Gwybodaeth am y Ddeddf Etholiadau

Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud newidiadau i system etholiadol y DU. Mae’r Ddeddf Etholiadau yn cynnwys mesurau sy’n effeithio ar y canlynol:

  • etholiadau a'r ffordd rydym yn pleidleisio
  • ymgyrchu a'r rheolau ynglŷn â gwariant ar ymgyrchu a chyllido
  • goruchwyliaeth seneddol o'r Comisiwn Etholiadol. 

Mae'r newidiadau yn y Ddeddf yn gymwys i etholiadau Senedd y DU, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr ac etholiadau lleol yn Lloegr. Bydd rhai darpariaethau yn gymwys i etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'r Ddeddf yn ceisio gwella diogelwch, hygyrchedd a thryloywder etholiadau ac ymgyrchu.

Nawr bod y Ddeddf wedi'i phasio'n gyfraith – a bod rheolau newydd ar gyfer etholiadau, pleidleisio ac ymgyrchu – rydym yn gweithio gyda phleidleiswyr, cynghorau lleol, pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a chyrff cynrychioliadol er mwyn sicrhau bod pawb sy'n ymwneud ag etholiadau yn deall y newidiadau.