer o'r grwpiau sy'n llai tebygol o fod wedi'u cofrestru, gan gynnwys pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig, a phleidleiswyr anabl.
Meddai Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu:
“Mae etholiadau yn gyfle pwysig i bobl gael dweud eu dweud ar y materion sydd o bwys iddyn nhw. Ac eto mae cymaint â 7 miliwn o bobl yn colli’r cyfle hwn oherwydd nad ydyn nhw ar y gofrestr etholiadol, sy’n cynrychioli miliynau o leisiau coll.
“Cyn etholiadau mis Mai, a gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel, mae’n bwysig bod pobol yn cael eu cofrestru fel bod eu llais yn cael ei glywed yn y blwch pleidleisio. Mae gan unrhyw un sydd am fwrw pleidlais yn etholiadau mis Mai tan y dyddiad cau ar 16 Ebrill i gofrestru.”
Mae cofrestru pleidleiswyr yn agored i holl ddinasyddion Prydain ac Iwerddon a dinasyddion cymwys y Gymanwlad sy'n byw yn y DU, sy'n 18 oed neu'n hŷn. Bydd angen i unrhyw un a oedd ar y gofrestr yn flaenorol ac sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar neu y mae eu manylion wedi newid, gofrestru eto.
Bydd ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd y Comisiwn yn cael ei chynnal ar draws y cyfryngau torfol a sianeli digidol wedi’u targedu, gan gynnwys teledu, fideo ar alw, arddangosiadau y tu allan i’r cartref ac arddangosiadau digidol. Mae'r ymgyrch yn cael ei chynnal o heddiw tan y dyddiad cau ar gyfer cofrestru.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Mae etholiadau lleol yn cael eu cynnal mewn 108 o awdurdodau lleol ar draws Lloegr. Mae etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal mewn 39 ardal heddlu yng Nghymru a Lloegr. Yn Llundain, cynhelir etholiadau ar gyfer Maer Llundain a 25 o Aelodau Cynulliad Llundain. Mae yna hefyd naw etholiad maerol awdurdod cyfun, ac un etholiad maerol awdurdod lleol.
- Amcangyfrifir bod tua 44 miliwn o bobl yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau mis Mai eleni yng Nghymru a Lloegr. Ac eto mae cymaint â 7 miliwn o bobl naill ai wedi'u cofrestru'n anghywir neu ar goll o'r gofrestr yn gyfan gwbl.
- Mae ymchwil yn dangos mai pobl ifanc, myfyrwyr a'r rhai sydd wedi symud yn ddiweddar yw'r grwpiau lleiaf tebygol o fod wedi’u cofrestru
- Mae'r Comisiwn hefyd yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad ID pleidleisiwr. Bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae rhestr o fathau o ID a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Mae ID pleidleisiwr am ddim ar gael i'r rhai nad oes ganddynt fath o ID ffotograffig a dderbynnir.
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
o galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
o rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
o defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth, ac eirioli trostynt
o gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.