Newidiadau sylweddol yn cael eu cynnig i etholiadau'r DU – ymateb y Comisiwn Etholiadol
Newidiadau sylweddol yn cael eu cynnig i etholiadau'r DU – ymateb y Comisiwn Etholiadol
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi ymateb i Fil Etholiadau newydd, a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth y DU.
Mae'r Bil yn cynnig newidiadau sylweddol i'r rheolau ar gyfer etholiadau yn y DU, a fydd yn effeithio ar bleidleiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr etholiadol. Ymhlith y mesurau mae gofyniad i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio ddangos prawf adnabod â llun arno cyn iddynt gael eu papur pleidleisio; ymestyn y rheolau ynglŷn ag argraffnodau i ddeunydd digidol; a chael gwared ar y terfyn o 15 mlynedd ar hawliau pleidleisio i ddinasyddion Prydeinig sy'n byw dramor
Wrth sôn am y Bil, dywedodd Craig Westwood, Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil y Comisiwn Etholiadol:
“Mae'r Bil Etholiadau yn ceisio mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â diogelwch, hygyrchedd a thryloywder etholiadau ac ymgyrchu. Mae'n cynrychioli ymrwymiad cryf gan Lywodraeth y DU i foderneiddio ein system etholiadau a mynd i'r afael â meysydd y mae angen eu gwella.
“Mae cyflwyno rheolau ynglŷn ag argraffnodau digidol yn gam cadarnhaol iawn a groesewir gennym. Dylai rhoi gwybodaeth i bleidleiswyr am y sawl sy'n ceisio eu cyrraedd helpu i ennyn hyder y cyhoedd mewn gweithgarwch ymgyrchu ar-lein.”
Byddai'r newidiadau yn y Bil yn gymwys i etholiadau Senedd y DU, etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr ac etholiadau lleol yn Lloegr. Byddai rhai darpariaethau yn gymwys i etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon.
Byddwn yn rhoi cyngor annibynnol i seneddwyr ar gynnwys y Bil, yn seiliedig ar dystiolaeth gyhoeddedig a'n harbenigedd. Byddwn hefyd yn cyhoeddi ein barn.
Wrth sôn am y broses o roi'r newidiadau ar waith, ychwanegodd Craig Westwood:
“Mae'r cyfreithiau sy'n ymwneud ag etholiadau eisoes yn gymhleth ac yn dameidiog, felly gallai cyflwyno gofynion newydd ychwanegu mwy o risg. Bydd angen i'r newidiadau gael eu cynllunio'n dda, eu rhoi ar waith fesul cam a'u hariannu'n gywir, er mwyn sicrhau y gall gweinyddwyr etholiadol, ac eraill sy'n ymwneud â chynnal etholiadau, gyflwyno'r newidiadau yn ôl y bwriad.
“Gall pob un o lywodraethau'r DU benderfynu ar y cyfreithiau a fydd yn gymwys yn yr etholiadau y maent yn gyfrifol amdanynt. Pan fydd penderfyniadau gwahanol yn cael eu gwneud, bydd yn rhaid ystyried yr effaith a gaiff hynny ar y ffordd y mae'r system yn gweithio yn ei chyfanrwydd a sicrhau y gall pawb ddeall pa reolau sydd ar waith mewn etholiadau gwahanol.
“Bydd y Comisiwn yn gweithio gyda phleidleiswyr, gweinyddwyr etholiadol, pleidiau ac ymgyrchwyr i'w helpu i ddeall y rheolau newydd a pharatoi ar eu cyfer mewn da bryd.”
Ceir crynodeb o farn y Comisiwn ar bob un o fesurau'r Bil ar ei wefan.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected]
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
2. Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.