Cyflwynwyd y datganiad strategaeth a pholisi ar gyfer y Comisiwn Etholiadol ar 29 Chwefror 2024.
Mae’r datganiad yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth y DU o ran materion etholiadol a’n cyfeiriad strategol.
Mae’n ofynnol inni ddilyn yr hyn a nodir yn y datganiad ac adrodd i Bwyllgor y Llefarydd ar gyfer y Comisiwn Etholiadol ar sut yr ydym yn bodloni blaenoriaethau Llywodraeth y DU.
Ein barn
Nid yw’r Datganiad Strategaeth a Pholisi, sy’n galluogi’r llywodraeth i osod y cyfeiriad strategol ar gyfer gwaith y Comisiwn, yn gyson â’r rôl y mae Comisiwn annibynnol yn ei chwarae mewn democratiaeth iach. Mae'r annibyniaeth hon yn sylfaenol i gynnal hyder yn ein system etholiadol ac yn hanfodol i iechyd ein democratiaeth.